Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1980 - 1999

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod    Llanbedr Pont Steffan

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Blwyddyn streic y glowyr.
  • Cychwynnodd y streic ym mis Mawrth. Pan alwodd Arthur Scargill am streic, dim ond 10 o'r 28 o lofeydd yn Ne Cymru a bleidleisiodd o blaid streicio, ond i ddilyn y mwyafrif yn wlad penderfynwyd cau'r holl weithiau.
  • Dim ond y Parlwr Du yn y Gogledd a oedd yn parhau ar agor. Ym mis Tachwedd gollyngwyd bloc o goncrid o bont ar ben tacsi a gludai'r rhai a oedd yn torri'r streic i'w gwaith, a lladdwyd y gyrrwr. Dywedodd Emlyn Williams, Llywydd Glowyr De Cymru, nad oedd yn cytuno ΓΆ thactegau Scargill, ac fe'i rhybuddiodd i gadw draw. Erbyn Tachwedd 'roedd y Bwrdd Glo yn honni fod 55 o'r 174 o byllau yn gweithio, a phenderfynodd glowyr Gogledd Cymru ddod ΓΆ'r streic i ben.
  • Cyflwyno cwotau llaeth.
  • Awdurdodau yn poeni am lefel y glaw asid a oedd yn effeithio ar lynnoedd.
  • Gwyddonwyr yn poeni fod llosgi tanwydd ffosil yn peri i'r tymheredd godi.
  • Darganfod y firws a achosai AIDS.
  • Yr IRA yn ffrwydro gwesty'r Grand yn Brighton lle'r oedd Margaret Thatcher ac eraill yn aros yn ystod cynhadledd y TorΓ―aid. Pedwar yn cael eu lladd.
    Ailethol Ronald Reagan yn Llywydd yr Unol Daleithiau.
  • Agor pwerdy Dinorwic.
  • Sefydlu CADW.
  • Band Aid yn recordio 'Do They Know it's Christmas?' i roi cymorth i bobl Ethiopia.
  • Richard Burton, Will Paynter, Dill Jones, 'Bomber' Harris, Tommy Cooper, Tito Gobbi, Count Bassie, John Betjeman, Eric Morcambe, Diana Dors, Joseph Losey, J. B. Priestley, Truman Capote a Francois Truffant yn marw.

Archdderwydd               Elerydd

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Y Petheu Bychein' neu 'Allorau'
Enillydd: Aled Rhys William ('Y Petheu Bychein')
Beirniaid: T. Llew Jones, Donald Evans, Dafydd Owen
Cerddi eraill: Yr ail oedd Elwyn Edwards.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Cystadleuaeth wan ryfeddol oedd hon, gyda phedwar yn unig yn cystadlu. Lluniodd Aled Rhys Wiliam 'Ymddiddan y Pen a'r Galon ynghylch 'y Petheu Bychein' ', awdl a oedd yn fyfyrdod ar fywyd, ar amser, ar farwolaeth ac ar Dduw. Awdl anwastad yw hon. Ceir llinellau epigramatig cofiadwy ynddi yn gymysgu darnau rhyddieithol, fflat a llawer o hen drawiadau cynganeddol.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Llygaid'
Enillydd: John Roderick Rees
Beirniaid: Gwyndaf, Pennar Davies, Dafydd Rowlands
Cerddi eraill: Megan Lloyd-Ellis oedd yr ail am y Goron, ac er iddo gytuno i goroni John Roderick Rees, a chytuno hefyd mai ef oedd y gorau, Megan Lloyd Ellis a ffafriai Dafydd Rowlands i ddechrau.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Creodd y bryddest hon gryn drafodaeth oherwydd ei bod yn cyfleu safbwynt gwahanol i'r safbwynt a goleddai gwrthwynebwyr y mewnfudo i gefn gwlad Cymru a welwyd ers yr Ail Ryfel Byd. 'Roedd yn well gan John Roderick Rees weld estroniaid yn byw mewn hen fythynnod yn hytrach na gweld y bythynnod hynny yn furddunod gwag ar draws Cymru. Cymeradwyodd barodrwydd y mewnfudwyr i ddysgu sgiliau newydd, a'u canmol am eucyfraniad i'r gymdeithas, ac am barodrwydd rhai ohonyn nhw i ddysgu Cymraeg i'w plant.

Y Fedal Ryddiaith

Dyddiadur dychmygol yn ymwneud ΓΆ bywyd mewn cymdeithas neilltuedig 
Enillydd: John Idris Owen (Y T^y Haearn)

Tlws y Ddrama

Drama hir
Enillydd: Gwynne Wheldon
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy