Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Mehefin 2009

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 16:47, Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Fe fyddai unrhyw un call allan yn yr ardd yn mwynhau'r tywydd yma! Os ydych chi'n gaeth i gyfrifiadur dyma gasgliad bach o ddolenni i'ch difyrru.

Scotsman

BMA

New York Times

Mae fy mhartner yn dod o Faleisia. Mwy na hynny mae'n aelod o'r "" yr
ychydig dros hanner hynny o'r boblogaeth sydd yn mwynhau breintiau arbennig oherwydd ei bod yn cael eu hystyried yn Faleaid o ran eu hethnigrwydd. Mae'n system ryfedd ac anodd ei hamddiffyn. Ta beth, mae'n ymddangos bod y drefn yn dechrau gwegian


Yn y sylwadau roedd Siôn Aled yn hiraethu am y gyfres deledu "Adam Adamant". Dyma flas ohoni;

Ac yn olaf NZ Herald


Gwylio'r Cloc

Vaughan Roderick | 14:38, Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Mae'r Pwyllgor Dethol wedi cwblhau ei ystyriaeth o'r LCO iaith ac mewn datganiad heddiw mae cadeirydd y pwyllgor yn datgan y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn gwyliau'r haf. Fe fydd Uwch-bwyllgor Cymru yn ystyried yr adroddiad cyn i Swyddfa Cymru a Llywodraeth y Cynulliad gytuno ar y geiriad terfynol. Fe fydd y gorchymyn wedyn yn cael ei drafod ar lawr TÅ·'r Cyffredin.

Ond oni fydd hi'n anodd sicrhau'r amser seneddol angenrheidiol? "Dim problem" medd ffynhonnell. Mae'n debyg bod 'na hen ddigon o amser seneddol ar gael... ar gyfer popeth ac eithrio preifateiddio'r Post Brenhinol, hynny yw.

Gyda llaw ymhlith yr aelodau seneddol sydd wedi arwyddo'r cynnig seneddol yn gwrthwynebu'r mesur hwnnw mae Peter Hain. Er tegwch, roedd Peter wedi llofnodi'r cynnig cyn iddo ddychwelyd i'r Cabinet. Serch hynny, mae'n annhebyg bod aelod Castell Nedd (sy'n gyn swyddog gyda'r Undeb Cyfathrebu) yn ei ddagrau ynghylch tro pedol Peter Mandelson!. .

Dechrau Prydeindod?

Vaughan Roderick | 10:11, Dydd Llun, 29 Mehefin 2009

Sylwadau (2)

Pan oeddwn i'n grwt un o fy hoff gyfresi teledu oedd "Adam Adamant" hanes arwr o oes Victoria wnaeth gael ei rewi mewn bloc o iâ a dihuno yn y 1960au. Mae 'na elfen o Adam Adamant yn perthyn i David Melding. Gyda'i gwrteisi hen ffasiwn a'i len-garwch mae 'na rywbeth o'r oes o'r blaen yn ei gylch.

Pwy ond David fyddai'n cychwyn llyfr ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru gyda'r frawddeg yma?

"When that remarkable man, Publius Aelius Hadrianus, commissioned the wall that would forever bear his name, he knew that the Imperium had limits"

Pwy ond David, o ran hynny, fyddai'n cychwyn llyfr am wleidyddiaeth Cymru trwy gyfeirio at y Rhufeiniaid? Fe wna i ateb y cwestiwn fy hun. Fe fyddai Gwynfor Evans yn gwneud.

Mae llyfr newydd David "Will Britain Survive Beyond 2020?" bron fel pa bai wedi ei ysgrifennu fel ymateb i lyfr Gwynfor "Diwedd Prydeindod". Hwn yw'r llyfr cyntaf i mi gofio sy'n cyflwyno achos deallusol o blaid parhad y Deyrnas Unedig ar seiliau hanesyddol ac athronyddol.

Fe fyddai nifer o gasgliadau David wrth fodd Gwynfor. Mae'n wfftio'r ddadl economaidd yn erbyn annibyniaeth, er enghraifft. Mae'n gwahaniaethu hefyd rhwng cenedl a gwladwriaeth ac yn datgan bod gan y Cymry, fel cenedl, eu sofraniaeth gynhenid eu hun. Yn wir, yn ôl David, does 'na ddim dadl ddilys yn erbyn annibyniaeth i Gymru os ydych chi'n credu nad yw Prydain yn genedl a nad oes rhinwedd mewn Prydeindod. Rheiny, wrth gwrs, oedd union safbwyntiau Gwynfor.

Mae David, ar y llaw arall, yn credu bod 'na genedl Brydeinig, cenedl sy'n bodoli'n gyfochrog a'r cenhedloedd hanesyddol. Mae'n rywbeth amgenach na "Lloegr fawr" ac mae'n dymuno gweld ei pharhad. Yn ei lyfr mae'n croniclo pwysigrwydd "y syniad o Brydain" yn hanes y Cymry ac yn myfyrio ynghylch llanw a thrai Cymreictod a Phrydeindod ar hyd y canrifoedd.

Mae'n amlwg bod David bellach yn ystyried ei hun yn genedlaetholwr Cymreig o safbwynt sofraniaeth Cymru ac yn genedlaetholwr Prydeinig o safbwynt rôl rhyngwladol yr ynysoedd hyn. Dyw e ddim yn dymuno gorfod dewis rhwng Cymru a Phrydain ac mae'n gofidio y bydd gwendidau y setliad cyfansoddiadol presennol yn gorfodi iddo wneud hynny.

Yn ôl David er mwyn sicrhau parhad y Deyrnas Unedig yn y tymor hir mae angen llunio setliad cyfansoddiadol newydd. Fe fyddai'r cyfansoddiad hwnnw yn cynnwys cydnabyddiaeth eglur o hawl unrhyw un o'r cenhedloedd hanesyddol i adael y wladwriaeth Brydeinig os oeddent yn dymuno gwneud hynny. Fe fyddai gan Loegr ei senedd ei hun ac fe fyddai senedd San Steffan ond yn delio a materion oedd yn effeithio ar y deyrnas gyfan. Ni fyddai hawl gan y senedd honno i ymyrryd mewn unrhyw ffordd a breintiau na gweithredoedd y seneddau cenedlaethol. Fe fyddai'r seneddau cenedlaethol ynghyd a'r senedd ffederal newydd i gyd yn sofran.

Cofiwch mai cydlynydd polisi y Blaid Geidwadol Cymreig sydd wedi sgwennu hyn oll. Yn ddeallusol mae'n chwyldroadol i Geidwadwr ddadlau bod sofraniaeth Prydain yn deillio o'i phobol trwy ei chenhedloedd hanesyddol yn hytrach nac o'r Goron.

Does dim angen cytuno a'r syniadau yma i ddeall eu pwysigrwydd. Hon yw'r drafodaeth yr oedd Gwynfor Evans yn dymuno ei chael. Yn lle hynny yr hyn a gafwyd oedd codi bwganod economaidd a ieithyddol gan unoliaethwyr a datblygiadau cyfansoddiadol oedd yn seiliedig ar ymdrechion y Blaid Lafur i ddatrys ei thensiynau mewnol ei hun.

Mae'n annhebyg y bydd llyfr David yn cael llawer o ddylanwad o fewn rhengoedd ei blaid. Dydw i ddim yn meddwl y bydd trwch ei haelodau yn fodlon cofleidio'r syniadau yma. Dim eto, o leiaf.

Yn eironig gallai'r llyfr gael mwy o ddylanwad ymhlith Cenedlaetholwyr. P'un ai ydych chi'n credu mewn bodolaeth cenedl Brydeinig ai peidio mae'n amhosib gwadu bod 'na lawer yn gyffredin rhwng pobloedd yr ynysoedd yma- ac mae hynny'n cynnwys Gwyddelod y Weriniaeth. Fe ddylai dyfodol y cysylltiadau hynny fod yn rhan bwysig o'r ddadl gyfansoddiadol.

Will Britain Survive Beyond 2020? gan David Melding. Sefydliad Materion Cymreig. £11.99

Rialtwch

Vaughan Roderick | 17:21, Dydd Gwener, 26 Mehefin 2009

Sylwadau (8)

Mae'r ffilmiau yn ôl- a'r tro 'ma mae 'na gwis bach hefyd !

1. Ydych chi'n gallu sbotio rhywbeth yn gyffredin rhwng y darllediad Llafur yma o 1970 ac ogof nid anenwog?

2. Darllediadau gwleidyddol o Singapore sydd nesaf. I ba blaid y byddai Leonard Nimoy yn pleidleisio?

3. Pa arweinydd Ewropeaidd fyddai'n hoffi rhain?

4. Beth yw'r cysylltiad rhwng yr ymgeisydd aflwyddiannus yn y ffilm yma ac Aberystwyth?

Diolch i obell am rhain.

Manion

Vaughan Roderick | 14:15, Dydd Gwener, 26 Mehefin 2009

Sylwadau (1)

Y tri Dewi yw'r gwesteion ar y podlediad. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Mae podlediadau eraill Â鶹ԼÅÄ Cymru ar gael yn fan hyn.

Rwyf wrthi'n darllen llyfr newydd David Melding ar hyn o bryd . Rwyf yn gobeithio y bydd e'n maddau i mi os ydw i'n torri'r embargo i fachu un frawddeg o'r llyfr. Doeddwn i ddim wedi dod ar draws y dyfyniad yma gan Edmund Burke, tad Ceidwadaeth ym Mhrydain, o'r blaen. Wrth ysgrifennu am ryfel annibyniaeth America fe ddywedodd Burke hyn;

"Are not the people of America as much Englishmen as the Welsh?"

Sut ar y ddaear mae ateb hwnna?


Rymdi radl idl al

Vaughan Roderick | 10:47, Dydd Gwener, 26 Mehefin 2009

Sylwadau (16)

Rwy'n deall nawr pam y cafodd "smileys" eu dyfeisio. Fe fyddai ambell i wyneb direidus wedi cyfleu mai post cymharol ysgafn oedd "Ffol-di-rol" i fod. Fe wnaeth rhai ohonoch chi gymryd y peth gormod o ddifri! Serch hynny, mae'r post wedi esgor ar ddadl a dwi'n hoff o ddadlau! Yr unig bryd rwy'n diflasu ar y blogio 'ma yw yn ystod y cyfnodau hesb hynny lle mae sylwadau'n brin!

Bant a ni felly. Cyn i fi ddechrau fe ddylwn i ddweud nad wyf wedi ail-ddarllen "Adfer Enaid y Cymro" na "Chysgod y Swastika" yn ddiweddar. Cynnig argraffiadau ac atgofion llwyr personol ydw i yn fan hyn. Rwy'n ymddiheuro o flaen llaw os ydw i'n cam-liwio dadleuon Emyr Llywelyn neu R. Tudur Jones.

Ychydig o gefndir teuluol i ddechrau. Yn groes i'r hyn mae Harri'n credu dydw i ddim yn berson "siwdo ddinesig"- dw i'n llwyr ddinesig! Ac eithrio fy nyddiau coleg rwyf wedi byw yng Nghaerdydd gydol fy oes. Ac eithrio ambell i gefnder pell does gen i ddim perthnasau sy'n byw yn y Gymru Gymraeg. Mae fy ngwreiddiau yn nwfn yn nhir hen siroedd Morgannwg a Brycheiniog.

Dywedodd Simon Brookes;

"Erthygl warthus yw "Cysgod y Swastika" R. Tudur Jones, ac yn farc du iawn ar record hanesydd diwylliannol fu gyda'r gorau yng Nghymru... Y cyd-destun ar gyfer deall "Cysgod y Swastika" yw casineb heddychwyr y Blaid at fudiad Adfer yn ystod y saithdegau. "Adolygiad" yw'r erthygl o lyfr Emyr Llywelyn, "Adfer a'r Fro Gymraeg"... Roedd y Blaid ac Adfer yn casáu ei gilydd, ac mae'n amhosib gan hynny roi unrhyw werth ar yr 'adolygiad'."

Mae Simon yn gywir am y cefndir. Ond cyn cyhoeddi "Adfer Enaid y Cymro" fel llyfr fe'i cyflwynwyd hi fel darlith ym Mhabell y Cymdeithasau. Dydw i ddim yn cofio ym mha Eisteddfod (Aberteifi, efallai, neu Wrecsam) ond roeddwn i yno. Dydw i ddim yn cofio pwy o fy nghyfeillion ysgol oedd gyda fi. Rhys Hughes efallai, Martin Hopwood neu Emyr Lewis, o bosib, neu efallai Helen (miaw) Smith neu Carys a Delyth Evans.

Ta beth, roeddwn ni yna, criw bach o Gymry ifanc y de-ddwyrain. Mae ambell i un wedi mynd ymlaen i wneud cyfraniadau mawr i Gymru a'r Gymraeg. Safodd y darlithydd (sef Emyr Llywelyn) ar ei draed a dechrau ymosod ar ein heneidiau ni. Nid ar ein syniadau na threigliadau, sylwer, ond ar ein heneidiau. Efallai nad hynny oedd y bwriad ond dyna sut oedd y peth yn teimlo. Am ryw reswm roedd ein heneidiau yn ôl Emyr yn llwgu oherwydd diffyg y "maeth" diwylliannol oedd ond ar gael yn Nhrimsaran, Nebo a chymunedau tebyg.

Fel penboethiaid anaeddfed yn lle troi'n cefnau a cherdded allan fe wnaethon ni darfu ar y ddarlith a chael ein hebrwng o'r babell. Aethon ni i drwbl hefyd. Roeddem "wedi dwyn gwarth ar ein teuluoedd". Roeddwn i yn bersonol "wedi profi nad yw dy fam a fi yn gallu ymddiried ynot ti".

Roedd "Cysgod y Swastika" yn falm i fy enaid anghyflawn felly. Doeddwn i ddim yn deall y dadleuon athronyddol ond roedd dyn athrylithgar, prifathro coleg a diwinydd, un o hoelion wyth ein henwad hefyd yn amheus o syniadaeth y ddarlith ac i ble yr oedd y syniadaeth honno yn arwain.

"Gwarthus" yw disgrifiad Simon o erthygl R. Tudur Jones.

Fe fyddai eraill yn dewis y gair "angenrheidiol".

Y trueni, fel mae sawl sylwad yn dweud, yw bod y ddadl hon wedi arwain, fwy neu lai yn uniongyrchol, at dranc Mudiad Adfer. Ar ôl hynny roedd 'na beryg i unrhyw un oedd yn dadlau dros bwysigrwydd yr ardaloedd Cymraeg gael ei gyhuddo o ffasgiaeth neu hiliaeth. Fe wnaeth Simon ei hun ddioddef peth o hynny pan ffurfiwyd "Cymuned". Mae'r sefyllfa drist honno wedi cael effeithiau pellgyrhaeddol a llwyr negyddol ar sefyllfa'r Gymraeg. Serch hynny mae'n annheg, yn fy marn i, i lwytho'r cyfan o'r bai ar ysgwyddau R. Tudur Jones- mae'n rhaid i Emyr Llywelyn dderbyn ei siâr hefyd.

Mae'r sylwadau ynghylch yr erthygl wreiddiol i'w gweld trwy glicio ar "Darllen gweddill y cofnod".


Darllen gweddill y cofnod

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 19:20, Dydd Iau, 25 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Ar ôl i ni yn y Â鶹ԼÅÄ gael cymaint o sbort gyda threuliau'r gwleidyddion dyma gyfle i nhw dalu'r pwyth yn ôl.

Guardian

Telegraph

Haaretz (Israel)

EUNews

Blogs

Fe fydd Â鶹ԼÅÄ Cymru yn darlledu cyfres o raglenni ynghylch yr arwisgiad yn ystod yr wythnos nesaf. Mae 'na damaid i aros pryd ar flog Cylchgrawn

Red State

Syniadau

Politics Cymru

Mae Betsan yn blogio o gyfarfod olaf y Confensiwn yng Nghaerdydd



Podlediadau

Trwy Ofer Esgeulustod

Vaughan Roderick | 13:34, Dydd Iau, 25 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Mae rhifyn 2009 o "World Class Wales newydd ymddangos. Cyhoeddiad sgleiniog 200 tudalen yw hwn sy'n ceisio gwerthu Cymru i'r byd.

Yn y cefn mae 'na adran hynod ddefnyddiol "Who and What You Need to Know" sydd, yn ei dro, wedi ei rannu'n isadrannau. Dyma nhw; Gweinidogion y Cynulliad; Aelodau Cynulliad; Cynghorau Lleol; Cyrff Cyhoeddus; Cwmnïau; Cyfrifwyr; Penseiri; Syrfewyr; Cyfreithwyr; Sefydliadau Addysgiadol.

Beth ddigwyddodd i'r Aelodau Seneddol, tybed? Efallai nad oes agen eu hadnabod nhw bellach!

Ffol-di-rol

Vaughan Roderick | 10:53, Dydd Iau, 25 Mehefin 2009

Sylwadau (11)

Does gen i ddim byd yn erbyn dinas Washington. Wrth reswm, does gen i ddim byd yn erbyn Cymru chwaith. Serch hynny rwy'n hynod o falch i beidio bod ym mhrifddinas yr Unol Daleithiau ar gyfer y "". I arall-eirio Goring o glywed y gair "folk" neu "gwerin" rwy'n ymestyn am fy ngwn!

Cyn i unrhyw un camddeall does gen i ddim gwrthwynebiad o gwbwl os ydy oedolion yn dymuno clocsio y tu ôl i ddrysau caeedig. Dydw i ddim am wahardd Cerdd Dant. Mae gen i bolisi "don't ask-don't tell" ynghylch y pethau "gwerin" 'ma. Rhyngoch chi a'ch Hob Y Deri Dando! Dydw i ddim hyd yn oed yn drwglicio'r caneuon na'r dawnsfeydd . Y rhamantu yn eu cylch nhw sy'n fy ngwylltio i, y syniad bod y stwff yma rhywsut yn "fwy cynhenid", yn "fwy Cymreig", yn "well" hyd yn oed na chanu gwlad neu pop neu rock'n'roll.

Mae nifer sylweddol o'n dawnsfeydd "gwerin" yn seiliedig ar Mrs Magretta Thomas o Nantgarw, atgofion wnaeth gael eu cofnodi gan ei merch y diweddar Dr Ceinwen Thomas.

Roedd fy hen daid yn weinidog ar gapeli yn Nantgarw a Groeswen. Mae fy nheulu wedi ffarmio'r un darn o dir Fynydd Maio ers canol y deunawfed ganrif. Yn ôl Dr Thomas roedd y dawnsfeydd yma yn cael eu perfformio fel rhan o ddathliadau Sulgwyn capeli fy hen daid. Mae'n rhaid ei fod e (a phawb arall) yn y festri ar y pryd.

Fe wnes i ofyn i Dr Thomas unwaith (degawdau yn ôl bellach) pam nad oedd neb arall yn y pentref ac unrhyw atgof o gwbwl o'r dawnsfeydd. Dydw i ddim yn cofio'r ateb a dydw i ddim yn mynd i esgus fy mod i. Wedi'r cyfan fe fyddai'n gwbwl hurt i esgus eich bod yn cofio rhywbeth neu fod rhywun arall yn cofio rhywbeth.

Mae bosib, wrth gwrs bod trigolion Mynydd Maio (ac eithrio Mrs Thomas) yn bobol hynod o anghofus. Mae'n bosib hefyd bod nifer o ganeuon "music hall" Saesneg yn gyfieithiadau o ganeuon "gwerin" Bob Roberts Tai'r Felin. Posib ond annhebyg.

Mae 'na bwynt gwleidyddol i'r "rant" yma! Mae dyrchafu "traddodiadau gwerin" a'r "werin bobol" eu hun yn gallu bod yn beth peryg. Mae'n gallu esgor ar gasineb tuag at foderniaeth a diwylliannau eraill a phwyslais ar burdeb gwerinol. Fe ysgrifennodd R Tudur Jones erthygl enwog "Cysgod y Swastika" ynghylch y peryglon hynny yng Nghymru. Fe fyddai'n well gen i ail-ddarllen hwnnw na gwrando ar y ffoldirolio yn Washington!

ON Rwyf newid dderbyn y nodyn yma gan gyfaill:

Dyma ywMae'r Sbaeneg ar y blurb ar yr ochr yn deud. 'Penderfynod y beirniaid beidio rhoi gwobr yn y gystadleuaeth yma' Tybed pam?!

Cymydog da yw clawdd

Vaughan Roderick | 14:57, Dydd Mercher, 24 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Dyw cymdogion ddim o reidrwydd yn dod 'mlaen a'i gilydd. Mae trigolion Erinsborough yn gwybod hynny!

Ddoe roedd Peter Hain (Jim Robinson y stori yma) wrth ei fodd i gyhoeddi y byddai cyfarfod arbennig o'r Uwch-bwyllgor Cymreig yn cael ei gynnal ar Orffennaf 8fed i drafod adroddiad y Pwyllgor Dethol ynghylch yr LCO iaith.

Dywedodd aelod Castell Nedd;

"As everyone is aware, I am a strong supporter of the Welsh language and therefore want the Welsh Language Order to be given a high priority and full consideration at Parliament. That is why all Welsh MPs are being given the earliest opportunity to debate the order at a full meeting of the Welsh Grand Committee... why we need a full debate in Parliamentary time as soon as is possible so that we do not lose momentum."

Doedd hynny ddim wrth fodd y dyn drws nesaf yn Aberafan. Hywel Francis yw Harold Bishop neu Lou Carpenter y stori. Fe gewch chi ddewis! Hywel yw cadeirydd y Pwyllgor Dethol. Yn ei farn ef ni fyddai gan aelodau seneddol ddigon o amser i ddarllen a deall casgliadau ei bwyllgor pe bai'r ddadl ar Orffennaf yr wythfed. O ganlyniad mae'r sesiwn wedi ei gohirio. Medd Hywel;

"I have informed him (hy Peter neu Jim) that he will need to consult with me and the opposition parties before a Welsh Grand Committee can meet to discuss my Committee's Report."

Miaw!

Heb ddim dŵr...

Vaughan Roderick | 09:52, Dydd Mercher, 24 Mehefin 2009

Sylwadau (5)

Mae na gwestiwn bach wedi bod yn fy mhoeni i. Pwy sy'n perchen dŵr Cymru? Nid siarad am y cwmni ydw i yn fan hyn ond am y stwff ei hun, y glaw sy'n syrthio ar ein gwlad ac yn llenwi ein nentydd a'n hafonydd.

Roeddwn yn meddwl am hyn yn sgil cyhoeddi sy'n rhagweld y gallai prinder dŵr fod yn broblem i Brydain, yn enwedig i Loegr, yn y dyfodol.

Nawr efallai ein bod ni yng Nghymru yn brin o arian, yn brin o waith ac yn brin o bron pob dim arall. Mae 'na ddau beth dydyn ni ddim yn brin ohonyn nhw- defaid a dŵr ! Gwell i mi adael y defaid i'r naill ochor gan bod ein yn ychwanegu at y broblem ond beth am y dŵr ? A fydd dinasoedd mawrion Lloegr yn dechrau llygadu cymoedd Cymru unwaith yn rhagor? A fydd Huw Jones yn gorfod ail-afael yn ei gitâr a ffermwyr Crai yn gorfod ail-baentio eu posteri "Dim boddi Senni"? Mae rheiny yn gwestiynau da ond mae "pwy sy'n perchen y stwff?" yn un gwell.

Un ddylai wybod yw'r Gweinidog Cynaladwyedd Jane Davidson. Fe wnes i eistedd wrth ei thraed fel rhyw "grasshopper" bach yn ceisio goleuni gan y Gwrw.

"Mae hwnnw'n un o'r cwestiynau mwyaf cymhleth ac astrus yn y setliad" meddai'r Gwrw Davidson. "Cymerwch chi lifogydd. Os ydy afon yn torri ei glannau mae hynny'n fater i ni... ond os ydy glaw trwm yn crynhoi ac yn achosi llifogydd nid ni sy'n gyfrifol"

"Ond cyfrifoldeb yw hynny, Gwrw. Pwy piau'r dŵr? Pwy yw'r perchennog?"

"Wel, fy ngheiliog rhedyn bach. Mae asiantaeth yr amgylchedd sy'n gorff traws-ffiniol yn llunio cynlluniau ar gyfer afonydd gan bennu llif y dŵr a rheoleiddio pwy sy'n cael cymryd dŵr o'r afon"

"Ond rheoleiddio yw hynny. Cyn i mi golli fy nhymer, goleuedig un, pwy yw'r blydi perchenog- y Goron? Y Cynulliad? Cwmnïau dŵr? Perchnogion tir?"

"Um..."

Rwyf wedi newid ambell i air ond mae hynny'n grynodeb digon teg o'n sgwrs. Onid oes angen gwell ateb i'r cwestiwn? Cyn preifateiddio'r diwydiant dŵr roedd rhai yn dadlau y dylai pobol Cymru dderbyn breindal am ein dŵr. Wedi'r cyfan ni sy'n gorfod goddef y stwff yn syrthio ar ein pennau... ond ai ni yw'r perchnogion?

Gadewch i ni fyfyrio am y peth wrth wylio ffilm fer am foddi Capel Celyn a gwrando ar fiwsig Bob Delyn. Katycat3 a'i gwnaeth.

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 19:27, Dydd Mawrth, 23 Mehefin 2009

Sylwadau (1)

Dydw i ddim yn gwybod ydy'r Tywysog Charles yn gorff cyhoeddus o dan dermau Deddf yr Iaith (1993). O leiaf mae 'na rhyw faint o Gymraeg ar ei ! Heddiw cyhoeddodd y Tywysog ei . Dyw hwnnw (na rhai 2006,2007 a 2008) ddim ar gael yn Gymraeg eto. Serch hynny mae'n werth ei ddarllen er mwyn dysgu'r ffaith fach yma.

Highgrove (Â鶹ԼÅÄ Farm)

Methane and nitrous oxide from livestock and manure management; 2,043 tonnes

Fedrai feddwl am o leiaf chwech sylw cellweirus ac fe fyddai pob un ohonynt yn arwain at y sac!

Bant a ni o gwmpas y we felly.

Papurau

Guardian

...yn llythrennol New York Times

... jyst peidiwch dweud Pink News

Walesonline

Ai fi yw'r unig un sydd ond yn gallu cael tudalen wag am griced ar Golwg 360?

Blogs

Blogmenai

Gan fy mod wedi trafod un tywysog Cymru...
Cenedl Glyndwr

Ac yn olaf ffilm gudd o aelodau seneddol llwgr yn dianc o San Steffan!

Grandstandio

Vaughan Roderick | 16:13, Dydd Mawrth, 23 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Nawr mae hwn yn ddatblygiad diddorol.

Rwyf wedi trafod hynt a helynt yr LCO iaith droeon o'r blaen gan awgrymu y gallai'r newid personél yn Swyddfa Cymru olygu y bydd y gorchymyn yn fwy cynhwysfawr na'r disgwyl. Roedd llawer o'r problemau ynghylch y gorchymyn gwreiddiol yn deillio o bryderon personol Paul Murphy yn hytrach nac unrhyw wrthwynebiad mawr ar lawr gwlad neu ar lawr Tŷ'r Cyffredin.

Mae 'na arwyddion wedi bod ers talwm bod y Pwyllgor Dethol yn llawer llai gwrthwynebus tuag at fesur eang nac roedd rhai yn darogan ond beth am Aelodau Seneddol eraill o Gymru?

Roeddwn i bron wedi anghofio am fodolaeth y pwyllgor Cymreig arall yn San Steffan sef yr Uwch-bwyllgor sy'n cynnwys holl aelodau Cymru. Sop i gefnogwyr datganoli yn y chwedegau oedd yr Uwch-bwyllgor ac ers tro mae sawl un wedi amau ei werth. "Mired in failure and futility" oedd disgrifiad Paul Flynn ohono.

Nawr mae Swyddfa Cymru wedi penderfynu gosod adroddiad y Pwyllgor Dethol ar yr LCO gerbron yr Uwch-bwyllgor ar Orffennaf 8fed. Does dim rheswm cyfansoddiadol dros wneud hynny ac o safbwynt y broses mae'n gam diystyr.

Y peth pwysig yw hwn. Pe bai na anghytundeb sylfaenol rhwng y Pwyllgor Dethol a Phwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad, sydd wedi galw am orchymyn cryfach, go brin y byddai'r sesiwn yma'n cael ei chynnal. Cyfle i bob aelod seneddol gael ei weld yn gwisgo cenhinen yn ei gap- beth bynnag sydd yn ei galon- yw'r cyfarfod yma.

Fe fydd yr LCO terfynnol gyda llaw yn cael ei ystyried ar lawr TÅ·'r Cyffredin. Dyma'r tro cyntaf i hynny ddigwydd gyda LCO a'r y tro cyntaf i'r iaith Gymraeg gael ei thrafod ar lawr y TÅ· am 16 mlynedd. Onid yw'r ffaith syml honno yn gythraul o ddadl gref o blaid yr LCO?

Llond bola

Vaughan Roderick | 12:46, Dydd Mawrth, 23 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Roedd hi'n ddigon gwael bod ffreutur y Cynulliad wedi cynnwys "Anglesey eggs" ar fwydlen thema "Canolbarth Lloegr". Beth sy 'da ni heddiw, tybed? Bwyd "Cymru a Gorllewin Lloegr", dim llai. O diar.

Ymhlith y danteithion mae "bajis winwns sbeislyd". Wales and the South West frontier mae'n rhaid!

Statto

Vaughan Roderick | 09:54, Dydd Llun, 22 Mehefin 2009

Sylwadau (7)

Yn sgil etholiadau Ewrop fe gyhoeddais i gyfres o erthyglau ynghylch cyflwr trefniadaeth y Blaid Lafur yng Nghymru. Mae'n bosib eu crynhoi mewn un gair- "kaput". Os oeddech chi i ffwrdd o'ch cyfrifiadur dyma nhw; Rhowch i mi'r hen ffordd Gymreig..., Cwmgors, Daren a Garth Tonmawr, Dinas.

Fe brofodd rhain yn bur ddylanwadol. Does braidd neb wedi anghytuno a'r dadansoddiad. Fe wnaeth gyrraedd casgliadau digon tebyg yn y Western Mail ac mae wedi cydnabod maint y broblem.

Nawr dyma i chi ambell i ffaith fach ddiddorol. Mae pleidiau lleol yn gorfod cyhoeddi eu cyfrifon ar wefan y (PDF) os ydy eu hincwm neu wariant yn fwy na £25,000 y flwyddyn. Sut mae'r pleidiau'n gwneud, tybed?

Fel y byddai dyn yn disgwyl mae'r Ceidwadwyr yn morio mewn pres ar hyn o bryd gyda deg pwyllgor etholaeth yn gorfod cyhoeddi cyfrifon sef Bro Morgannwg, Brycheiniog a Maesyfed, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Caedydd, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gorllewin Clwyd, Delyn, Maldwyn, Mynwy a Phreseli Penfro. Yr unig sioc ar y rhestr yw Gorllewin Caerdydd. Mae honno yn un i wylio, efallai. Rwy'n synnu braidd hefyd nad yw Conwy/Aberconwy wedi cyrraedd y trothwy. Fe gawn weld os ydy hynny'n arwyddocaol.

Mae pump o bwyllgorau rhanbarth Plaid Cymru ar y gofrestr sef Arfon, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Ceredigion, Dwyfor Meirionnydd ac Ynys Môn.

Mae'n ddiddorol nodi bod Plaid Cymru wedi cyrraedd y trothwy yng Ngheredigion a bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi methu gwneud. Dwy o'u pleidiau lleol nhw sydd ar y rhestr, Brycheiniog a Maesyfed a Chanol Caerdydd. Fe ddylai Maldwyn fod yna hefyd ond fe wnaeth y trysorydd lleol gamddeall y rheolau. Ar ôl i fi dynnu eu sylw at y ffaith mae swyddogion y blaid wedi syrthio ar eu bai ac yn cymryd camau i ddatrys y broblem.

Dyma ni'n cyrraedd y "punch line". Faint o bwyllgorau etholaeth y Blaid Lafur wnaeth godi neu wario £25,000 yn 2008, tybed? Tri. Union yr un nifer a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dyma nhw; Gwyr, Gorllewin Abertawe a'r Rhondda.

Nawr mewn rhai o'r achosion yma (gan gynnwys y cyfan o'r rhai Llafur) mae'r trothwy ond wedi ei gyrraedd oherwydd rhent swyddfa gan AC neu AS ond mae rhai o'r ystadegau lleol yn ysgytwol. 271 aelod sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghanol Caerdydd ond yn 2008 trwy roddion yn unig fe dderbyniodd y blaid leol £42,755. Yn Arfon mae gan Blaid Cymru dros £120,000 yn y banc. Arian parod yw hynny, dyw'r swm ddim yn cynnwys gwerth asedau eraill megis adeiladau.

Nawr cofiwch hyn. Roedd Llafur yn dal sedd seneddol Canol Caerdydd tan yr etholiad cyffredinol diwethaf. Roedd y blaid yn chwennych Arfon yn sgil ad-drefnu'r ffiniau. Dyw hi ddim hyd yn oed mewn sefyllfa i gystadlu.

Scots Wha Hae

Vaughan Roderick | 09:59, Dydd Sul, 21 Mehefin 2009

Sylwadau (4)

Mae'r Gymraeg yn iaith. Mae hynny'n ffaith. Gall neb wadu'r peth.

Dyw pethau ddim mor syml bob tro. Roedd Serbo-Croat arfer bod yn un iaith. Bellach mae'n ddwy. Ydy Provençal yn iaith neu ydy hi'n fersiwn dafodieithol o Langue d'oc neu Langue d'oïl? O ran hynny, ydy'r Ocsitaneg (os mai dyna yw'r gair) a'r Oïleg (!) yn dafodieithoedd Ffrangeg?

Mae'n hawdd chwerthin wrth ddarllen wnaeth ymddangos yn "Scotland on Sunday" heddiw am ymgyrch ynghylch arwyddion archfarchnadoedd yn y wlad honno. Efallai ei bod hi'n annheg i wneud hynny.

THE battle for independence has moved into the fruit and veg aisles. A Nationalist politician has written to supermarkets demanding that they translate the English names of fresh produce into their Scots equivalents, such as "tatties", "neeps" and "brambles". Bill Wilson, the MSP for the West of Scotland, says stores should label goods in their stores according to the most commonly used Scots phrases north of the border.

Dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer am sefyllfa ieithyddol yr Alban. Rwy'n gwybod bod darllen "Trainspotting" yn dipyn o dasg! Rwyf hefyd yn gwybod bod 'na rywbeth o'r enw "Doric" a rhywbeth arall o'r enw "Lallans" a bod y ddwy rhywsut yn gysylltiedig a "Scots".

Y gwir amdani, am wn i, yw bod tafodiaith yn gallu cael ei dyrchafu'n iaith os ydy pobol yn dymuno hynny ac os ydy'r ewyllys gwleidyddol yn bodoli.

Fel mae'n digwydd mae "Scots" yn fwy o bwnc llosg yng Ngogledd Iwerddon nac yn yr Alban. Roedd gan y Gweriniaethwyr eu hiaith eu hun felly roedd yr Unoliaethwyr yn benderfynol o gael un hefyd! O ganlyniad sefydlwyd i hybu'r 'iaith'. Serch hynny, mae'n anodd osgoi credu bod 'na elfen o ffrwyth dychymyg wrth ddarllen brawddegau fel hon ar .

"Laa-Makkan Forgaitherars (LMFs) is waled in frae the fowk o Norlin Airlan. Thar 108 LMFs, 6 frae ilkane o the 18 constituencies in Norlin Airlan. Wales tae the Assemblie bes helt ilka foweryeir."

Os ydy honno yn iaith beth am yr sy'n cael ei siarad yn yr Unol Daleithiau? Ydy honno yn iaith hefyd? Mae rhai yn dadlau ei bod hi gan ddefnyddio "Scots" fel cynsail. Wel, mae'r ddwy yn arbennig o hoff o'r gair "yo"!

Diolch byth, does neb wedi ceisio dyrchafu "Wenglish" hyd yma! Rwy'n gallu dychmygu ambell i wleidydd o'r cymoedd yn gwneud!

Ffilm

Vaughan Roderick | 09:41, Dydd Sadwrn, 20 Mehefin 2009

Sylwadau (1)


Does dim "Rialtwch" yr wythnos hon. Yn lle hynny dyma un o'r pethau mwyaf syml a mwyaf dirdynnol i mi wylio erioed. Yr olygfa yn Iran ar drothwy cyflafan bosib.

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 12:42, Dydd Gwener, 19 Mehefin 2009

Sylwadau (0)



Glasgow Herald

Times

Telegraph

Â鶹ԼÅÄ Alban

Mae 'na gythraul o stori dda draw ar ynghylch asiantaeth yr amgylchedd.

Mae John Stevenson yn trafod problemau'r Blaid Lafur yng Ngogledd Cymru ar y podlediad yr wythnos hon. Cofiwch am bodlediadau a blogs eraill Â鶹ԼÅÄ Cymru.

Brics a morter

Vaughan Roderick | 11:03, Dydd Gwener, 19 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Rwy'n dal i balu fy ffordd trwy dreuliau Aelodau Seneddol Cymru. Peidied neb a meddwl nad oes 'na ragor o straeon i ddod!

Un arfer sy'n dod i'r amlwg dro ar ôl tro yw un sy'n gwneud i mi deimlo'n anesmwyth tu hwnt sef achosion o aelodau'n rhenti swyddfeydd mewn adeiladau sy'n eiddo i'w pleidiau. Mae'r arfer yn codi cwestiynau nad ydynt yn hawdd ei hateb.

Mewn rhai achosion (y Ceidwadwyr yn Hwlffordd a Phlaid Cymru yng Nghaernarfon, er enghraifft) mae'r pleidiau yn berchen ar adeiladau trawiadol, addas ac adnabyddus i'r etholwyr. Fe fysai'r droëdig rhywsut i ddweud na ddylai'r aelodau etholedig ddefnyddio'r adeiladau hynny neu i wahardd y pleidiau rhag derbyn rhent am y cyfleusterau.

Yr hyn mae dyn yn cael gan y pleidiau bob tro wrth holi am yr arfer yw'r esboniad bod y rhent "wedi ei bennu'n annibynnol ac yn unol â phris y farchnad". Digon teg. Y broblem yw wrth gwrs bod "pris y farchnad" yn cynnwys elw i'r landlord sef, yn yr achosion yma, pleidiau gwleidyddol yr aelodau.

Dydw i ddim yn meddwl y byddai'n rhesymol i wahardd yr arfer ond mae gen i un awgrym. Ar hyn o bryd mae pleidiau lleol ond yn gorfod cyhoeddi eu cyfrifon ar wefan y Comisiwn Etholiadol os ydy cyfanswm eu hincwm neu eu gwariant yn fwy na £25,000 y flwyddyn. Fe fyddai gorfodi i unrhyw blaid leol sy'n derbyn rhent gan aelod etholedig gyhoeddi manylion y cytundeb a'r incwm "net" i'w coffrau yn gam sylweddol ymlaen.
.

Lipstics a Thonics a Beiros Bic Du

Vaughan Roderick | 16:51, Dydd Iau, 18 Mehefin 2009

Sylwadau (1)

Mae 'na filiynau o ddogfennau wedi eu rhyddhau gan DÅ·'r Cyffredin heddiw ac megis cychwyn mae'r gwaith o'u darllen!

Mae chwisgi wedi arwain at gwymp sawl pechadur... ond pwy fyddai wedi disgwyl y byddai'r cymeriad annwyl yna Huw Irranca Davies yn un ohonyn nhw? Nid slochian y stwff wnaeth Huw ond hawlio am gas o chwisgi i gyflwyno fel gwobr raffl. Mae Huw yn dweud ei fod wedi rhoi chwisgi TÅ·'r Cyffredin i sawl elusen ar hyd y blynyddoedd a dyw e ddim yn deall pam y cafodd y gost ei hawlio ar un achlysur. Mae fe'n addo ad-dalu'r arian.

Fe wnaeth Lembit hawlio am "the mother of wigs". Achlysur elusennol, meddai fe. Mae lipstics a britvics a sanau slic du yn boblogaidd neu yn fwy manwl lipstics, gin a thonics a beiros bic du. Fe hawliwyd am bob un o rheiny gan aelodau seneddol Cymru.

Draw ym Mynwy talodd Davies David miloedd o bunnau i gwmni loris ei dad am adeiladu stondin ac argraffu taflenni ar gyfer sioe amaethyddol. Yn ôl David does neb ar ei ennill yn ariannol. Yn wir roedd y gost yn llai na chyflogi cwmni arbenigol i wneud y gwaith.

Fel maen nhw'n dweud weithiau "mwy ar ôl y toriad..."

Boddi mewn biliau

Vaughan Roderick | 11:01, Dydd Iau, 18 Mehefin 2009

Sylwadau (0)


Mae'r "cinemascope" wedi cyrraedd o'r diwedd! Serch hynny fe fydd y blogio'n ysgafn heddiw. Dwi dros fy mhen a chlustiau mewn treuliau Aelodau Seneddol. Maen nhw i'w gweld yn .

Fe wnes i gyffroi wrth weld bod un aelod wedi hawlio am "VIP service in the Blue Room" nes i mi sylweddoli mai gwasanaeth ffon symudol oedd hwnnw!

Roeddwn i "lawr gyda'r plant" gyda Daniel Glyn ar C2 neithiwr. Fe wnes i joio hefyd er fy mod wedi rhannu gormod o gyfrinachau! Sori, Jonsi. Mae'r rhaglen ar gael ar i-Player.

Ceiliog rhedyn

Vaughan Roderick | 14:35, Dydd Mercher, 17 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Fe ddaeth dyfyniad y dydd heddiw ar ôl i Peter Black gwyno nad oedd y dirprwy weinidog tai, Jocelyn Davies, wedi ateb ei gwestiwn.

Dydw i ddim yn gwybod os oedd Dafydd El yn ffan o'r gyfres teledu "Kung Fu" ond roedd geiriau'r Llywydd yn atgoffo rhyw un o'r fath o bethau yr oedd Meistr Po yn dweud wrth y "Grasshoper" ifanc.

"The Minister, by definition, in answering the question has answered the question."

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 10:33, Dydd Mercher, 17 Mehefin 2009

Sylwadau (0)


Telegraph

Sydney Morning Herald

Northern News Service

Barn

Â鶹ԼÅÄ Cymru

Western Mail


Blogs

Mae blog yn gwneud gwaith rhyfeddol ynghylch y sefyllfa yn Iran. Y lle gorau i ddilyn yr hyn sy'n digwydd, heb os.

Glyn Davies

Dogfael

Botox i'r blog

Vaughan Roderick | 22:28, Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Mae 'na ychydig o waith yn mynd ymlaen ar hyn o bryd i foderneiddio'r blog.

Rwyf yn symud o oes y cerrig i'r oes efydd! Mae'n bosib y bydd y safle yn diflannu'n achlysurol yn ystod yr ail-baentio.

Yn fy marn fach i...

Vaughan Roderick | 18:11, Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2009

Sylwadau (2)

Yn ôl y chwedegau a'r saithdegau roedd 'na ddau gylchgrawn oedd yn "ddarllen gorfodol" i bawb oedd yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth Gymreig sef "Planet" Ned Thomas a "Barn" Alwyn D. Rees. Roedd cylchgronau eraill yn blaguro'n achlysurol "Welsh Radical" gan y blaid Lafur, er enghraifft neu "Radical Wales" a'r "Saeth" gan Blaid Cymru ond Planet a Barn oedd y rhai oedd yn gosod yr agenda.

Mae'r ddau gylchgrawn yma o hyd ac yn ddiweddar mae Barn yn arbennig wedi dechrau ail-sefydlu ei hun fel "must-read" gwleidyddiaeth Cymru.

Nid beirniadu Seimon Brookes, Dyfrig Jones nac unrhyw olygydd arall ydw i drwy ddweud hynny. Rwy'n gwybod yn iawn pa mor galed y maen nhw i gyd wedi gweithio o dan amodau anodd a chyda adnoddau prin. Serch hynny mae hi fel pe bai chwa o awyr iach wedi chwythu trwy'r cylchgrawn ers i'r Cyngor Llyfrau wahodd y Lolfa i gystadlu am y drwydded ar gyfer cylchgrawn materion cyfoes. Fe fydd yn rhaid i fois Talybont weithio'n galed iawn i gynhyrchu rhywbeth gwell. Mae cystadleuaeth yn beth da!

Os ydych chi'n un o rheiny sy ddim wedi darllen Barn ers blynyddoedd, rhowch ail gyfle iddi. Gyda rhestr cyfranwyr sy'n darllen fel "Pwy di Pwy" o lenorion a sylwebyddion gorau Cymru mae'n werth gwneud!

Alun Allan?

Vaughan Roderick | 15:19, Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Efallai eich bod yn cofio'r helynt wythnos ddiwethaf ynghylch amharodrwydd Ieuan Wyn Jones i rannu casgliadau ei grwp ymgynghorol ar briffyrdd a'r pwyllgor cyllid. Canlyniad hynny oedd bygythiad gan y pwyllgor i ystyried rhoi gorchymyn cyfreithiol i'r gweinidog ymddangos gerbron yr aelodau.

Ym mlaen y gad roedd yr aelod Llafur, Alun Davies. Nawr mae deryn bach yn awgrymu y bydd Alun yn colli ei sedd ar y pwyllgor ac y bydd Llafur yn dewis cynrychiolydd arall yn ei le.

Fe fydddai'r gosb braidd yn drom efallai ond gallai'r gosb honno fod o gymorth i Alun brofi i gynhadledd ddewis Llafur Blaenau Gwent nad yw'n celu unrhyw deimladau cynnes tuag at ei hen blaid. Mae colbio Plaid Cymru yn gallu bod yn fodd i ennill calonau'r hoelion wyth Llafur yn y cymoedd.

Diweddariad; Mae Alun yn gwadu'r stori yma. Fe wnai aros ychydig cyn penderfynnu pu'n ai i saethu'r deryn bach ai peidio! Rhag ofn i mi gamarwain unrhyw un nid deryn y Lib Dems oedd yn canu!

Diweddariad 2; Mae'r deryn bach wedi ei saethu ac wedi ei fwydo i'r gath!


Eurig Wyn yn Samwn*

Vaughan Roderick | 12:54, Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Efallai bod y stori yma'n ddiarhebol.

Pan godwyd y bared ar draws Fae Caerdydd gwariwyd miliynau o bunnau ar system o raeadrau a phyllau i sicrhau y byddai samwn a brithyll môr yn gallu cyrraedd afonydd Taf ac Elai. Wedi'r cyfan roedd ffortiwn wedi ei gwario ar lanhau'r afonydd ac ail-gyflwyno'r pysgod. Fe fyddai'n hurt pe bai nhw'n diflannu eto oherwydd yr argae newydd.

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach sylwyd ar ffenomena rhyfedd. Roedd 'na hen ddigon o bysgod yn y ddwy afon ond doedd neb wedi gweld samwn yn neidio i fyny'r rhaeadrau.

Yn y diwedd cafwyd esboniad. Fel pobol y cymoedd dyw samwn Rhondda Cynon Taf ddim yn hoff o waith diangen. Gwell oedd gan y pysgod ddisgwyl y tu allan i'r loc a dilyn y cychod drwyddi!

Rhywbeth felly sydd wedi digwydd gyda'r LCO tai fforddiadwy. Methiant fu'r ymdrech i frwydro yn erbyn llif y pwyllgor dethol. Roedd yr Aelodau Seneddol yn benderfynol o beidio caniatáu i'r cynulliad allu dileu hawl tenantiaid i brynu eu tai. Mae gweledyddion y bae wedi rhoi'r gorau i'r ymdrech felly. LCO mk1 RIP.

Mae ail LCO ar y gweill ac mae'n debyg y bydd y gorchymyn hwnnw'n gofyn am fwy o bwerau na'r un gwreiddiol. Y gobaith yw y bydd aelodau seneddol yn fodlon trosglwyddo pwerau dros yr hawl i brynu fel rhan o orchymyn ehangach lle roeddynt yn amharod i gymeradwyo gorchymyn cul oedd yn canolbwyntio ar y pwnc.

Rwy'n amheus a fydd y dacteg yn llwyddo. Dyw David Jones ac Alun Michael ddim yn mynd i syrthio am dric mor amlwg. Beth bynnag yw ymateb y pwyllgor mae'n annhebyg y bydd LCO mk2 yn cael ei gymeradwyo cyn yr etholiad cyffredionol. Os nad yw e fe fydd yn rhaid mynd yn ôl i'r cychwyn unwaith yn rhagor. LCO mk3 amdani, felly. Onid yw hon yn system wych?

*Roeddwn i wedi gobeithio defnyddio stori'r samwn wrth sgwennu ynghylch etholiad Ewrop. Fe wnes i fethu ond mae'r gair mwys plygeiniol yn rhy dda i wastraffu!

Lessons Geography

Vaughan Roderick | 12:44, Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Mae ffreutur y cynulliad yn hoff o gael bwydlenni thema o bryd i gilydd. Bwyd canolbarth Lloegr oedd y loddest heddiw ond mae'n amlwg bod hi wedi bod yn anodd dod o hyd i ddigon o ddewisiadau. Fe wnâi dderbyn bod "Tandoori battered haddock" yn un o ddanteithion arbennig Wolverhampton ond "Anglesey Eggs"? Rwy'n gobeithio bod Ieuan wedi dod a'i frechdanau heddiw. Fe fyddai'n tagu ar yr wyau yna!

Chwi gewch y brofi

Vaughan Roderick | 19:58, Dydd Sul, 14 Mehefin 2009

Sylwadau (5)

Ar gyrion Cwmbrân, nid nepell o bencadlys Cyngor Torfaen y mae tafarn y "Green House". Dyna yw'r enw y dyddiau 'ma o leiaf. Os syllwch chi'n ofalus uwchben y drws mae 'na ac arni mae'r geiriau hyn:

Y Ty Gwyrdd
1791
Cwrw da a seidr i chwi
Dewch i mewn chwi gewch y brofi

Nawr dydw i ddim yn meddwl fy mod wedi methu adnabod englyn unodl union y tro hwn ond mae'r rhigwm yn fodd i'n hatgoffa o hanes hir y Gymraeg yn y rhan yma o Went.

Fel mewn rhannau eraill o'r de-ddwyrain mae'r Gymraeg ar gynydd. Mae gan Dorfaen ysgolion cynradd ac ysgol uwchradd Gymraeg. Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn gwario miliynau i ail-ddatblygu ac ehangu'r ysgol uwchradd. Fe fyddai'n gwbwl annheg ac anghywir felly i gyhuddo'r cyngor o fod yn wrth Gymraeg mewn unrhyw ffordd o gwbwl. Ar y llaw arall mae angen esboniad gan rywun am ran arall o record y cyngor.

Mae gan y cyngor rhagorol ac fe dderbyniodd sêl bendith y Bwrdd Iaith ar Mehefin 5ed, 2006. Mae'n cynnwys nifer o dargedi i'w cyflawni "yn ystod y tair blynedd nesaf".

Yn 2006 mae'r cyngor yn nodi "mae'n arferol iddo gyhoeddi dogfennau newydd, gwefannau ac ati yn ddwyieithog." Rhwng Mehefin 2006 a Mehefin 2009 mae'r cyngor yn addo "gweithio i sicrhau bod materion Iaith Gymraeg yn rhan hanfodol o bob cynllun e-Lywodraeth a datblygu gwefannau, h.y. cynyddu canran y tudalennau gwe sydd yn Gymraeg, sicrhau dewisiadau Cymraeg ar bob systemau galw, gwasanaethau cyffwrdd sgrin ac ati.".

Gan fod hi'n Fehefin 2009 beth am i ni edrych ar ? Yr unig eiriau Cymraeg ar y dudalen flaen yw "Cyngor Bwrdeistref Torfaen" ac mewn llythrennau bychan ar gornel dop y dudalen "Cymraeg". Iawn, fe allai'r peth fod yn fwy amlwg ond o leiaf mae 'na ddolen i'r fersiwn Gymraeg o'r wefan. Beth am ei dilyn?

Mae na ychydig yn fwy o Gymraeg yn fan hyn. "Rydym wrthi'n creu'r dudalen hon. Mae Cyngor Torfaen wedi ymrwymo i greu gwefan hollol ddwyieithog ac mae'r broses o wneud hyn ar waith. Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i chi am fod mor amyneddgar ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra."

Arhoswch eiliad. Onid oedd hi'n "arferol" i'r Cyngor gyhoeddi gwefannau'n ddwyieithog yn ôl yn 2006? Beth am yr addewid yna i "sicrhau dewisiadau Cymraeg" erbyn Mehefin 2009?

Dau gwestiwn arall. Oes 'na unrhyw un yn plismona'r cynlluniau iaith yma ac os nad oes 'na beth yw'r pwynt eu hymestyn i'r sector breifat?

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 10:10, Dydd Sul, 14 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Pensiynau'r Kinnocks

Times

yw'r ffigwr cywir yn ôl y Mail on Sunday

Papurau

Datgymalu'r Unol Daleithiau. Wall Street Journal

Telegraph

StuffNZ

Blogs
Rhys Wynne

Freedom Central

Heledd Fychan

Cofiwch y a

Rwyf wedi rhedeg allan o awgrymiadau ar gyfer "Rialtwch" am y tro- ac eithrio un. Dyma Â鶹ԼÅÄ Alba yn cofio'r dyddiau drwg. Fe fydd Cymry Cymraeg dros ddeugain oed yn cofio'r teimlad!

Miri Maldwyn

Vaughan Roderick | 20:40, Dydd Sadwrn, 13 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Mae Mick Bates wedi cadarnhau na fydd yn sefyll eto i'r Democratiaid Rhyddfrydol ym Maldwyn. Does 'na ddim byd i ddarllen mewn i'r penderfyniad. Mae Mick, sy'n 63, wedi bod yn aelod o'r cynulliad o'r cychwyn ac mae'n teimlo bod deuddeg mlynedd yn ddigon. Rwy'n amau y bydd ambell i hen steger arall yn dilyn ei esiampl.

O leiaf mae'n gyfle i'r Democratiaid Rhyddfrydol gael tipyn o waed newydd yn y cynulliad. Ar y llaw arall doedd y blaid ddim yn poeni am allu Mick i gadw'r sedd. Clywais y sylw yma heddiw; "Right constituency. Right decision. Wrong candidate". Beth mae hynny'n ei olygu, tybed?

Ar Log

Vaughan Roderick | 15:24, Dydd Gwener, 12 Mehefin 2009

Sylwadau (4)

Un o gornelu bach mwyaf diarffordd a mwyaf difyr gwefan Llywodraeth Cymru yw'r . Ffrwyth y Ddeddf Ryddid Gwybodaeth yw'r safle. O ganlyniad i'r ddeddf wrth ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan unigolyn neu gorff mae'n rhaid gwneud yr ateb hwnnw ar gael i bawb arall. Yn y Cofnod Datgeliadau y maen nhw'n cael eu cyhoeddi.

Mae newyddiadurwyr yn cadw llygad barcud ar y cofnod yn rhannol i weld ar ba straeon y mae newyddiadurwyr eraill yn gweithio. Mae cwestiynau gan y cyhoedd hefyd yn aml yn arwain at ddatgelu ffaith ddiddorol neu ddadlennol. Cais gan aelod o'r cyhoedd oedd yn gyfrifol am stori ar "Dragon's Eye" neithiwr ynghylch faint o arian yr elusennau menywod yn derbyn er enghraifft (cofnod datgelu ).

Fel y byddai dyn yn disgwyl mae 'na amryw o gymhellion dros wneud cais. Yn aml mae'n ddigon hawdd dychmygu pam y mae cais yn cael ei wneud. Rwy'n fodlon mentro, er enghraifft, nad yw'r person wnaeth ofyn ynghylch costau cyfieithu'r llywodraeth a'r nifer sy'n defnyddio ei gwefan Gymraeg (cofnod datgelu ) yn ymgyrchydd brwd dros wasanaethau dwyieithog!

Weithiau mae cais yn canfod rhywbeth sydd yn lled ddiddorol ond yn bur ddiystyr. Rwy'n gosod yr ateb i gais y Democratiaid Rhyddfrydol ynghylch gwariant y llywodraeth ar yn y dosbarth hwnnw. Fe fyddai'n stori dda pe bai'r swm wedi cynyddu'n ddifrifol ond dyw e ddim. Fe fyddai'n ddiddorol gwybod sut mae'r ffigwr yn cymharu â Llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon ond does dim cymhariaeth yn cael ei chynnig.

Mae miliwn o bunnau yn lot o arian. Ond ydy'r swm yn afresymol? A fyddai modd cyflawni'r gwaith mewn ffordd ratach? Oes 'na well ffyrdd o weithio? Dydw i ddim yn gwybod a dyw'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn gwybod chwaith.

O safbwynt plaid wleidyddol (ac mae'r pleidiau i gyd yr un mor euog) does dim ots os ydy ffaith heb gyd-destun o unrhyw werth gwrthrychol ai peidio. Nid canfod gwybodaeth yw bwriad y pleidiau ond 'sgota am ffeithiau a allai ymddangos yn sgandalus i'r cyhoedd er mwyn ennill cyhoeddusrwydd. Mae tudalen flaen y heddiw yn profi bod y dacteg yn gweithio.

Podlediad

Vaughan Roderick | 14:13, Dydd Gwener, 12 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Ymddiheuriadau am y problemau gyda'r podlediad wythnos ddiwethaf. Fe ddylai popeth fod yn iawn yr wythnos hon! Rod Richards yw'r gwestai bonws ac mae'r podlediad hefyd yn cynnwys rhifyn yr wythnos o "Dau o'r Bae" yn fyw o Fynydd Caerffili (neu beidio). Gwasgwch y botwm ar y dde i wrando neu danysgrifio. Mae rhestr lawn o bodlediadau Radio Cymru yn fan hyn.

Dafydd a Jonathan (a Stephen Crabb)

Vaughan Roderick | 20:01, Dydd Iau, 11 Mehefin 2009

Sylwadau (1)

Fe wnes i gyfeirio'n gynharach at ddarlith Jonathan Morgan heno. O ganlyniad i'r etholiadau Ewropeaidd rwy'n tybio bod ei obeithion o olynu Nick Bourne yn y tymor byr wedi pylu.

Yn ei araith wythnos cyn yr etholiad doedd gan Jonathan ddim byd da i ddweud am Nick gan awgrymu (heb ei enwi) ei fod wedi colli ei awdurdod moesol i arwain yn sgil yr helbul ynghylch ei dreuliau. Roedd y ddarlith heno ar y llaw arall yn canmol Nick a'r hyn y mae wedi cyflawni fel arweinydd y Ceidwadwyr y cynulliad.

Ond er ei fod yn fwy diplomyddol y tro hwn mae Jonathan wedi dyrchafu ffrae sydd wedi bod ym mudferwi yn ei blaid i'r brig.

Mae gwraidd yn anghytundeb yn ddigon syml. A ddylai maniffesto'r Ceidwadwyr gynnwys addewid clir na fyddai Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol yn gwrthod cais gan y cynulliad am refferendwm ynghylch pwerau deddfu llawn?

"Dylai" medd aelodau'r cynulliad.

"Dim ffiars o beryg" medd yr aelodau seneddol Cymreig.

Fe wnâi ddyfynnu Jonathan yn y Saesneg gwreiddiol er mwyn cyfleu pa mor gryf yw'r teimladau.

Saying 'NO' to a referendum request would mean denying the people of Wales a vote on this vital issue... This would be telling the people of Wales to be silent and listen to their betters in Westminster. So let's be absolutely clear where we stand now - this cannot be allowed to happen! If we mean what we say, that we trust the public and their ability to decide, then we must give them the right to choose to adopt full legislative powers for Wales or reject it.

Mi fedrai ddychmygu David Jones (a David Davies a Stephen Crabb i raddau llai) yn poeri gwaed wrth glywed y geiriau yna. Pa hawl sydd gan y grŵp cynulliad i glymu dwylo llywodraeth nad yw hyd yn oed wedi ei hethol eto?

Mae 'na lobio ffyrnig yn mynd ymlaen ynghylch y cwestiwn ond mater i David Cameron yw hwn yn y pendraw. Mae'n ymddangos bod Cheryl Gillan yn ceisio osgoi penderfyniad am y tro ond mae aelodau'r cynulliad yn credu eu bod wedi cael gwrandawiad teg gan Oliver Letwin, cydlynydd polisi'r blaid.

Y gwir amdani yw hyn. Wrth i'r Ceidwadwyr ddod yn agosach at ennill grym yn San Steffan mae tensiynau rhwng y blaid seneddol a'r blaid yn y cynulliad yn dechrau amlygu eu hun. Maen nhw'n ddigon tebyg i'r rhanniadau o fewn y Blaid Lafur.

Mae'r aelodau cynulliad yn gwybod bod hi'n haws ennill eu brwydrau nawr tra bod dim ond llond dwrn o Dorïaid Cymreig yn San Steffan nac ar ôl etholiad cyffredinol. Cofiwch, mae'n ddigon posib y bydd gan y blaid fwy o aelodau seneddol Cymreig nac o aelodau cynulliad ymhen blwyddyn.

Dyna, mae'n debyg, sydd wrth wraidd rhai o awgrymiadau eraill Jonathan megis annibyniaeth gyfansoddiadol i'r blaid yng Nghymru ac ethol arweinydd y blaid Gymreig trwy bleidlais a fyddai'n agored i bobol nad oeddynt yn aelodau Ceidwadol.

Rwy'n tybio mai ofn Jonathan yw hyn. Os oedd y Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan fe fyddai rhai o aelodau ac arweinwyr y blaid yn teimlo bod grŵp y cynulliad wedi cyflawni ei bwrpas trwy gadw'r fflam Geidwadol yn fyw. Faint o ddylanwad fyddai gan y grŵp cynulliad, neu gan Gymru o ran hynny, o dan y fath amgylchiadau?


Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 16:27, Dydd Iau, 11 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Worcester Standard

(Argymhellion Comisiwn Calman) Scotsman

Golwg360
Er tegwch- rwyf newydd sylwi bod 'na drafodaeth fywiog ynghylch y stori yma ar "" gyda nifer yn honni ei bod yn gamarweiniol. Fe wna i adael y ddolen ond hwyrach bod angen darllen y drafodaeth yn ogystal a'r stori wreiddiol.

Telegraph

Blogs

Our Kingdom

Paul Flynn

Hen ffefrynnau

Pleidlais y Sgweier

Vaughan Roderick | 14:04, Dydd Iau, 11 Mehefin 2009

Sylwadau (3)

Mae'r Ceidwadwyr yn mwynhau brolio eu bod wedi "ennill y bleidlais boblogaidd" yng Nghymru yn yr etholiadau Ewropeaidd am "y tro cyntaf ers 1859".

Dydw i ddim yn siŵr ydy'r "bleidlais boblogaidd" yn derm cymwys yn y cyswllt hwn. Yn 1859 fe enillodd y Ceidwadwyr 17 sedd gyda 63.6% o'r "bleidlais boblogaidd". Ond sawl pleidlais oedd hynny? Faint o bobol yn union yng Nghymru benbaladr wnaeth bleidleisio i'r Ceidwadwyr? 2,267! Dwy fil, dau gant, chwedeg a saith! Fe enillodd y Rhyddfrydwyr 15 o seddi ar ôl derbyn cyfanswm o 1,585 pleidlais!

Rwy'n ddiolchgar i Jonathan Morgan am yr ystadegau ac yn cynnig yr hysbys fach yma i ad-dalu'r ffafr! Heno fe fydd Jonathan yn cyflwyno darlith ar ddyfodol y Ceidwadwyr Cymreig o dan nawdd Canolfan Llywodraethu Cymru. Mae'r ddarlith yn siambr yr hen Neuadd Sir (adeilad Morgannwg) ym Mharc Cathays am saith o'r gloch.

Melys fedd...

Vaughan Roderick | 11:15, Dydd Iau, 11 Mehefin 2009

Sylwadau (4)

Dyw Roger Roberts ddim yn gallu dianc o'i wreiddiau yn y gobeithlu! Sut arall mae esbonio ei alwad yn NhÅ·'r Arglwyddi am wahardd y ddiod gadarn ar drenau? A dyna fi'n meddwl bod bois Capel Wesle yn llai "hard-core" na'r enwadau eraill!

I fod yn deg pwynt Arglwydd Roberts yw ei fod yn yn brofiad annymunol, brawychus hyd yn oed, i fod ar drên a theithwyr sy'n feddw ac o bosib yn fygythiol. Ond onid yw gwaharddiad braidd yn llawdrwm? Beth am gael cerbyd dirwest, rhywbeth fel y goets dawel? Y "van of hope" neu rywbeth felly!

Dyw meddwi ddim yn broblem newydd wrth gwrs. Roedd cyfaill i mi, Pete Meazey, oedd arfer rhedeg siop lyfrau Cymraeg yng Nghaerdydd, wrth ei fodd ar ôl darganfod hen bennill am ddau o'i gyndadau yn meddwi'n gocos mewn tafarn ym Mro Morgannwg.

"Yr Hen Bost, un dost wyt ti
Ow, denaist y dynion i feddwi
Gwnest yn dlawd dau frawd o fri
Moses a Richard Meazey."

Tafarn ar yr hen A48 lle'r oedd y goets fawr yn newid ceffylau yw'r Hen Bost. Tybed a alwodd Roger yno ar un o'i gylchdeithiau?

Anoracia

Vaughan Roderick | 20:41, Dydd Mercher, 10 Mehefin 2009

Sylwadau (6)

Rwyf newydd ddychwelyd o gwis blynyddol y Sefydliad Materion Cyhoeddus. Hwn, heb os, yw'r digwyddiad mwyaf anoracaidd yn y calendr Cymreig- dwy awr o gwestiynau ynghylch LCOs, pwyllgorau deddfwriaethol ac yn y blaen. Roedd gan y rhan fwyaf o'r cwmnïau lobio eu timau felly hefyd y cyfryngau a'r pleidiau gwleidyddol. Ac eithrio un blaid, hynny yw. Nid y Gymru wledig yw'r unig le lle mae Llafur yn diflannu!

Un cwestiwn wnaeth pery pryder i sawl tîm oedd hwn. "Sawl Aelod Seneddol ac Arglwydd oedd yn aelodau o'r cynulliad cyntaf?" Wyth yw'r ateb cywir ond saith oedd ateb y rhan fwyaf o'r timau. Yn rhyfedd roedd y rhan fwyaf o dimau wedi anghofio'r un person. Pwy oedd hwnnw? John Marek? Cynog Dafis? Nage'n wir. Y person anghofiedig oedd Ieuan Wyn Jones. Mae hynny'n dweud rhywbeth. Dydw i ddim yn siŵr beth!

Byw yn y wlad

Vaughan Roderick | 17:27, Dydd Mercher, 10 Mehefin 2009

Sylwadau (2)

Fe fydd Rhodri Morgan yn agor "Hafod Eryri" yn ddiweddarach yr wythnos hon. Cyn i chi ofyn fe fydd y Prif Weinidog yn cerdded i fyny'r Wyddfa ar lwybr Pen y Gwryd. Er ei fod yn 69 dyw Rhodri ddim yn un i osgoi sialens trwy gymryd y trên!

O'r copa, os ydy'r tywydd yn caniatáu, fe fydd Rhodri yn gallu gweld talp o'r Gymru wledig. Mae'n sicr y bydd y Prif Weinidog yn mwynhau'r olygfa ond fe fydd yn ymwybodol hefyd ei fod yn edrych ar dir sydd brysur troi'n estron i'r Blaid Lafur.

Rydym i gyd yn gyfarwydd erbyn hyn a'r ffaith bod Llafur wedi methu ennill un etholaeth y tu allan i Forgannwg a Gwent yn yr etholiadau Ewropeaidd. Hanner y stori yw hynny. Yn bwysicach efallai, mae'n bosib bod system ddwy blaid yn datblygu yn y rhan fwyaf o etholaethau gwledig a dyw Llafur ddim yn un o'r pleidiau hynny.

Mae 'na naw etholaeth, rhai ohonynt ac aelodau seneddol Llafur, lle roedd Plaid Cymru a'r Torïaid ar frig y pôl gyda'r ddwy blaid yn curo Llafur. Dyma nhw; Ynys Môn, Caernarfon, Meirionnydd Nant Conwy, Conwy, Gorllewin Clwyd, De Clwyd, Preseli Penfro, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Mae'r patrwm hynny yn annhebyg o gael ei ail-adrodd yn yr etholiad cyffredinol ym mhob un etholaeth ond mae'n bosib, yn debygol hyd yn oed, y bydd rhywbeth digon tebyg yn digwydd yn etholiad cynulliad 2011.

Y peryg i Lafur yw bod yr hyn digwyddodd yng Nghonwy/Aberconwy yn etholiad 2007 yn digwydd ar hyd a lled y Gymru wledig gyda Llafur yn cael ei gwthio i'r ymylon.

Gyda llaw hyd y gwelai i "Dau o'r Bae" yw un o'r ychydig raglenni ar Radio Cymru sy ddim yn dod o gopa'r wyddfa ddydd Gwener. Rydym yn ystyried trefnu darllediad allanol o'r fan byrgars ar ben Mynydd Caerffili fel protest.

Dinas

Vaughan Roderick | 09:29, Dydd Mercher, 10 Mehefin 2009

Sylwadau (4)

Fe gododd Monwynsyn pwynt diddorol iawn mewn sylwad rhai dyddiau yn ôl sef bod yr etholiad Ewropeaidd wedi cydymffurfio a'r model tair rhanbarth (y Gymru Gymraeg, y Gymru Gymreig a'r Gymru Brydeinig) o wleidyddiaeth Cymru. Mae'n ddadansoddiad craff ond mae 'na un eithriad amlwg ac mae hynny'n digwydd yn y "Gymru Brydeinig". Gadewch i ni ystyried cyfanswm y pleidleisiau yn yr hen Dde Morgannwg.

Ceidwadwyr; 27,126
Llafur; 19,476
Plaid Cymru; 12,547
Dem. Rhydd. 12,462
UKIP; 12,311

Dyw hwnna ddim yn ganlyniad Prydeinig! Yr hyn sy'n sefyll allan, wrth gwrs, yw'r ffaith mai Plaid Cymru oedd yn drydydd- neu'n gydradd drydydd o ystyried pa mor agos oedd cyfanswm pleidleisiau PC, y Democratiaid Rhyddfrydol ac UKIP. Fe fyddai'r canlyniad hwnnw wedi ymddangos yn amhosib hyd yn oed degawd yn ôl ac fe ddigwyddodd mewn etholiad di-ddrwg, di-dda i'r blaid. Mae'n werth nodi bod Plaid Cymru wedi ennill mwy o bleidleisiau ym Mro Morgannwg a Gorllewin Caerdydd nac yn Islwyn, Cwm Cynon a Merthyr yn y "Gymru Gymreig"

Oes gen i esboniad? Mae gen i fwy nac un! Yn gyntaf mae awgrym Monwynsyn ei hun sef y nifer o bobol sydd wedi symud i Gaerdydd o rannau eraill o Gymru. Yn sicr mae hynny'n rhan o'r esboniad ond mae 'na elfennau eraill. Mae rhai o fewn Plaid Cymru yn tynnu sylw at gefnogaeth lleiafrifoedd ethnig mewn wardiau fel Glanyrafon. Mae 'na wirionedd yn hynny hefyd ond mae 'na ffactor arall eto un sy'n deillio o hanes gwleidyddol hyll y brifddinas.

Tan canol y ganrif ddiwethaf roedd pleidleiswyr dosbarth gwaith Caerdydd a'r Barri (fel rhai Lerpwl a Glasgow) yn pleidleisio yn ar sail crefydd. Plaid "plant Mari" oedd y blaid Lafur. Roedd capelwyr ac eglwyswyr ar y cyfan yn cefnogi'r Torïaid neu'r Rhyddfrydwyr. Un o'r rhesymau yr oedd George Thomas yn gwisgo ei Fethodistiaeth ar ei lewys oedd er mwyn tanlinellu'r pwynt nad plaid Gatholig oedd y Blaid Lafur.

Os edrychwch chi ar y wardiau lle enillodd Plaid Cymru dir yn yr etholiadau cyngor diwethaf dydyn nhw ddim yn wardiau lle mae 'na nifer fawr o fewnfudwyr o weddill Cymru nac o bleidleiswyr ethnig. Mae'n nhw'n wardiau dosbarth gwaith gwyn, llefydd fel Tyllgoed, Trelái a Llanrhymni. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael llwyddiant tebyg mewn wardiau megis Caerau a Gabalfa.

Cyn i neb fy nghamddeall nid awgrymu ydw i bod y patrwm crefyddol yn ailymddangos. Y pwynt yw hyn. Dyw pleidleiswyr dosbarth gwaith Caerdydd ddim yn perthyn i'r "llwyth Llafur" yn yr un modd a phleidleiswyr y cymoedd. Mae'r gefnogaeth wastad wedi bod yn amodol yn hytrach nac yn awtomatig.

Mae hyn oll yn hynod bwysig pan ddaw'r etholiad cynulliad nesaf. Yn y Gogledd a'r Gorllewin mae 'na obaith i Lafur gael ei digolledi o'r rhestr ar ol colli sedd etholaeth. Dyw hynny ddim yn wir yng Nghanol De Cymru. Mae'n bosib felly mai De Morgannwg fydd yn penderfynu lliw llywodraeth nesaf Cymru.

Mae sgwennu'r post yma wedi achosi pwl o hiraeth am hon! "Gwydred arall o win, Leslie?"

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 20:49, Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2009

Sylwadau (1)

Mae bois "" wedi cwpla eu cyrsiau newyddiadurol. Does 'na ddim llawer o gyfleoedd yn y busnes 'ma ar hyn o bryd felly mae'r Dewis yn canolbwyntio ar eu gwefan. Galwch draw.

Mae ar ei orau. "Neil (Kinnock) had spent his political life in the search for a full stop. He still has not found it."

Yr un pwnc. Guardian

Agence Bretagne Presse

AFP

Rwy'n deall y dadleuon ynghylch gemau prawf ac undydd ond oes 'na unrhyw reswm dros beidio cael Cymru fel gwlad yng nghystadlaethau Twenty20?

Cofiwch y .

Yn hapus wrth ymyl y lli...

Vaughan Roderick | 15:41, Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Os oeddech chi'n gwylio'r lluniau teledu o David Cameron ar stepiau'r senedd ddoe roedd hi'n anodd peidio sylwi ar Nick Bourne yn gwenu o glust i glust. Roedd y canlyniad yn rhoi rheswm iddo wenu wrth gwrs - ond nid buddugoliaeth ei blaid oedd yr unig beth i lonni ei galon. Yn sgil y canlyniad mae'n anodd credu nad yw ei afael ar yr arweinyddiaeth bellach yn gadarn. Ymhen rhai dyddiau fe fydd Jonathan Morgan yn amlinellu ei weledigaeth e ynghylch dyfodol y Ceidwadwyr yng Nghymru mewn darlith gyhoeddus. Ydy e'n gorfod ail-sgwennu darnau o'i araith tybed?

Peth peryg yw "Twitter" lle mae rhywun weithiau yn postio'n ddifeddwl. Mae Peter Black yn canu fel cana'r aderyn heddiw. Daeth "tweet" ganddo rhai munudau yn ôl yn dweud hyn "I am watching a statement on 'Dairy Farmers of Britain'' and wondering why the minister missed out the Great". Mae 'na ateb syml, Peter. "Dairy Farmers of Britain" yw enw'r cwmni nid "Dairy Farmers of Great Britain". Mae "tweet" yn gallu troi yn "twit" weithiau!

Cwmgors, Daren a Garth Tonmawr

Vaughan Roderick | 14:41, Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2009

Sylwadau (4)

Mae'n destun balchder i mi bod Rhodri Morgan yn darllen y blog yma o bryd i gilydd. Mae'n ymddangos ei fod wedi darllen yr hyn wnes i bostio ddoe ynghylch cyflwr y blaid Lafur. Fe dreuliodd talp o'i gynhadledd newyddion heddiw yn trafod rhai o'r pwyntiau yr oeddwn wedi eu codi.

Roedd y Prif Weinidog yn cytuno a rhannau helaeth o'r dadansoddiad ond yn anghytuno ynghylch un pwynt sylfaenol. Gan nad yw Rhodri yn dewis gwneud sylwadau (neu efallai nad yw'n gwybod sut mae gwneud) fe wnâi grynhoi ei ddadl.

Yn ôl Rhodri mae parodrwydd cefnogwyr Llafur i gefnu ar y blaid yn dyddio yn ôl i'r cyfnod cyn i'r strwythurau undebol a phleidiol ddechrau dirywio. Nid fe yw'r cyntaf i weld isetholiad Caerfyrddin (1966) fel y trobwynt allweddol yn ein diwylliant gwleidyddol. O hynny ymlaen medd Rhodri roedd y peiriant Llafur ond yn gallu gwarantu buddugoliaeth mewn etholiadau lle'r oedd llywodraethau yn cael eu hethol. Yn yr etholiad hwnnw a rhai Gorllewin Rhondda (1967) a Chaerffili (1968) fe ddaeth dyddiau teyrngarwch awtomatig i Lafur i ben. Dim ond mewn etholiadau cyffredinol yr oedd Llafur yn gallu dibynnu ar ei chefnogwyr o hynny ymlaen.

Mae 'na sylwedd i'r ddadl ond dim ond yn yr ystyr yma. Mae'n awgrymu bod y dirywiad yn y teyrngarwch i Lafur wedi digwydd yn gyfochrog a'r dirywiad yn y drefniadaeth yn hytrach o ganlyniad iddo. Cofiwch mai un o'r rhesymau am lwyddiant Plaid Cymru yn y Rhondda a Chaerffili oedd cynllun Harold Wilson i gau pyllau glo- rhaglen llawer mwy ffyrnig nac un Mrs Thatcher yr wythdegau.

Rhwng 1964 a 1970 cafodd y nifer o lowyr yng Nghymru ei haneri gyda bron i ddeugain mil o ddynion yn colli eu gwaith. Mae gwleidyddiaeth Cymru yn ceisio dal lan a'r newid cymdeithasol ac economaidd chwyldroadol hyd heddiw.

Mae darllen rhestr o'r hen byllau glo yn brofiad rhyfedd. Mae hi fel camu i mewn i lyfr hanes. Glyncastell, Fforchaman, Felinfran, Wernos, Aberbeeg, Garngoch rhif 3, Parc, Pwllbach... mae'n rhaid i Lafur ofalu nad yw enw'r blaid ei hun yn cael ei ychwanegu at y rhestr.

Rwy'n ddiolchgar i Hedd am ddanfon tabl i mi yn dangos canlyniadau etholiadau Ewrop o 1995 ymlaen. Ein tuedd ni fel newyddiadurwyr yw cymharu'r canlyniadau ers 1999 pan ddaeth y drefn gyfrannol i rym. Mae ychwanegu ffigyrau 1995 yn ddadlennol o safbwynt mesur maint trychineb y Blaid Lafur. Yn y flwyddyn honno enillodd Llafur 530,749 pleidlais (56% o'r cyfanswm). Eleni'r ffigwr oedd 138,852 (20.3%).

Abergorki, Crumlin, Pentreclwydau, Ynyscedwyn...


Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 08:30, Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2009

Sylwadau (2)


Daily Mail

MK

Golwg360

Glasgow Herald

Rhowch i mi'r hen ffordd Gymreig...

Vaughan Roderick | 19:01, Dydd Llun, 8 Mehefin 2009

Sylwadau (7)

Mae'n werth ystyried geiriau Eluned Morgan ar "Post Cyntaf" y bore 'ma.

"Roedd 'na broblem ynglŷn â'n neges ni. Doedd y neges ddim yn un eglur. Roeddwn i'n rhan o'n hymgyrch ni a fedrai i ddim dweud wrthoch chi'n eglur beth oedd ein neges ni... Roedd hwn yn gic i ni ac mae'n rhaid i ni fynd ati i ailadeiladu'r blaid yng Nghymru. Dyw hynny ddim yn mynd i fod yn hawdd i ni. Mae 'na dipyn bach o fyth wedi codi ynghylch y peiriant llafur yng Nghymru. Does dim lot o beiriant i gael. 'Na'r gwirionedd ac wrth gwrs ar hyn o bryd mae prinder arian yn peri pryder mawr i ni fel plaid."

Hwn yw'r tro cyntaf, dwi'n meddwl, i wleidydd Llafur gyfaddef yn gyhoeddus yr hyn sydd wedi bod yn amlwg i nifer ohonom ers tro byd. Mae peirianwaith canolog y Blaid Lafur yng Nghymru bellach yn blisgyn gwag ac yn llwyr fethu cystadlu a'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ac efallai hyd yn oed y Democratiaid Rhyddfrydol.

Pan gychwynnais i yn y busnes yma chwarter canrif yn ôl roedd swyddfa'r Blaid Ryddfrydol Gymreig yn cyflogi un person (sef Kate Lloyd) a hynny yn ystod y boreau yn unig. Dai Banjo, Gwerful a Phero'r gath oedd yn swyddfa Plaid Cymru ac roedd dau hen foi mewn blazers yn gweithio ym mhencadlys y Torïaid.

Cymharwch hynny a'r hyn oedd gan Hubert Morgan o dan ei oruchwyliaeth yn Transport House. Nid yn unig yr oedd ganddo fe fwy o staff na chyfanswm y pleidiau eraill gyda'i gilydd. Yn ystod etholiad fe fyddai llu o swyddogion undeb ar gael i sicrhau goruchafiaeth y blaid yng Nghymru. O dan eu goruchwyliaeth roedd cannoedd o ganghennau plaid ac undeb heb son am rwydweithiau'r Co-op, yr adran fenywod, y clybiau yfed, y llyfrgelloedd, y neuaddau gweithwyr a'r stwits.

Hwn oedd y peiriant Llafur, y peiriant y mae Eluned yn cyfaddef nad yw'n bodoli bellach. Dyw hynny ddim wedi digwydd dros nos. Bron fel enwad anghydffurfiol mae'r dirywiad wedi digwydd capel wrth gapel, pentref wrth bentref, achos wrth achos a hynny dros gyfnod o ddegawdau.

Nid yng Nghymru yn unig mae hynny wedi digwydd ac ymdrech i ymrafael a'r broblem oedd "Llafur Newydd". Lluniwyd polisïau a delwedd newydd i apelio at bobol nad oeddynt yn rhan o'r rhwydweithiau traddodiadol. Canfuwyd ffynonellau ariannol newydd i gyllido'r blaid ac roedd y cyfan yn ddarostyngedig nid i'r gynhadledd flynyddol na'r undebau ond i'r arweinydd a'r criw o'i gwmpas.

Ymwrthod a hynny wnaeth Rhodri Morgan. Roedd ef am weld "dwr coch clir" rhwng Llafur Cymru a Llafur newydd- y bechgyn a'r siwtiau drud a'r sgidiau sgleiniog. Efallai bod y nenfwd yn gollwng, yr aelodaeth yn lleihau a'r blaenoriaid yn heneiddio ond roedd Llafur Cymru am barhau i gadw drysau'r hen Dabernacl ar agor a chanu'r un hen emynau bob etholiad.

Dyna sydd wrth wraidd y gyflafan. Dyw beio "cyfuniad gwenwynig yr economi a threuliau" ddim yn ddigonol. Dyw hynny ddim yn esbonio pam yr oedd y canlyniad i Lafur yng Nghymru yn waeth nac yng ngweddill Prydain. Mae Llafur Cymru wedi methu addasu i newid cymdeithasol ac wedi osgoi penderfyniadau poenus ac anodd.

Dyw Llafur ddim ar ei gwely angau. Fe ddylai hi ennill y mwyafrif o seddi Cymru yn yr etholiadau cyffredinol nesaf ond mae'n bryd iddi ffarwelio a'r "hen ffordd Gymreig o fyw". Yn eu calonnau mae aelodau Llafur Cymru yn gwybod hynny ac mae nifer cynyddol yn fodlon dweud hynny'n gyhoeddus.

Penblwydd Hapus

Vaughan Roderick | 12:01, Dydd Llun, 8 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Mae Kay Swinburne yn dathlu ei phen-blwydd heddiw. Gall ASE Ceidwadol newydd Cymru ddim cwyno am ei hanrheg! Serch hynny, ydy hi'n gall i wrthod y cyfle i wneud cyfweliadau teledu byw oherwydd bod y "parti eisoes wedi ei drefnu"?

Ar gyfer heddiw'r bore

Vaughan Roderick | 11:19, Dydd Llun, 8 Mehefin 2009

Sylwadau (11)

Mae pob math o bwysigion Ceidwadol ar eu ffordd i Gymru a rhyw gant o Geidwadwyr yn disgwyl David Cameron ar risiau 'r senedd. Dyw'r wlad fach yma erioed wedi bod mor bwysig i'r blaid. Oes angen dweud pam?

Mae sawl un wedi gofyn oes modd gweld yr holl ganlyniadau etholaeth. Dydw i ddim wedi canfod un safle canolog lle maen nhw ar gael. Maen nhw gen i ar bapur ond fedrai ddim teipio nhw i gyd i mewn!

Mae 'na ambell i ganlyniad rhyfeddol. Ym Maldwyn, er enghraifft, roedd Llafur yn chweched. Mae'r ffigyrau ar . Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn wynebu problem ddifrifol ym Maldwyn. Yng ngeiriau un Democrat Rhyddfrydol "Maldwyn yw prawf mawr cyntaf arweinyddiaeth Kirsty Williams".

Fe wnâi balu trwy rai o'r canlyniadau eraill os oes amser. Bant a fi nawr i wneud y "World at One". Mae gwasanaethau rhwydwaith y Â鶹ԼÅÄ hefyd yn ymddiddori yng Nghymru, am heddiw o leiaf!

Ffeithiau o'r diwedd!

Vaughan Roderick | 23:41, Dydd Sul, 7 Mehefin 2009

Sylwadau (9)

Etholaethau wedi eu hennill fesul Plaid.

Ceidwadwyr 17
Llafur 13
Plaid 5
Dem Rhydd 1

4 i ddod sef Conwy, Pontypridd, Cwm Cynon ac Ynys Mon.

Dydw i ddim am ail-deipio'r canlyniad llawn. Un gair. Anhygoel.

Diweddariad. Conwy Plaid, Ynys Mon Plaid, Pontypridd Llafur, Cwm Cynon Llafur. Felly;

Ceidwadwyr 17
Llafur 15
Plaid 7
Dem. Rhydd. 1

Cofiwch mai'r hen etholaethau yw rhain. Conwy nid Aberconwy, er enghraifft.

Sibrydion (3)

Vaughan Roderick | 22:29, Dydd Sul, 7 Mehefin 2009

Sylwadau (9)

I brofi'r pwynt mai sibrydion yw rhain mae'r sibrwd bod Plaid wedi colli Ceredigion yn anghywir. Er bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill tir, Plaid Cymru sydd ar y blaen. Mae Plaid hefyd ar y blaen o drwch blewyn yng Nghonwy.

Mae na ail-gyfri yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Ydy'r Blaid Lafur yn mynd i ennill mewn unrhyw etholaeth y tu allan i Forgannwg a Gwent? Mae'n bosib na fydd hi. Un llygedyn o obaith i Lafur. Mae'n ymddangos ei bod hi wedi dal ei gafael ar Orllewin Caerdydd... a Blaenau Gwent.

Diweddariad; Mae Llafur wedi colli yn Alun a Glannau Dyfrdwy o 700! Collodd y blaid hefyd yn Wrecsam a De Clwyd. Dyw Llafur ddim wedi ennill un etholaeth y tu allan i'r de-ddwyrain felly. Mae nhw wedi colli ym Mhen-y-bont hefyd. I bob pwrpas mae'r Ceidwadwyr wedi ennill ym mhob un etholaeth lle'r oedd hynny'n bosib. Dyw Plaid Cymru ddim wedi gwneud hynny. Dyw hi ddim yn noson wael i Blaid Cymru ond dyw hi ddim cystal a'i gobeithion. Mae 'na wobr gysur i'r Democratiaid Rhyddfrydol, buddugoliaeth yng Nghanol Caerdydd.

Diweddariad 2; Dydw i ddim am ddweud dim mwy am Geredigion nes i mi weld y ffigyrau! Plaid sydd wedi ei hennill hi ac mae'r sbin yn fy nrysu!

Y Record

Vaughan Roderick | 22:00, Dydd Sul, 7 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Mae William Hague yn dweud mai'r tro diwethaf i'r Ceidwadwyr ennill yng Nghymru oedd yn y tridegau. Mae hynny'n wir ond dim ond os ydych chi'n cyfri ymgeiswyr Llafur Cenedlaethol a Rhyddfrydwyr Cenedlaethol fel Torïaid.

Mae Betsan yn dweud mae'r tro diwethaf i Lafur ddod yn ail oedd yn 1918. Mae hynny'n wir ond clymblaid Lloyd George oedd ar y blaen. Roedd rhai o'r rheiny yn Geidwadwyr, eraill yn Ryddfrydwyr.

Yn ol Darran Hill y tro diwethaf i'r Ceidwadwyr ennill ar eu pennau eu hun yng Nghymru oedd yn 1865 cyn ymestyn y bleidlais i ddynion dosbarth gwaith.

Gallai heno fod yn noson fawr.

Sibrydion (2)

Vaughan Roderick | 21:16, Dydd Sul, 7 Mehefin 2009

Sylwadau (1)

Rwyf am newid y broffwydoliaeth ynghylch y bedwaredd sedd gan roi UKIP yn ol yn y ffram. Mae'r blaid honno wedi gwneud yn well na'r disgwyl mewn etholaethau Llafur.

Mae Llafur yn colli pob sedd yng Nghaerdydd ac yn gwneud yn ofnadwy yn y Gogledd Ddwyrain. Ar y llaw arall mae Llafur ar y blaen i Blaid Cymru mewn llefydd fel Castell Nedd Port Talbot a Chaerffili. Y Ceidwadwyr ar y brig, Llafur yn ail, PC yn drydydd a'r bedwaredd sedd i UKIP? Mae'n gynnar ond mae hynny'n bosib. Gyda llaw mae'r Ceidwadwyr ac UKIP ar y blaen i'r Democratiaid Rhyddfrydol ym Maldwyn.

Diweddariad; Dyw gwrthryfel Paul Flynn wedi ddim wedi dwyn ffrwyth. Mae'r Ceidwadwyr ar y blaen yng Ngorllewin Casnewydd.

Sibrydion

Vaughan Roderick | 20:02, Dydd Sul, 7 Mehefin 2009

Sylwadau (4)

Mae Betsan yn y cyfri yn Hwlffordd ond heb fynediad i'r we. Mae gen i gyfrifiadur ond pa iws yw hynny yng Nghaerdydd? Fe wnawn ni weithio rhywbeth allan!

Dyma'r sibrydion sydd o gwmpas. Dydw i ddim yn gwarantu eu cywirdeb ond mae nhw'n dod o fwy nac un blaid.

Mae Llafur ar y blaen yng Nghasnewydd ac Abertawe ond dim ond o drwch blewyn. Dyw hynny ddim yn syndod gan fod y bleidlais wrth-Lafur ar wasgar yn y ddwy ddinas. Mae'r Ceidwadwyr ar y blaen ym Maldwyn, Dyffryn Clwyd a Gwyr. Cyn i nhw ddathlu gormod, os ydw i'n cofio'n iawn, roedd yr un peth yn wir yn yr etholiadau Ewropeaidd diwethaf.

Dyw hi ddim yn ymddangos y bydd un o'r pleidiau llai (ac yng nghyswllt Ewrop mae hynny'n cynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol) yn gwneud yn ddigon da i ennill y bedwaredd sedd. Fe fydd honno, mae'n debyg, yn mynd i ba bynnag blaid sydd ar y brig. Os nad oes 'na ail gyfri disgwylir y canlyniad am ddeg o'r gloch.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 10:28, Dydd Sul, 7 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Fe fydd ambell i athro hen ffasiwn yn mwynhau'r sgets yma o Seland Newydd.

Clyfar... a doniol, os braidd yn anweddus. Cerddoriaeth ystyrlon Bonnie Tyler.

Diolch i AJB yn Melbourne am rheiny.

Nawr dyma i chi ychydig o newyddion da i'r rheiny ohonoch chi sy'n mwynhau "Rialtwch". Mae , cymdeithas ryngwladol sy'n dwyn ynghyd darlledwr brodorol a lleiafrifol yn lansio cyfres newydd "Indigenous Insight". Fe fydd y rhaglenni wythnosol hanner awr o hyd yn cynnwys cyfraniadau gan APTN, Â鶹ԼÅÄ Alba, NRK Sámi Radio, TG4, TITV/PTS a Maori TV. Yn anffodus, er bod S4C yn aelod o'r gymdeithas dyw hi ddim yn ymddangos bod y sianel yn cymryd rhan yn y cynllun yma.

Gwasanaeth Teledu brodorol Canada yn . Dydw i ddim yn deall mewn gwirionedd beth sy'n "frodorol" yn y gerddoriaeth ar "Arbor" ac eithrio cefndir ethnig y perfformwyr. Ar y llaw arall gallai selogion yr Å´yl gerdd Dant ddweud yr un peth am C2!

Trigolion Gogledd Llychlyn yw'r Sami sy'n cael eu gwasanaethu gan NRK Sami Radio. Dyma eu hymdrech nhw ar gyfer cystadleuaeth Eurovision y llynedd.


Argyfwng

Vaughan Roderick | 19:09, Dydd Gwener, 5 Mehefin 2009

Sylwadau (6)

Anghofiwch beth sy'n digwydd yn San Steffan am funud. Mae'n ymddangos bod argyfwng ychwanegol yn bygwth Llafur yma yng Nghymru. Dydw i ddim yn gwybod os ydy'r si yn wir ai peidio ond mae mwy nac un aelod Llafur wedi dweud wrtha i eu bod yn disgwyl i ganlyniadau'r blaid yng Nghymru fod yn waith na'r rhai yn Lloegr. Mae rhai yn darogan yn hyderus y bydd y blaid yn "drydydd gwael" ar ddiwedd y cyfri. Dywedodd Peter Hain y prynhawn yma bod y blaid Gymreig yn ei chyflwr gwannaf ers cenedlaethau.

Fel dywedais dydw i ddim yn gwybod os ydy'r darogan yn gywir ai peidio ond mae rhai o fawrion y blaid yn gynddeiriog ynghylch safon yr ymgyrch. Y swyddfa ganolog yng Nghaerdydd sy'n cael y bai ac mae'n ymddangos y gallai swyddi rhai o' staff fod dan fygythiad.

Yn y cyfamser heno mae Huw Lewis, un o'r ymgeiswyr i olynu Rhodri Morgan, wedi galw arno i ohirio ei ymddeoliad. Yn ôl Huw Rhodri yw'r un i arwain Llafur Cymru allan o'r argyfwng presennol. Beth sydd wrth wraidd yr alwad? Dydw i ddim yn meddwl bod Huw yn gwneud rhyw symudiad tactegol yn fan hyn. Yn hytrach, fel un oedd yn arfer fod yn weithiwr llawn amser yn y pencadlys, mae'n teimlo bod angen i'r blaid Gymreig newid popeth ar fyrder. Popeth, hynny yw, ac eithrio ei harweinydd.

Peter, Paul, Aneurin a'r LCO

Vaughan Roderick | 15:16, Dydd Gwener, 5 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Mae adroddiad pwyllgor deddfwriaeth y cynulliad ynghylch yr LCO iaith newydd ei gyhoeddi. Fel gwnes i broffwydo dwy'r pwyllgor ddim yn fodlon a'r gorchymyn yn ei ffurf bresennol. Hon yw'r frawddeg allweddol;

"Rydym yn argymell y dylai'r Cynulliad gael pwerau eang dros yr iaith Gymraeg, gan osgoi'r dryswch o fanylu ar bwy fydd, neu na fydd, yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth bellach yn y dyfodol, ar yr adeg hon. Credwn y gallwn gael dadl fwy gwybodus o lawer pan gaiff y mesurau arfaethedig eu cyflwyno."

Hynny yw, mae'r pwyllgor yn credu y dylai'r cynulliad gael y cwbwl lot o'r pwerau deddfu ynghylch yr iaith.

Yn benodol mae'r pwyllgor am i'r cynulliad gael yr hawl i ddeddfu yn y meysydd canlynol;
cyrff partneriaeth sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau trafnidiaeth yn cynnwys rheilffyrdd, bysiau, hedfan a fferis a sefydliadau ariannol mawr, yn cynnwys banciau.

Adroddiad y pwyllgor dethol sy nesaf. Os ydy'r pwyllgor hwnnw'n cytuno (ac mae 'na arwyddion o hynny) a fydd Swyddfa Cymru yn gwrando?

Paul Murphy oedd yn gyfrifol am lastwreiddio LCO yn y lle cyntaf. A fydd Peter Hain yn fwy hyblyg? Dydw i ddim yn gwybod. Mae record Peter ynghylch yr iaith yn bur dda. Ar y llaw arall mae'n debyg bod y berthynas rhyngddo fe a Rhodri o hyd yn fregus yn sgil helynt fideo Delilah.

Gyda llaw beth sydd wedi digwydd i safle ""? "A daily must-check website for anyone who wants to know what's really going on in Wales" oedd disgrifiad Peter o'r safle. Wel, rwy'n tsiecio bob dydd ac mae'n ymddangos bod y safle wedi syrthio i drwmgwsg.


Clustiau i wrando

Vaughan Roderick | 14:26, Dydd Gwener, 5 Mehefin 2009

Sylwadau (1)

Mae ambell i awgrym yn dechrau ein cyrraedd ynghylch etholiadau Ewrop. Mae'r nifer wnaeth droi allan yn llai na deg ar hugain y cant yn y rhan fwyaf o etholaethau seneddol Cymru. Mae 'na sôn hefyd bod Llafur wedi disgyn i'r drydydd safle yn Llanelli a Dwyrain Caerfyrddin gan golli i Blaid Cymru ac UKIP yn y ddwy etholaeth. Fe gawn weld!

Mae'n ddiddorol bod y Ceidwadwr Guto Bebb wedi darogan y bydd UKIP yn cipio sedd yng Nghrymu. I wneud hynny fe fyddai'n rhaid i'r Blaid ddod yn bedwerydd ac ennill 50% + 1 o bleidlais pa bynnag blaid sydd ar y brig. Byswn i'n tybio bod hynny'n golygu rhyw 15% o'r bleidlais. 10.5% cafodd y blaid tro diwethaf. Amser a ddengys.

Roedd Guto yn siarad ar Dau o'r Bae. Gallwch glywed y rhaglen trwy danysgrifio i'r podlediad ac ar iPlayer.

ON: Mae ymgeisydd yr "English Democrats" wedi ei ethol yn faer Doncaster. Diawch mae rhain yn etholiadau rhyfedd!

Diweddariad; Yn ôl y prif swyddog etholiadol pleidleisiodd 30.5% o etholwyr Cymru ddoe. Mae hynny ychydig yn fwy na'r disgwyl.

Tic... Toc...

Vaughan Roderick | 11:11, Dydd Gwener, 5 Mehefin 2009

Sylwadau (3)

.Fe wnes i roi fy mhen ar y bloc ar Post Cyntaf bore 'ma wrth ddweud fy mod yn credu y byddai Gordon Brown yn ymddiswyddo cyn diwedd y dydd. Rwy'n ddigon parod i wisgo sachliain a lludw ar Bost Prynhawn os ydw i'n anghywir! Weithiau mae'n rhaid dibynnu ar reddfau a weithiau mae greddfau'n anghywir .

Dau gwestiwn sy gen i ar hyn o bryd. Y cyntaf yw hwn. Oes 'na unrhyw un yn credu y gallai'r Prif Weinidog arwain ei blaid i mewn i etholiad cyffredinol gydag unrhyw obaith o ganlyniad parchus? Os ydy'r ateb i'r cwestiwn cyntaf yn negyddol mae'r ail gwestiwn yn dilyn yn naturiol. Pam gohirio'r artaith?

Rwy'n tybio y bydd gwleidyddion Llafur yn gofyn yr un cwestiynau.

Neithiwr roedd Rhodri Morgan yn gyrru trwy ei etholaeth gydag uchelseinydd yn galw ar bobol i droi allan i bleidleisio dros Lafur. Rwy'n dwli byw mewn gwlad lle mae'r Prif Weinidog yn gwneud rhywbeth felly ond yn ôl y son doedd ymateb y cyhoedd ddim yn bert. Y frawddeg y mae dyn yn clywed amlaf gan wleidyddion Llafur yw hon. "Dyw pethau ddim yn gallu mynd 'mlaen fel hyn"

Gwylio paent yn sychu

Vaughan Roderick | 10:46, Dydd Iau, 4 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Dydw i ddim yn cael blogio am wleidyddiaeth yn ystod y cyfnod pan mae'r gorsafoedd pleidleisio ar agor. Beth am ddarllen ychydig o yn lle hynny?

Ar y llaw arall gallwn ddarllen y ac anoracaidd erioed. Na, dywdi ddim yn deall chwaith! Bando? Arwystli v Erging? Od.

Beth sydd ar deledu go iawn, tybed?

Fe wnai ddychwelyd i'r drefn arferol yfory!

Cyfrwn ein bendithion (Rhwydweithio)

Vaughan Roderick | 23:56, Dydd Mercher, 3 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Mae'n werth oedi a meddwl .

! Oes angen dweud?

Cerrig Milltir

Vaughan Roderick | 15:57, Dydd Mercher, 3 Mehefin 2009

Sylwadau (1)

Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen ynghylch pa mor anodd yw proffwydo canlyniad etholiad Ewrop yng Nghymru. Mae'n haws gosod ambell i garreg filltir i nodi beth fyddai'n cyfri fel llwyddiant a beth fyddai'n cael ei ystyried yn fethiant i bob un o'r pleidiau.

Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn rhannu'r un targed syml sef curo Llafur. Dyw'r naill blaid na'r llall erioed wedi gwneud hynny mewn etholiad cenedlaethol yng Nghymru. Fe fyddai ennill ail sedd yn fonws ac wrth gwrs mae'r ddwy blaid yn gobeithio curo ei gilydd ond man bethau yw'r rheiny o gymharu â'r cyfle hanesyddol i glatsio Llafur.

Y nod i'r Blaid Lafur yw cadw ei thrwyn ar y blaen yn y bleidlais boblogaeth. Mae'r ffaith bod hynny'n ymddangos yn dasg ryfeddol o anodd yn adrodd cyfrolau am gyflwr y Blaid. Fe fyddai dod yn ail yn ddigon drwg i Lafur. Fe fyddai dod yn drydydd yn drychineb.

Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhyfeddol o wael yn yr etholiad Ewropeaidd diwethaf gan ddod yn bumed y tu ôl i UKIP. Curo'r blaid honno yw'r nod cyntaf felly. O wneud hynny mae'n bosib, er yn annhebyg, y gallai'r blaid gipio sedd. Fe fyddai angen llawer llai na hynny er mwyn i'r blaid ystyried yr ymgyrch yn llwyddiant. Fe fyddai ennill y bleidlais boblogaidd mewn un etholaeth yn welliant ar y canlyniad tro diwethaf!

Mae'n braf cael byw mewn tÅ· haf...

Vaughan Roderick | 14:26, Dydd Mercher, 3 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Ymhen ychydig fe fydd gwefan Â鶹ԼÅÄ Cymru yn cyhoeddi crynodeb o'r wybodaeth sydd ar gael ynghylch treuliau Aelodau Seneddol Cymru. Mae'n anodd cadw trac weithiau!

Alun Michael yw'r diweddaraf i ddenu sylw . Yn unol â'r rheolau oedd yn bodoli ar y pryd pan ddyrchafwyd Alun i'r cabinet fe glustnododd ei fflat yn Llundain fel ei brif gartref ac fe barhaodd a'r drefn honno nes iddo adael y llywodraeth. Digon teg.

Ond arhoswch am eiliad. Beth am y cyfnod yna pan oedd Alun yn Brif Ysgrifennydd Cymru? Dyma sydd ganddo i ddweud mewn e-bost i'r Â鶹ԼÅÄ.

My main home has always been in Penarth but - in common with all Ministers - the system defined Ministers as being London-based and required Ministers to claim on the constituency home as the "second home" irrespective of any personal arrangements. That kicked in immediately when I became a Minister in 1997. Being able to change definitions is a quite recent development following a rule change, and I have now used that choice - now that I am out of Government and a back-bencher - to designate Penarth as my main home and to reflect the reality of my situation. That choice wasn't there in the past. During my time at the Assembly I was still an MP but I was intending to stand down at the general election and the question of designation never arose.

Hynny yw, os nad ydw i'n cam-ddeall, yn ystod ei gyfnod fel Prif Ysgrifennydd, Cymru oedd "ail-gartref" Alun yng ngolwg yr awdurdodau yn San Steffan. Nawr Alun yw un o'r dynion lleiaf ariangar dw i'n ei nabod a dyw e dddim o'r fath o berson i chwrae'r system ond onid oes 'na rywbeth braidd yn rhyfedd mewn arwain gwlad tra'n ei chlustnodi fel ail gartref i chi?

Ynys i'r Hwyaid

Vaughan Roderick | 09:33, Dydd Mercher, 3 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Rhywbryd yn ystod yr wythnos nesaf rwyf yn bwriadu ail-addurno'r blog bach yma. Mae hyn yn bosib oherwydd fy mod wedi clustnodi gwefan arall fe fy mhrif safle ac felly yn cael hawlio lwfans ail-wefan am yr un yma. Mae hynny yn gyfan gwbwl o fewn ysbryd a geiriau'r rheolau ac wedi ei gytuno gyda Swyddfa'r Ffioedd!

Mae'n bosib y bydd y blog yn diflannu am gyfnod byr ac yn edrych yn rhyfedd ar adegau wrth i ni fynd ati gyda'r brws paent.

Trwy deimlad gwladgarol...

Vaughan Roderick | 14:13, Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

"Bu Sir Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan yn cwrdd â chynrychiolwyr o gymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig Caerdydd yr wythnos diwethaf mewn sesiwn arbennig sy'n cael ei chynnal yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd." medd datganiad newyddion gan y confensiwn.

Mae'n siŵr bod Syr Emyr wedi clywed ystod eang o safbwyntiau gan bobol o bob math o gefndiroedd. Mae'r confensiwn wedi danfon llun gyda'r datganiad. Dyma'r pennawd.

"Cyng. Mohammed Sarul Islam, Cyng. Jaswant Singh, Mohammad Asghar AC, Sanjiv Vedi, Liz Musa gyda Syr Emyr Jones Parry."

Beth sy'n gyffredin rhwng pedwar o'r pum cynrychiolydd ethnig, tybed? Byswn i ddim yn synnu i ddarganfod bod y dystiolaeth y clywodd Syr Emyr, trwy ryfedd gyd-ddigwyddiad, yn debyg iawn i bolisïau Plaid Cymru!

Erchyll Law Brad

Vaughan Roderick | 13:30, Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2009

Sylwadau (3)

Bore'r cynadleddau newyddion yw bore Mawrth yn y cynulliad. Heddiw roedd 'na bedair, un yr un gan Blaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ac un gan Carwn Jones ar ran y llywodraeth. A bod yn onest roedd cynadleddau heddiw yn rhai digon di-liw gydag ambell i eithriad.

Dyna i chi Peter Black yn cyfeirio at Lafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru fel "the three major parties in Wales" Wps!

Tamaid i aros pryd oedd hynny. Cynhadledd newyddion y Ceidwadwyr oedd y prif gwrs. Mae cynadleddau wythnosol y Ceidwadwyr yn bethau digon rhyfedd. Yn lle dewis eu pwnc trafod eu hun fel mae'r pleidiau eraill yn gwneud mae Nick Bourne jyst yn eistedd wrth y bwrdd gan adael i'r newyddiadurwyr lywio'r drafodaeth i ba bynnag cyfeiriad sy'n apelio.

Dydych chi ddim yn ennill pysgodyn aur am ddyfalu mai sylwadau diweddar Jonathan Morgan oedd at ddant pac y wasg heddiw. Dywedodd Nick nad oedd eto wedi "cael cyfle i sgwrsio" a Jonathan er bod Alun Cairns (y chwip) wedi cael "gair bach". Mynnodd Nick na fyddai ymosodiad ffyrnig Jonathan arno fe a'i bolisïau yn cael unrhyw effaith ar etholiad Ewrop. Doedd e ddim am gosbi Jonathan chwaith. "Nid dyna yw fy steil" meddai.

Arwydd o steil Nick Bourne... neu arwydd o wendid ei gefnogaeth? Cewch chi benderfynu.

Telyn berseiniol fy ngwlad

Vaughan Roderick | 10:36, Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Fe fydd un o bwyllgorau deddfwriaeth y cynulliad yn cyhoeddi adroddiad ar yr LCO iaith ymhen ychydig ddyddiau a rhyngoch chi a fi dyw nhw ddim yn hapus ynghylch y peth. Y tebygrwydd yw y bydd y pwyllgor yn galw am orchymyn sy'n llawer mwy cynhwysfawr.

Mae'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig hefyd yn ystyried yr LCO ar hyn o bryd. Yn groes i ddisgwyliadau rhai (gweinidogion Swyddfa Cymru yn bennaf) mae'n ymddangos y bydd y pwyllgor hwnnw hefyd yn cefnogi'r egwyddor y dylai'r cynulliad gael hawliau deddfu llawn ynghylch materion ieithyddol.

Ar ôl i'r ddau bwyllgor gyhoeddi eu hadroddiadau cynhelir trafodaethau pellach rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Swyddfa Cymru cyn i'r gorchymyn gael ei osod gerbron y Cynulliad a'r Senedd.

Cyfaddawd rhwng llywodraeth y Bae a Swyddfa Cymru yw'r LCO ar ei ffurf bresennol. Roedd llywodraeth y Cynulliad wedi dymuno mynd llawer yn bellach. Os ydy'r ddau bwyllgor yn cefnogi'r deisyfiad hwnnw a fydd gweinidogion Swyddfa Cymru yn fodlon gwrando neu ai ei safbwyntiau personol fydd yn cyfri?

FfFf

Vaughan Roderick | 21:41, Dydd Llun, 1 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Doedd y poster yna i ddathlu priodas Ffred a Meinir ddim ar wal fy ystafell yn y coleg. Fe wnes i geisio'n galed i ddeall beth ar y ddaear oedd ystyr "cymdeithasiaeth" a methu'n llwyr. Mae'n gas gen i ganeuon Elvis. Eto i gyd, mae'n anodd peidio rhyfeddu at unplygrwydd/ystyfnigrwydd/ymroddiad y .

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.