ΒιΆΉΤΌΕΔ

Telerau defnyddio'r ΒιΆΉΤΌΕΔ ar gyfer mewnosod cynnwys

Cliciwch yma i ddarllen y telerau hyn yn Saesneg / Click here for ΒιΆΉΤΌΕΔ Embedding terms in English.

Mae'r ΒιΆΉΤΌΕΔ yn eich hannog i fewnosod ei gemau ar eich gwefan ond ar yr amod eich bod yn cytuno i rai telerau (gweler isod). Noder os gwelwch yn dda:

  • fe'ch caniateir i'w defnyddio ar eich gwefan bersonol yn unig
  • defnyddiwch y cod a ddarparwyd a pheidiwch Γ’ golygu'r gemau
  • gall y ΒιΆΉΤΌΕΔ ddileu'r gemau heb rybudd
  • mae'r ΒιΆΉΤΌΕΔ yn gwneud y gemau ar gael ar eich risg chi yn unig
  • peidiwch Γ’ mewnosod neu ymgorffori'r gemau mewn gwefannau sydd yn cynnwys deunydd anghyfreithiol neu ddeunydd sy'n cythruddo
  • ni ystyrir mewnosod y gemau ar eich gwefan, fel unrhyw fath o gymeradwyaeth neu sΓͺl bendith gan y ΒιΆΉΤΌΕΔ o'ch gwefan.

Caiff y gemau eu gwneud ar gael ar sail an-ecsgliwsif ac ni fyddwch yn honni fod y gemau ond ar gael ar eich gwefan chi neu fod gennych unrhyw fath o berthynas ecsgliwsif gyda'r ΒιΆΉΤΌΕΔ.

Os ydych o'r farn na ddylai'r gemau neu unrhyw gynnwys arall y ΒιΆΉΤΌΕΔ ymddangos ar wefan, yna cysylltwch Γ’ ni os gwelwch yn dda - cliciwch yma i gysylltu Γ’ ni ac fe wnawn ni adolygu'r wefan.

('ΒιΆΉΤΌΕΔ Application' yw ystyr 'Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ' yn y cyd-destun hwn)

Telerau Trwydded Safonol y Gorfforaeth Ddarlledu Prydeinig (y 'ΒιΆΉΤΌΕΔ') ar gyfer Rhaglen i'w Mewnosod

Trwy fewnosod neu lawrlwytho dyfais chwarae, widget, neu raglen arall sydd Γ’ brand y ΒιΆΉΤΌΕΔ arno ("Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ" / "ΒιΆΉΤΌΕΔ Application") ac unrhyw gynnwys testun, sain a/neu fideo a arddangosir o fewn Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ ("Cynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ") ar eich gwefan (y "Wefan"), yr ydych yn cytuno i'r telerau a bennir isod.

1. Trwydded

  • 1.1 Yn amodol ar y Telerau Trwydded Safonol hyn, mae'r ΒιΆΉΤΌΕΔ yn eich trwyddedu ar sail an-ecsgliwsif i arddangos Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ a Chynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ a ddarperir ac a weinir gan y ΒιΆΉΤΌΕΔ ar eich Gwefan. Ni allwch gopΓ―o nac ail-gyhoeddi unrhyw ffeiliau Cynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ.
  • 1.2 Bydd yr holl hawliau gan gynnwys yr holl hawliau eiddo deallusol yn Nghynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ a Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ yn parhau'n eiddo'r ΒιΆΉΤΌΕΔ.
  • 1.3 Nid yw'r drwydded hon yn cwmpasu ag unrhyw ddefnydd o unrhyw logo y ΒιΆΉΤΌΕΔ neu unrhyw nod masnach arall y ΒιΆΉΤΌΕΔ.

Defnydd o Raglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ

2.1 Gallwch fewnosod Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ ar wefannau sydd heb eu gwahardd gan y ΒιΆΉΤΌΕΔ. Mae'r categorΓ―au o wefannau sydd wedi eu gwahardd wedi eu nodi isod.

Mae gwefannau:

  • sydd yn cam-wahaniaethu yn erbyn unrhyw grΕ΅p cymdeithasol penodol neu sydd fel arall yn cymryd mantais o rannau bregus o gymdeithas
  • sydd yn hyrwyddo, annog neu'n hybu trais
  • sydd yn hyrwyddo, annog neu hybu gweithgaredd anghyfreithiol
  • sydd yn hyrwyddo, annog neu hybu terfysgaeth neu weithgareddau eraill sydd yn bygwth diogelwch y wlad
  • ble y byddai presenoldeb Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ ar y wefan yn cael ei weld fel rhywbeth oedd yn niweidio enw da'r ΒιΆΉΤΌΕΔ am gywirdeb neu ddidueddrwydd
  • nad sydd yn gwbl agored i bob canran o'r cyhoedd
  • sydd yn hyrwyddo'r diwydiant tybaco neu'r diwydiant arfau (gan gynnwys clybiau saethu ac ati)
  • sydd yn annog casineb ar sail hil, crefydd, rhywogaeth, anabledd, oedran neu rywioldeb neu sy'n hyrwyddo, annog neu'n hybu ymddygiad gwrth-gymdeithasol
  • sydd fel arall yn dwyn gwarth ar y ΒιΆΉΤΌΕΔ

wedi eu gwahardd.

2.2 Gellir defnyddio Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ a Chynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ at eich dibenion personol an-fasnachol yn unig ac, oni bai bo hynny wedi ei ganiatΓ‘u'n ysgrifenedig gan y ΒιΆΉΤΌΕΔ, ni ellir eu defnyddio at ddibenion corfforaethol neu broffesiynol (e.g. mewn blogiau proffesiynol neu fasnachol neu at bwrpasau marchnata) o gwbl. Tra y gellir defnyddio Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ ar flog neu wefan a ariennir gan hysbysebion, ni allwch godi tΓ’l ar ddefnyddwyr i wylio Cynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ neu fel arall ddefnyddio neu elwa yn fasnachol ar Gynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ mewn unrhyw fodd.

2.3 Ni fyddwch yn caniatΓ‘u i hysbysebion gael eu harddangos ar yr un sgrin Γ’ Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ ble mae yna gysylltiad rhwng yr hysbysebion a Chynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ. Os mai Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ sy'n cynrychioli mwyafrif y cynnwys ar unrhyw dudalen ar y wefan, neu lle na fyddai'r dudalen yn bodoli heb Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ, byddwch yn sicrhau na fydd unrhyw hysbysebion yn ymddangos ar y dudalen honno.

2.4 Ni allwch olygu, newid neu ychwanegu at Gynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ mewn unrhyw fodd, na chyfuno Cynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ ag unrhyw ddeunydd arall. Rhaid arddangos y cyfan o Gynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ o fewn Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ. Mae'n rhaid i chi weithredu a chynnal pob cysylltiad rhwng Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ Γ’ gwefan y ΒιΆΉΤΌΕΔ.

2.5 Ni allwch awgrymu bod y ΒιΆΉΤΌΕΔ wedi cymeradwyo neu roi ei sΓͺl bendith i'ch Gwefan neu i unrhyw endid, cynnyrch neu gynnwys nad sy'n rhai swyddogol y ΒιΆΉΤΌΕΔ neu unrhyw farn neu safbwyntiau a fynegir ar eich Gwefan. Ni allwch honni nac awgrymu fod gennych berthynas ecsgliwsif gyda'r ΒιΆΉΤΌΕΔ neu fel arall fod unrhyw Gynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ ond ar gael gennych chi [ar sail ecsgliwsif].

2.6 Ni allwch ddefnyddio Cynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ mewn unrhyw fodd y gall niweidio enw da'r ΒιΆΉΤΌΕΔ neu fel arall bery unrhyw golled i'r ΒιΆΉΤΌΕΔ.

2.7 Yr ydych yn derbyn a chytuno mai'r ΒιΆΉΤΌΕΔ sydd Γ’ rheolaeth olygyddol lwyr dros holl Gynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ ar bob adeg a gall y ΒιΆΉΤΌΕΔ newid neu ddileu unrhyw Gynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ ar unrhyw adeg fel y dymuna'r ΒιΆΉΤΌΕΔ. Yn benodol yr ydych yn derbyn a chytuno y gall y ΒιΆΉΤΌΕΔ gyfyngu ar argaeledd Cynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ fel ei fod ond ar gael i ddefnyddwyr yn y DU yn unig.

2.8 Rhaid defnyddio Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ fel ei darparwyd gan y ΒιΆΉΤΌΕΔ ac ni ellir ei newid, ei haddasu neu ei datod a'i dadansoddi mewn unrhyw fodd.

3. Gwarantau ac Atebolrwydd

3.1 Yr ydych yn gwarantu fod eich Gwefan yn cydymffurfio'n llawn Γ’'r holl ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol.

3.2 Gwneir Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ a Chynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ ar gael ar sail 'fel ag y maent' a 'fel y bΓ΄nt ar gael' ac nid yw'r ΒιΆΉΤΌΕΔ yn rhoi unrhyw warant o unrhyw fath mewn perthynas Γ’ Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ, Cynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ neu unrhyw gynnwys ar wefan y ΒιΆΉΤΌΕΔ. I'r radd eithaf a ganiateir gan y gyfraith, mae'r ΒιΆΉΤΌΕΔ yn eithrio ac yn hepgor pob gwarant a awgrymir gan y gyfraith a/neu bob gwarant stadudol.

3.3 Mae'r ΒιΆΉΤΌΕΔ wedi cymryd pob gofal rhesymol i sicrhau nad yw Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ ac unrhyw god meddalwedd cysylltiedig yn cynnwys unrhyw gamgymeriadau, feirws neu namau, ond, er hynny, nid yw'r ΒιΆΉΤΌΕΔ yn gwarantu fod hyn yn wir. Yr ydych yn defnyddio Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ yn Γ΄l eich disgresiwn eich hun ac ar eich risg chi eich hun ac fe'ch cynghorir i gymryd pob cam rhesymol i ddiogelu eich cyfrifiadur rhag cael ei heintio gan feirws.

3.4 I'r radd eithaf a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y ΒιΆΉΤΌΕΔ yn atebol am unrhyw golled neu niwed yr ydych yn dioddef o ganlyniad i, neu sy'n gysylltiedig Γ’'ch defnydd chi o Raglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ neu Gynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ.

3.5 Mae pob un o ddarpariaethau'r Cymal 3 hwn yn gweithredu ar ben ei hun ac yn bodoli a goroesi yn annibynnol o'r lleill.

4. Indemniad

4.1 Os digwydd i drydydd parti gychwyn achos cyfreithiol yn erbyn y ΒιΆΉΤΌΕΔ o ganlyniad i'ch defnydd chi o Raglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ yn groes i'r Telerau Trwydded Safonol hyn, 'rydych yn cytuno i indemnio'r ΒιΆΉΤΌΕΔ mewn perthynas ag unrhyw a phob iawndΓ’l, costau a threuliau, gan gynnwys ffΓ―oedd cyfreithiol a threuliau ymgyfreitha rhesymol, a ddioddefir neu a delir gan y ΒιΆΉΤΌΕΔ o ganlyniad i'r fath achos.

5. Terfynu

5.1 Gall y ΒιΆΉΤΌΕΔ gyfyngu ar, atal dros dro, neu derfynu'r cyfan neu unrhyw ran o Gynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ neu eich hawl i gael defnyddio Rhaglen y ΒιΆΉΤΌΕΔ neu Gynnwys y ΒιΆΉΤΌΕΔ ar unrhyw adeg yn Γ΄l disgresiwn llwyr y ΒιΆΉΤΌΕΔ heb unrhyw atebolrwydd.

5.2 Mae Cymalau 3, 4, 5 a 6 yn goroesi terfynu'r Cytundeb hwn.

6. Cyffredinol

6.1 Ni allwch drosglwyddo neu is-drwyddedu unrhyw un o'ch hawliau neu ddyletswyddau o dan y Telerau Trwydded Safonol i unrhyw drydydd parti.

6.2 Dehonglir y Cytundeb hwn yn unol Γ’ chyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd yn ddarostyngedig i awdurdodaeth ecsgliwsif llysoedd Cymru a Lloegr.

6.3 Ni ystyrir unrhyw fethiant neu oedi ar ran y ΒιΆΉΤΌΕΔ i ymarfer ei hawliau o dan y Telerau Trwydded Safonol hyn fel ildiad o'r hawliau hynny.

Cliciwch yma i ddarllen y telerau hyn yn Saesneg / Click here for ΒιΆΉΤΌΕΔ Embedding terms in English.

ΒιΆΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r ΒιΆΉΤΌΕΔ

ΒιΆΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r ΒιΆΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.