Βι¶ΉΤΌΕΔ

Sut i ddefnyddio Βι¶ΉΤΌΕΔ Chwilio

Wrth chwilio gwefan y Βι¶ΉΤΌΕΔ o dudalennau Cymraeg, fyddwch chi'n gweld canlyniadau o holl wefannau Cymraeg y Βι¶ΉΤΌΕΔ, gan gynnwys Newyddion a Chwaraeon.

Gallwch ddewis arddangos yr holl ganlyniadau ar unwaith, neu gyfyngu'ch chwilio i dudalennau Newyddion a Chwaraeon yn unig.

Canlyniadau Cymraeg

I chwilio gwefan Gymraeg y Βι¶ΉΤΌΕΔ, pwyswch y tab Canlyniadau Cymraeg ar frig y dudalen (dyma'r tab fydd wedi ei ddewis i chi y tro cyntaf), rhowch eiriau yn y blwch a phwyswch Chwilio.

Meddyliwch am eich termau chwilio - ceir y canlyniadau gorau gyda geiriau disgrifiadol a phenodol, a chadwch y chwiliad yn gryno.

Dangosir canlyniadau gyda'r dolenni mwyaf defnyddiol yn gyntaf.

Nesaf, os yw'n addas, dangosir rhestr o benawdau Newyddion a Chwaraeon y Βι¶ΉΤΌΕΔ sy'n berthnasol i'ch testun chwilio, gan nodi'r nifer o ddyddiau ers cyhoeddi'r stori gyda'r diweddaraf yn gyntaf.

Wedyn rhestrir yr holl dudalennau Cymraeg eraill sy'n berthnasol i'ch chwiliad.

Newyddion a Chwaraeon

I chwilio oddi fewn i Newyddion a Chwaraeon yn unig, pwyswch y tab Newyddion a Chwaraeon ar frig y dudalen, rhowch eiriau yn y blwch a phwyswch Chwilio.

Dangosir rhestr o benawdau erthyglau perthnasol. Gellwch ail-drefnu'r rhestr hon yn Γ΄l dyddiad yn hytrach na pherthnasedd trwy bwyso ar y botwm Yn Nhrefn Dyddiad ar frig y rhestr.

Chwilio holl wefannau'r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Os hoffech chi weld canlyniadau o wefannau Saesneg y Βι¶ΉΤΌΕΔ, gan gynnwys canlyniadau ar gyfer rhaglenni teledu a radio, clipiau sain a fideo Newyddion a Chwaraeon, ac argymhellion ar gyfer gwefannau eraill tu allan y Βι¶ΉΤΌΕΔ, pwyswch y ddolen Chwilio holl wefannau'r Βι¶ΉΤΌΕΔ ar ochr dde'r sgrin.

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.