Unicode ac acenion Cymraeg ar y we
Os ydych wedi cael trafferth gyda llythrennau acennog y Gymraeg ar y we, dyma'r atebion.
Methu gweld ychydig o'r llythrennau ar y tudalen yma?
Testun esiampl
Aeth i'r dref i ymweld â Pharlwr Tatŵ John Bach er mwyn cael andros o Ddraig Goch fawr ar ei gefn mewn pryd ar gyfer gêm fawr Cymru â'r Eidal.
Does dim to ar ben y tÅ·.
Mae'r dŵr yn oer.
Mae'r tudalen hwn yn defnyddio UTF-8 neu Unicode er mwyn arddagos llythrennau Cymraeg. Os ydych chi'n cael problemau yn darllen y testun, yna mae'n bosib nad yw Unicode wedi cael ei weithredu yn eich porwr gwe.
Beth yw Unicode?
Unicode yw safon gyffredin yr holl fyd ar gyfer arddangos testun.
Mae Unicode yn gallu arddangos dros filiwn o lythrennau unigol, gan gynnwys gwyddorau bron pob iaith sy'n bod. Mae Windows 2000, Windows XP, Mac OS X a Linux yn cynnwys Unicode, ac mae'r rhan fwyaf o feddalwedd modern yn cynnal Unicode.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar , ynghyd â chysylltiadau perthnasol.
Gweithredu Unicode yn eich porwr
Er mwyn gweithio'n iawn gyda Unicode, mae'n rhaid i'ch porwr fedru dehongli llythrennau UTF-8 a chael ffont Unicode addas.
Os nad yw eich porwr wedi ei addasu ar gyfer UTF-8 yna ni fydd y llythrennau acennog Cymraeg arbennig yn arddangos, neu efallai bydd y llythrennau yn arddangos yn anghywir.
Fe ddylai eich porwr ddirnad y defnydd o Unicode gan fod y rhan fwyaf o borwyr y we, ar gyfer PC a Mac, yn ei gynnal. Serch hynny, efallai y bydd rhaid ichi addasu eich porwr i arddangos Unicode.
Am wybodaeth ar addasu eich porwr ar gyfer Unicode, ewch i dudalennau Alan Wood sy'n rhoi manylion ar y broses ar gyfer pob porwr.
Rydym hefyd wedi darparu rhestr lawn o lythrennau Cymraeg.