Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dydd deychwel yr haul

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Amser yw Amser

Ond 'ddaw'r ganrif byth i ben, a 'does dim ystyr i fuddugoliaethau heddiw na llwyddiannau 'fory heb gofio am frwydrau ddoe. Hyd yn oed wrth i ddiwedd y ganrif nesáu ' roedd Ieuan Wyn, yn ei awdl fuddugol, 'Llanw a Thrai', yn Eisteddfod Bro Madog, 1987, yn cofio am Streic y Penrhyn ar droad y ganrif. Talodd deyrnged i'r merched a fu'n gefn i'w g^wyr am dair blynedd:

Merched yn wyneb caledi, a straen
Y streic yn eu codi
I roi cân yn awr cyni,
I roi nerth drwy'i haberth hi.

Ac mae'r Rhyfel Mawr yn gwaedu yn y cof o hyd, a chenhedlaeth yn cofio cenhedlaeth. Cofiodd John Gruffydd Jones am ei dad yn ymladd yn Arras yn ei 'Gasgliad o Gerddi' a enillodd Goron Eisteddfod Bro Madog. Mae rhai delweddau o'r ganrif wedi aros gyda ni, ond mae delweddau newydd wedi disodli rhai eraill. Mae'r hen ragfuriau a'r hen ragfarnau yn diflannu'n raddol. Ar ddiwedd canrif mae Cymru yn newid ei delwedd. Mae'r hen alwedigaethau traddodiadol yn diflannu.

Erbyn hyn rhan o hanes bellach ydi awdl ' Y Glöwr ' ac awdl 'Yr Amaethwr', nid adlewyrchiad o ffordd o fyw. Gyda'r diwydiant glofaol wedi dod i ben, mae'r ddelwedd o Gymru fel gwlad y glöwr wedi colli ei hystyr. Daeth streic chwerw y glowyr ym 1984. Trechodd Margaret Thatcher yr Undeb, ond gwireddwyd ofnau arweinwyr y streic y byddai pyllau'n cael eu cau. Mae'r 'Chwyldro' a ddigwyddodd yn y maes glo yn hanner can mlynedd olaf yr ugeinfed ganrif i'w wled y awdl fuddugol Emyr Lewis, Eisteddfod Nedd, 1994.

Daeth hyd yn oed yr Atomfa yn Nhrawsfynydd i ben ei dyddiau, symbol newydd o'r oes frawychus newydd ddeugain mlynedd ynghynt.

Drwy gydol yr ugeinfed ganrif, ffermio oedd asgwrn-cefn y gymuned wledig Gymreig. Ym 1966 'roedd Dic Jones yn ei awdl 'Cynhaeaf' yn gallu dweud yn hyderus 'Tra bo dyniolaeth fe fydd amaethu'. Ond wrth i'r ganrif dynnu ei thraed ati, 'roedd y ffermwr hefyd yn wynebu cyfnod pryderus, a chefn-gwlad Cymru yn marw'n raddol wrth i amaethyddiaeth wynebu dirwasgiad ar ddiwedd y nawdegau. 'Roedd yr ofn fod cig eidion yn beryglus i iechyd yn peryglu iechyd y gymuned amaethyddol yn ogystal.

Cefn Gwlad...

 

Radio a Teledu

 
 

Cefn Gwlad

Gorfodwyd y ffermwyr i gwtogi ar eu cynnyrch gan y newidiadau yn y gyfundrefn grantiau. 'Roedd y ffermydd mawrion yn difetha rhwydwaith a strwythur economaidd y gymdeithas. Dechreuodd ffermio droi'n faich ariannol. 'Roedd gor-ddibyniaeth ar y system gymorthdaliadau o Ewrop, a phrinder ffermydd ac arian yn rhwystro pobol ifanc cefn-gwlad Cymru rhag cael ffermydd, a'r argyfwng yn arwain at anobaith. Yn rhy aml mae'r anobaith yn troi'n angau, a dyna'r anobaith sydd yn yr awdl 'Gwaddol', Ceri Wyn Jones, yn Eisteddfod Meirion, 1997.

Na, 'does fawr ddim o ddyfodol mewn ffermio, a bellach mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: 'Tra bo dynoliaeth a fydd amaethu'?

'Roedd yr ehangu ar ffermydd wedi crebachu'r gymuned wledig, ond 'roedd y chwyldro technolegol wedi crebachu ac ehangu'r byd ar yr un pryd. Cydiodd Gerwyn Willams, yn y gerdd 'Pentref' o'i gasgliad buddugol 'Dolenni' yn Eisteddfod Nedd, 1994, yn y syniad fod y dechnoleg newydd yn ail-greu'r byd ar lun pentre' byd-eang.

Ond a ydi technoleg wedi llamu ymlaen yn rhy gyflym? A ydi'r pentre' byd-eang wedi lladd y pentre' gwledig?

Dydd Dychwel yr Haul...



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy