Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1980 - 1999

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod   Meirion a'r Cyffiniau (Y Bala)

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Cymru a'r Alban yn pleidleisio o blaid Datganoli.
  • Y Blaid Lafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol gyda mwyafrif o 179. Tony Blair yn Brif Weinidog.
  • John Major yn ymddiswyddo a William Hague yn ei olynu.
  • Ron Davies yn Ysgrifennydd Cymru.
  • Cychwyn y Loteri Cenedlaethol.
  • Y gomed Hale-Bopp i'w gweld yn glir.
  • Y cyfnod hwyaf o sychder ers 1767.
  • Tsieina yn ailfeddiannu Hong Kong.
  • Diana, Tywysoges Cymru, yn cael ei lladd mewn damwain foduro ym Mharis.
  • Y gwragedd cyntaf yn cael eu hordeinio yn offeiriaid yn yr Eglwys yng Nghymru.
  • Cau ffatri Laura Ashley yng Nghaernarfon a Machynlleth.
  • Ffermwyr yn protestio yn y porthladdoedd.
  • Eddie Thomas, Alexander Cordell, Arglwydd Tonypandy, Shân Emlyn, Moelwyn Merchant, Rhydwen Williams, Ronnie Williams a'r Fam Theresa yn marw.

Archdderwydd               Dafydd Rowlands

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Gwaddol'
Enillydd: Ceri Wyn Jones
Beirniaid: James Nicholas, Ieuan Wyn, Idris Reynolds
Cerddi eraill: T. James Jones, Hilma Lloyd Edwards, Tegwyn Pughe Jones.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Dyma awdl arall sydd yn dangos y newidiadau cymdeithasol ac economaidd a gafwyd o fewn hanner can mlynedd. 'Roedd y Prifeirdd Geraint Bowen a Dic Jones wedi gallu creu portread rhamantaidd, delfrydol ac oesol-gadarn o'r amaethwr a'i fyd, ond erbyn hyn rhaid oedd gofyn y cwestiwn: 'Tra bo dynoliaeth a fydd amaethu'? Mae Ceri Wyn Jones yn ymdrin â'r gofidiau a'r anawsterau a oedd yn llethu ffermwyr ar ddiwedd y ganrif, baich a oedd yn drech na llawer ohonynt. 'Roedd y ffermwr bellach yn gorfod wynebu toriadau, prisiau gwael, mynydd o ffurflenni, gwaharddiadau, a heintiau a grewyd drwy i ddyn ymyrryd â natur. Dyna'r byd y mae'r awdl drist hon yn ei adlewyrchu ac yn perthyn iddo.

Y Goron

Testun. Pryddest i nifer o leisiau: 'Branwen'
Enillydd: Cen Williams
Beirniaid: Nesta Wyn Jones, Gwyn Thomas, John Roderick Rees
Cerddi eraill: I Ifor ap Glyn y dymunai John Roderick Rees roi'r Goron, a byddai Nesta Wyn Jones wedi coroni Siân Northey oni bai am bryddest Cen Williams.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Ailadroddwyd chwedl Branwen yn y Mabinogi yn grefftus iawn, gan roi i'r chwedl arwyddocâd oesol.

Y Fedal Ryddiaith

Cyfrol o ryddiaith greadigol ar y thema 'Y Canol Llonydd' 
Enillydd: Angharad Tomos (Wele'n Gwawrio)

Tlws y Ddrama

Diddymwyd y gystadleuaeth ym 1993
 
Tlws y Cerddor

Guto Pryderi Puw
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy