麻豆约拍

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Rymdi radl idl al

Vaughan Roderick | 10:47, Dydd Gwener, 26 Mehefin 2009

Rwy'n deall nawr pam y cafodd "smileys" eu dyfeisio. Fe fyddai ambell i wyneb direidus wedi cyfleu mai post cymharol ysgafn oedd "Ffol-di-rol" i fod. Fe wnaeth rhai ohonoch chi gymryd y peth gormod o ddifri! Serch hynny, mae'r post wedi esgor ar ddadl a dwi'n hoff o ddadlau! Yr unig bryd rwy'n diflasu ar y blogio 'ma yw yn ystod y cyfnodau hesb hynny lle mae sylwadau'n brin!

Bant a ni felly. Cyn i fi ddechrau fe ddylwn i ddweud nad wyf wedi ail-ddarllen "Adfer Enaid y Cymro" na "Chysgod y Swastika" yn ddiweddar. Cynnig argraffiadau ac atgofion llwyr personol ydw i yn fan hyn. Rwy'n ymddiheuro o flaen llaw os ydw i'n cam-liwio dadleuon Emyr Llywelyn neu R. Tudur Jones.

Ychydig o gefndir teuluol i ddechrau. Yn groes i'r hyn mae Harri'n credu dydw i ddim yn berson "siwdo ddinesig"- dw i'n llwyr ddinesig! Ac eithrio fy nyddiau coleg rwyf wedi byw yng Nghaerdydd gydol fy oes. Ac eithrio ambell i gefnder pell does gen i ddim perthnasau sy'n byw yn y Gymru Gymraeg. Mae fy ngwreiddiau yn nwfn yn nhir hen siroedd Morgannwg a Brycheiniog.

Dywedodd Simon Brookes;

"Erthygl warthus yw "Cysgod y Swastika" R. Tudur Jones, ac yn farc du iawn ar record hanesydd diwylliannol fu gyda'r gorau yng Nghymru... Y cyd-destun ar gyfer deall "Cysgod y Swastika" yw casineb heddychwyr y Blaid at fudiad Adfer yn ystod y saithdegau. "Adolygiad" yw'r erthygl o lyfr Emyr Llywelyn, "Adfer a'r Fro Gymraeg"... Roedd y Blaid ac Adfer yn cas谩u ei gilydd, ac mae'n amhosib gan hynny roi unrhyw werth ar yr 'adolygiad'."

Mae Simon yn gywir am y cefndir. Ond cyn cyhoeddi "Adfer Enaid y Cymro" fel llyfr fe'i cyflwynwyd hi fel darlith ym Mhabell y Cymdeithasau. Dydw i ddim yn cofio ym mha Eisteddfod (Aberteifi, efallai, neu Wrecsam) ond roeddwn i yno. Dydw i ddim yn cofio pwy o fy nghyfeillion ysgol oedd gyda fi. Rhys Hughes efallai, Martin Hopwood neu Emyr Lewis, o bosib, neu efallai Helen (miaw) Smith neu Carys a Delyth Evans.

Ta beth, roeddwn ni yna, criw bach o Gymry ifanc y de-ddwyrain. Mae ambell i un wedi mynd ymlaen i wneud cyfraniadau mawr i Gymru a'r Gymraeg. Safodd y darlithydd (sef Emyr Llywelyn) ar ei draed a dechrau ymosod ar ein heneidiau ni. Nid ar ein syniadau na threigliadau, sylwer, ond ar ein heneidiau. Efallai nad hynny oedd y bwriad ond dyna sut oedd y peth yn teimlo. Am ryw reswm roedd ein heneidiau yn 么l Emyr yn llwgu oherwydd diffyg y "maeth" diwylliannol oedd ond ar gael yn Nhrimsaran, Nebo a chymunedau tebyg.

Fel penboethiaid anaeddfed yn lle troi'n cefnau a cherdded allan fe wnaethon ni darfu ar y ddarlith a chael ein hebrwng o'r babell. Aethon ni i drwbl hefyd. Roeddem "wedi dwyn gwarth ar ein teuluoedd". Roeddwn i yn bersonol "wedi profi nad yw dy fam a fi yn gallu ymddiried ynot ti".

Roedd "Cysgod y Swastika" yn falm i fy enaid anghyflawn felly. Doeddwn i ddim yn deall y dadleuon athronyddol ond roedd dyn athrylithgar, prifathro coleg a diwinydd, un o hoelion wyth ein henwad hefyd yn amheus o syniadaeth y ddarlith ac i ble yr oedd y syniadaeth honno yn arwain.

"Gwarthus" yw disgrifiad Simon o erthygl R. Tudur Jones.

Fe fyddai eraill yn dewis y gair "angenrheidiol".

Y trueni, fel mae sawl sylwad yn dweud, yw bod y ddadl hon wedi arwain, fwy neu lai yn uniongyrchol, at dranc Mudiad Adfer. Ar 么l hynny roedd 'na beryg i unrhyw un oedd yn dadlau dros bwysigrwydd yr ardaloedd Cymraeg gael ei gyhuddo o ffasgiaeth neu hiliaeth. Fe wnaeth Simon ei hun ddioddef peth o hynny pan ffurfiwyd "Cymuned". Mae'r sefyllfa drist honno wedi cael effeithiau pellgyrhaeddol a llwyr negyddol ar sefyllfa'r Gymraeg. Serch hynny mae'n annheg, yn fy marn i, i lwytho'r cyfan o'r bai ar ysgwyddau R. Tudur Jones- mae'n rhaid i Emyr Llywelyn dderbyn ei si芒r hefyd.

Mae'r sylwadau ynghylch yr erthygl wreiddiol i'w gweld trwy glicio ar "Darllen gweddill y cofnod".


Bu erthygl R. Tudur Jones yn ergyd fawr i fudiad Adfer, a oedd yn fudiad a oedd wedi dechrau gyda'r bwriad o ail-godi adfeilion gydag arian cyfraniadau, a rhentu'r eido i Gymry lleol. Yr oedd yn fudiad 'caletach', a mwy ymarferol na Chymdeithas yr Iaith. Yr oedd yn fudiad gyda meddylwyr mwy craff na Cymdeithas yr iaith erbyn yr 80'au -cymharer Ieuan Wyn , er enghraifft gyda Meri Huws . Pwysleisiau Adfer yr angen am gadw'r ardaloedd Cymraeg yn Gymraeg gyda pholisiau uniaith. Nid oedd polisiau dwyieithog CIG yn aml yn gwneud lles i gymunedau cryf (ar y pryd ) y Gorllewin . Arosodd Adfer yn unplyg genedlaetholgar yn y cyfnod pan oedd CIG yn achub morfilod ayb . Gelli ystyried Adfer fel rhagflaenydd i Cymuned , a tueddai i fod yn fudiad mwy gwrywaidd a sinicaidd ei naws na CIG , oedd yn apelio at ddelfrydwyr benywaidd. Fe ysbrydolwyd Adfer gan J.R. Jones a'i syniadau ynglyn a'r perthynas rhwng cymdeithas a'i hiaith. Mae ei rybuddion ac ofnau wedi eu gwireddu filgwaith yng Ngheredigion. Bu dadlau poeth rhwng Emyr Llew a Dr Tudur. Trychineb mawr, gan fod ill dau ymysg meddylwyr mwyaf eu cenhedlaeth .
Hogygog

Simon, mae dy sylw yn haeddu ateb llawn. Rwy'n dewis fy ngeiriau cyn ymateb. Yn fy marn i dyw "Cysgod y Swatika" ddim yn warthus. I'r gwrthwyneb credaf mai hwn oedd peth pwysicaf i "Dr. Tuds" ysgrifennu. Rwy'n bwriadu dyrchafu rhai o'r sylwadau yma mewn post ac ymateb iddyn nhw yn ystod y dyddiau nesaf. Rwy'n ceisio gweithio allan sut mae dweud fy nweud o fewn rheolau'r 麻豆约拍!
Vaughan

Ydy, allai ddychmygu. Yn anffodus, mae na leiafrif sydd dal yn byw yn 1893.
Abraham Lincoln

Fe wnes i ddarllen llyfr Hywel Teifi "Eisteddfod Ffair y Byd" yn ddiweddar... mae 'na ambell i adlais!
Vaughan

Newydd edrych ar y wefan Smithsonian. Diddorol iawn a nifer yn cynrychiolu Cymru yn y gwahanol meysydd. https://www.festival.si.edu/2009/wales/index.aspx Er hynny, dwi'n sylwi bod na fwy o gynrychiolwyr o Batagonia na Cymoedd y De! Sut yn y byd mae Urdd Gobaith Cymru yn gynrychiolaeth Cymru ar gyfer Chwaraeon? I fod yn deg, maent yn son am y cymoedd a thipyn o'r hanes, ond dim yn ein gwahodd, yn anffodus. Dwi'n hoff o'r darn yn Wales and the World a'r croeso ni'n rhoi i bawb yn y byd...bit much. Beth yn y byd mae 'Welsh Tea Room' Patagonia yn wneud yno? Rhaid cyfaddef i mi wenu, pan welais y rhan 'Plants and Medicine' gan i mi disgwyl rhywbeth gwbl wahanol. Yn ol Simon, 'mae pob cenedl yn ffugio' ei hanes ei hun. Dwi'n tybio mae'r pleidiau gwleidyddol sydd yn ffugio hanes. Nol at y Smithsonian, ai dyma beth sydd digwydd pan mae adran diwylliant y Cynulliad gyda gweinidog PC? Gor-cynrychiolaeth o rannau o Gymru, anwybodaeth am rannau eraill o Gymru neu jyst heb feddwl. Dwi'n siwr bod nifer yn haeddu bod yno o ran dawn, ond c'mon, bydd yn dda gweld balans yn hyn oll a chynrychiolaeth 'real' o Gymru. Dwi'n tybio mae ni sy'n talu am 'Eisteddfod y States' hon? Mae hwn i gyd yn braidd yn gyfoglyd i fi. Hei, ble mae'r Gymraeg ar y wefan hon? Abraham Lincoln

Fe wna i gymryd dy gyngor. Fel dwedais i, dydw i ddim yn drwg-licio cerddoriaeth trad. Y gair folk/gwerin sy'n fy ngwylltio gyda'r ensyniad bod bywyd/diwylliant gwledig rhywsut yn fwy real a gwerthfawr na thraddodiadau eraill. Mae Amgueddfa Sain Ffagan, er enghraifft, wedi gwella'n aruthrol er iddi benderfynu bod yn Amgueddfa Hanes (yn Saesneg o leiaf)a chyflwyno bywyd Cymru yn ei gyflawnder yn hytrach na chanolbwyntio ar darlun biwcolic Iorwerth C Peate.
Vaughan

Dywedodd Vaughan: "Y rhamantu yn eu cylch nhw sy'n fy ngwylltio i, y syniad bod y stwff yma rhywsut yn "fwy cynhenid", yn "fwy Cymreig", yn "well" hyd yn oed na chanu gwlad neu pop neu rock'n'roll." Yn fy mhrofiad i does fawr neb sy'n chware cerddoriaeth gwerin o ddifri' yn 'rhamantu'r' gerddoriaeth yn y dull yma. Diffyg gwybodaeth, annodweddiadol, sy'n sail i dy 'rant' dwi'n ofni, Vaughan. Y pibydd a'r gitarydd cyfareddol Ceri Rhys Matthews sydd wedi bod wrthi yn paratoi'r CD arfaethedig o ganu 'gwerin' Cymraeg i'r Smithsonian, ac wn i ddim am unrhywun sy'n ehangach ei orwelion cerddorol. Cymer gip ar gatalog Fflach:Tradd sy'n cynnwys y delynores Llio Rhydderch, y band Sild sy'n cyfuno cerddoriaeth Cymraeg a cherddoriaeth Estonia, y band 'punk-gwerin' o Townhill, Abertawe, 'The Boys from the Hill', ac (i chwythu fy sacsoffon fy hun) y chwechawd jazz 'Burum'. Does dim sy'n gul, yn bur, nac yn blwyfol am y gerddoriaeth yma i'm tyb i. Fyddwn i ddim mor llym fy meirniadaeth o 'Cysgod y Swastika' a Simon Brooks (mae yna gysylltiad syniadaethol rhwng Herder a Hitler), ond dwi'n awgrymu dy fod yn darllen rhai o ysgrifau yr eangfrydig Meredydd Evans ar ganu gwerin yn lle R. Tudur Jones, Vaughan, a thra dy fod wrthi, gwranda ar fand Affro-Americanaidd Rhiannon Giddens a'i Carolina Chocolate Drops, sy'n canu caneuon bluegrass, blues, a gwerin, yn Saesneg, Gaeleg yr Alban, ac ar ymweliad 芒 Abertawe yn 2007, yn Gymraeg. Dwi'n amau a fyddai'r gerddoriaeth yma wrth ddant Goring. Gellir clywed peth o'r gerddoriaeth perthnasol yma: https://www.myspace.com/fernhillmusic https://www.myspace.com/carolinachocolatedrops https://www.myspace.com/burumjazz https://www.fflach.co.uk/cms/index.php?module=pagemaster&PAGE_user_op=view_page&P AGE_id=9&MMN_position=13:13 (1 reply)
Daniel

