Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Gaer Fechan Olaf

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Cynhaliwyd Eisteddfod Bangor 1914 ym 1915, flwyddyn union ar Γ΄l i Brydain  gyhoeddi rhyfel yn erbyn Yr Almaen. Eisteddfod filitaraidd oedd honno. Ceisiodd y Brigadydd Owen Thomas o FΓ΄n gorddi ysbryd gwladgarol y dorf, ac annog bechgyn ifanc Cymru i lenwi'r rhengoedd. Y tu allan i'r pafiliwn, 'roedd y swyddogion recriwtio yn barod i dderbyn y gwirfoddolwyr. Awgrymodd Owen Thomas fod angen i'r 'Steddfod drefnu cystadlaethau newydd sbon ar gyfer milwyr, fel saethu at dargedau a hedfan.

Ar ddiwrnod y cadeirio, traddododd y gweinidog Arfau newydd ei araith flynyddol yn y 'Steddfod: 'There was a time when it seemed as if the military spirit of Wales had vanished into the mists of the past. Our Welsh martial spirit was not dead. It was not even slumbering. It was simply hiding in its caves amongst the hills until the call came from above'. Er i Lloyd George achub rhywfaint ar Eisteddfod Bangor, 'Steddfod ddi-hwyl dan gysgod rhyfel oedd hi.

ymlaen...

 

Radio a Teledu

 
 

1914 1915 1916 1917 1918 1919 1920 1921 1922 1923 1924 1925 1926 1927
1928 1929 1930 1931 1932 1933 1934 1935 1936 1937
Cynhaliwyd Eisteddfod 1916 yn Aberystwyth dan gysgod brwydr y Somme, y frwydr fwyaf colledus o bob un o frwydrau'r Rhyfel Mawr. Erbyn diwedd y frwydr 'roedd 650,000 o filwyr y Cynghrair wedi eu lladd. Rhan o frwydr fawr y Somme oedd y frwydr i ennill Coed Mametz oddi ar yr Almaenwyr. Ymladdwyd y frwydr gan bum bataliwn Gymreig, a chollwyd 4,000 0 Gymry, er iddyn nhw ennill y frwydr. Daeth y frwydr i ennill Coed mametz ΓΆ chlod i'r Cymry, ac arhosodd y fuddugoliaeth yn rhan o'r fytholeg Gymreig am y Rhyfel Mawr.

Brwydr y Coed

'Chwi fechgyn o Gymru,'medd swyddog y gadlu,
         'Rhaid heddiw ymdrechu yn fwy nag erioed;
Aed pob un i weddi ar Dduw ei rieni:
         Rhaid ymladd hyd farw - rhaid cymryd y coed.'

Ar hyn dyma'r bechgyn yn taro hen emyn,
        A'r alaw Gymreigiadd mor bur ag erioed,
A'r canu rhyfeddaf, ie'r canu dwyfolaf,
        Oedd canu y bechgyn cyn cymryd yr oed.

Ar Γ΄l brwydro gwaedlyd ac ymladd dychrynllyd
        Enillwyd y frwydr galetaf erioed:
Ond rhwygwyd ein rhengoedd, a llanwyd yn lluoedd
        Y beddau dienw wrth odre y coed.

Credai llawer mai ffolineb oedd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yng nghanol y Rhyfel. 'Doedd Lloyd George ddim yn cytuno. Dyma oedd ei eiriau yn ei araith lywyddol yn Eisteddfod 1916:

'There is a bird in our villages who can beat the best of them. He is called a 'Cymro'. He sings in joy, he also sings in sorrow; he sings in prosperity, he sings also in adversity; he sings at play, he sings at work; he sings in the sunshine, he sings in the storms; he sings in peace, why should he not sing in war?'

ymlaen...



About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy