Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dydd deychwel yr haul

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Mewnfydwyr

Tybiai cefnogwyr Datganoli mai un rheswm am y bleidlais nacaol oedd y mewnlifiad i Gymru o rannau eraill o Brydain. 'Roedd tai haf yn broblem, nid yn unig am eu bod yn amddifadu'r Cymry eu hunain o gartrefi ac yn lladd cymdeithas cefn-gwlad yn y gaeaf, ond am eu bod yn gwahodd estroniaid i ymgartrefu yng Nghymru yn y pen draw. Rhwng 1981 a 1990 ymgartrefodd tua chwe chan mil o bobl yng Nghymru, y cyfan bron yn hanu o'r tu allan i'w ffiniau. Cododd mudiad newydd ym mlwyddyn y bleidlais nacaol, Meibion Glynd^wr, a dechreuwyd llosgi tai haf. 'Roedd dros saith mil a hanner o dai haf yng Ngwynedd pan gychwynnodd yr ymgyrch yn Rhagfyr 1979, a saith mil yn Nyfed, cadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg. Yng Nghwm Rhymni ym 1990, ceisiodd Iwan Llwyd, yn ei gasgliad o gerddi 'Gwreichion', ganu'r genedl yn Γ΄l i'w bodolaeth.

Mae Iwan Llwyd yn dweud yn y gerdd 'Mawrth 1979: Angladd' fod angen cenedl newydd arnom ar Γ΄l claddu'r hen genedl yng nghynhebrwng y cynllun Datganoli. Rhys Gethin, ffugenw arweinydd Meibion Glynd^wr, oedd plentyn cyntafanedig y Gymru newydd.

Os na fyddai'r sefyllfa yn gwella, 'fyddai gan Gymru na'i senedd na'i sianel na'i heisteddfod ei hun, a 'fyddai dim tir ganddi o dan ei thraed. 'Roedd y Brifwyl mewn perygl enbyd o ddod i ben yng nghanol gwasgfa economaidd y saithdegau a'r wythdegau cynnar. 'Roedd rhai am ei hangori mewn un lle, fel llong flinedig wedi cyrraedd pen ei thaith. Gyda'r coffrau eisteddfodol yn wag, 'roedd rhai o garedigion pennaf yr ^Wyl ar drothwy'r wythdegau am roi cartref sefydlog i'r Eisteddfod, ac eraill am ei chadw yn ^wyl symudol. Daeth tro ar fyd ar ddechrau'r wythdegau pan ddiogelwyd dyfodol yr Eisteddfod gan grantiau mawr o'r swyddfa Gymreig, y Gymuned Ewropeaidd, a nawdd gan ddiwydiannau. 'Roedd un frwydr fechan wedi ei hennill, am y tro.

S4C...

 

Radio a Teledu

 
 

S4C

'Roedd brwydr arall ar fin cael ei hennill hefyd, brwydr fwy o lawer.

Cymerodd llawer o Gymry ran yn yr ymgyrch o blaid y bedwaredd sianel, ond un g^wr a fu'n gyfrifol, yn y pen draw, am gael sianel i Gymru. Ar yr unfed ar ddeg o Fedi, dan bwysau bygythiad Gwynfor Evans i ymprydio, ildiodd y Llywodraeth, ac addawodd y cΓΆi Cymru ei sianel ei hun.

Bellach, gallai Cymru edrych arni hi ei hun ac ar y byd mawr drwy ei ffenest ei hun. Lawnsiwyd Sianel Pedwar Cymru ar y cyntaf o Dachwedd, 1982. 'Roedd yr iaith bellach yn rhan o'r chwyldro technolegol newydd, a'r sianel yn galw am amrywiaeth eang o raglenni gwahanol.

Llais Merch...



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy