Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1914 - 1937

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Pont-y-p^wl

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Lenin yn marw.
  • Ethol Ramsay MacDonald, A.S. Aberafon, yn Brif Weinidog cyntaf Llafur. Dau Gymro yn y Cabinet, J.H. Thomas a Vernon Hartson, ond ymhen chwe mis y Torïaid yn dod i rym.
  • Hitler yn cael ei ddedfrydu i garchar ac yn ysgrifennu Mein Kampf ... Fy Mrwydr, yn ystod cyfnod ei garchariad.
  • Yn Ebrill dim ond 1.8% o lowyr Cymru a oedd yn ddi-waith; cododd y ffigwr i 28.5% erbyn Ionawr 1925.
  • Dillad yn arwydd o newid delwedd y ferch: 'roedd sgertiau'n uwch na'r ben-glin, ond nid cymaint yng Nghymru lle ceid agweddau cymdeithasol mwy ceidwadol. Enghraifft o'r geidwadaeth hon oedd amharodwydd nifer o w^yr dosbarth canol i ganiatáu eu gwragedd i gwrdd â Morfydd Llwyn Owen.
  • Ystyrid ei bod, drwy ei g^wr Ernest Jones, cofiannydd Freud, yn gysylltiedig â'r budreddi a ddeilliai o Fienna.
  • Agor gorsaf ddarlledu 5SX yn Abertawe.

Archdderwydd               Elfed

Y Gadair

Testun. Awdl: 'I'r Duw nid Adwaenir'
Enillydd: Cynan
Beirniaid: John Morris-Jones, Elfed, T. Gwynn Jones

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Nid awdl ar fesurau traddodiadol oedd hon, ond cerdd ar fesur y tri-thrawiad. Bu Cynan yn ffodus na chafodd ei 'awdl' ei diarddel o'r gystadleuaeth. John Morris-Jones a achubodd y dydd drwy nodi fod mesur y tri-thrawiad yn perthyn i ddosbarth Morgannwg o fesurau, sef y dosbarth a ddyfeisiodd Iolo Morganwg ei hun. Yn y gerdd hon, a oedd fel chwa o awyr iach ar y pryd oherwydd absenoldeb yr eirfa draddodiadol awdlaidd ynddi, y mae Cynan yn dechrau ailddarganfod ei ffydd.

Y Goron

Testun. Pryddest, ar un o'r testunau canlynol: ' Atgof', 'Dafydd ap
Gwilym', 'Marchog yr Awyr'
Enillydd: E. Prosser Rhys ('Atgof')
Beirniaid: W. J. Gruffydd, Crwys, Gwili
Cerddi eraill: Un o'r cystadleuwyr aflwyddiannus oedd Dewi Emrys, a fanteisiodd ar y storm o brotest a ddilynodd i dynnu sylw at ei bryddest ei hun. Yr oedd yn ail gan ddau o'r beirniaid, ond 'roedd W. J. Gruffydd yn llawdrwm iawn ar ei gerdd.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Cododd storm o brotest yn sgîl coroni Prosser Rhys gan fod y bardd yn trin rhyw yn gignoeth agored yn ei bryddest, gan gynnwys gwrywgydiaeth. 'Roedd Prosser Rhys yn adlewyrchu'r chwalu ar yr hen safonau a oedd yn digwydd mewn diwylliannau eraill ar ôl y Rhyfel Mawr, megis yng ngweithiau James Joyce. Aldous Huxley a D. H. Lawrence. Enghraifft o'r ymateb anffafriol i'r gerdd yng Nghymru oedd erthygl a ysgrifenwyd gan y Parch. W. A. Lewis yn Y Brython: 'Nid rhyw sydd oruchaf, ac nid yw dyn yn gymaint caethwas iddi ag y myn y bardd hwn i ni gredu. Diau fod eithriadau, sef y bodau hynny a eilw'r Sais yn freaks of nature, ac os ydyw Prodder Rhys yn un o'r freaks hynny, y mae'n wrthrych tosturi. Hen dro go sâl oedd peri i aer Coron Prydain, yn ei anwybodaeth, goroni hen gerdd anfelys fel hon.'

Y Fedal Ryddiaith                    Sefydlwyd ym 1937
 
Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy