Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Lipstics a Thonics a Beiros Bic Du

Vaughan Roderick | 16:51, Dydd Iau, 18 Mehefin 2009

Mae 'na filiynau o ddogfennau wedi eu rhyddhau gan DÅ·'r Cyffredin heddiw ac megis cychwyn mae'r gwaith o'u darllen!

Mae chwisgi wedi arwain at gwymp sawl pechadur... ond pwy fyddai wedi disgwyl y byddai'r cymeriad annwyl yna Huw Irranca Davies yn un ohonyn nhw? Nid slochian y stwff wnaeth Huw ond hawlio am gas o chwisgi i gyflwyno fel gwobr raffl. Mae Huw yn dweud ei fod wedi rhoi chwisgi TÅ·'r Cyffredin i sawl elusen ar hyd y blynyddoedd a dyw e ddim yn deall pam y cafodd y gost ei hawlio ar un achlysur. Mae fe'n addo ad-dalu'r arian.

Fe wnaeth Lembit hawlio am "the mother of wigs". Achlysur elusennol, meddai fe. Mae lipstics a britvics a sanau slic du yn boblogaidd neu yn fwy manwl lipstics, gin a thonics a beiros bic du. Fe hawliwyd am bob un o rheiny gan aelodau seneddol Cymru.

Draw ym Mynwy talodd Davies David miloedd o bunnau i gwmni loris ei dad am adeiladu stondin ac argraffu taflenni ar gyfer sioe amaethyddol. Yn ôl David does neb ar ei ennill yn ariannol. Yn wir roedd y gost yn llai na chyflogi cwmni arbenigol i wneud y gwaith.

Fel maen nhw'n dweud weithiau "mwy ar ôl y toriad..."

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:27 ar 18 Mehefin 2009, ysgrifennodd Meurig:

    Tynnwyd fy sylw heddiw at un AS oedd wedi talu just i gan punt am gael rhywun i agor drws ei fflat yn Llundain.
    Doedd yr enw ddim ar y copi ges i, ond yr awgrym oedd fod rhaid fod yr Aelod yma wedi blino ar ol siwrne hir ar y tren, o rywle fel Aberystwyth o bosib.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.