Wel dyna beth yw "rant"! Pam esgus mabwysiadu rhyw agwedd siwdo dinesig dilornus at yr agweddau yma o'n diwylliant Vaughan? Mae dawns a chan yn rhan annatod o'n diwylliant ac yn parhau felly. Ond pam dynodi clocsio a cerdd dant fel rhyw arferion y dylid bod a cywilydd ohonyt. Un o nodweddion dy erthyglau dithau yw'r defnydd o bennawdau sy'n adleisio cerdd neu can o'r gorffennol - ac onid dyna yw asgwrn cefn ein holl diwylliant gwerin - maent yn ein hatgoffa o'n gorffennol tra yn ein difyrru ..... nid yn anhebyg i dy gyfraniadau dithau ar dy Flog!
Harri

Clocsio? Hwyl diniwed? Dachi'n gallu dwad???
Hogyn o Rachub

Erthygl warthus yw "Cysgod y Swastika" R. Tudur Jones, ac yn farc du iawn ar record hanesydd diwylliannol fu gyda'r gorau yng Nghymru. Anodd meddwl y gallai awdur llyfr ardderchog fel "Ffydd ac Argyfwng Cenedl" sgwennu'r ffasiwn sothach. Y cyd-destun ar gyfer deall "Cysgod y Swastika" yw casineb heddychwyr y Blaid at fudiad Adfer yn ystod y saithdegau. "Adolygiad" yw'r erthygl o lyfr Emyr Llywelyn, "Adfer a'r Fro Gymraeg". Is-lywydd y Blaid oedd R. Tudur Jones ar un adeg, ac yn gyfaill mawr i Gwynfor Evans. Roedd y Blaid ac Adfer yn casau ei gilydd, ac mae'n amhosb gan hynny roi unrhyw werth ar yr "adolygiad". Mae'n wir bod trafodaeth ddiddorol y gellid ei chael ynghylch syniadau megis "eneidfaeth" ayyb yn "Adfer a'r Fro Gymraeg". Rwy'n cytuno ei bod yn syniad amheus - ond Herder (yr athronydd Almaenig o'r 19g), ac nid Hitler, yw'r ysbrydoliaeth. Rhaid cyfaddef nad wyf yn ffan o'r busnes clocsio ma chwaith - ond y gwir amdani ydi mai hwyl ddiniwed ydi o, a dyna'r cwbl. Dwi ddim yn credu fod cysylltiad anorfod rhwng Natsiaeth a'r canu gwerin. Ac o ran y cyhuddiad nad oes sail hanesyddol i lawer o hyn. Wel, beth yw'r ots? Nid oes sail hanesyddol i 90% o'r hyn a ddysgwn fel 'hanes'! Mae pob cenedl yn 'ffugio' ei hanes ei hun. (1 reply)
Simon Brooks

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:37 ar 26 Mehefin 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Wyt ti'n meddwl yr enwog Helen Miaw, sy'n berchen ar ddwsinau o gathod ac sy'n honni siarad Miaweg fel ei phedwaredd iaith?

  • 2. Am 12:29 ar 26 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Yr union un

  • 3. Am 19:39 ar 26 Mehefin 2009, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Dwi ddim yn anghytuno o gwbl a'ch gwrthwynebiad fel criw ysgol i'r syniad od 'na o "eneidfaeth" oedd gan Fudiad Adfer ar ddechrau'r saithdegau - y syniad fod yn rhaid byw mewn cymuned organig Gymraeg er mwyn bod yn "Gymro llawn".

    Ond dwi ddim yn credu fod dim byd "Hitleraidd" ynglyn a'r syniadau hyn - ac roedd R. Tudur Jones yn gwybod hynny'n iawn. Ers diwedd y ddeunawfed ganrif, mae gwahanol ddeallusion (o gefndir dinesig, fel arfer) wedi bod yn honni fod pobl cefn gwlad yn cynrychioli "enaid y genedl" yn well rywsut na phobl y trefi mawrion. Mae'r ddadl hon yn nodwedd ar Ramantiaeth Ewropeaidd.

    Mae'r syniadau Rhamantaidd hyn wedi effeithio ar y diwylliant Cymraeg fel maen nhw wedi effeithio ar bob ddiwylliant arall yn y gorllewin. Maen nhw'n syniadau anghywir, ond nid ydynt, yn eu hanfod, yn ffasgaidd.

    Wrth gwrs, mae modd credu fod dyfodol cefn gwlad yn bwysig am mai yno y mae (neu y bu) cryfder demograffeg y Gymraeg. Gellid dadlau dros gefn gwlad Cymraeg, ac hyd yn oed Bro Gymraeg, heb orfod dibynnu ar y syniadau rhamantaidd hyn ynglyn a rhagoriaethau anorfod cefn gwlad. Trueni na ddigwyddai hynny yn y saithdegau.

    Ond hyd yn oed wedyn roedd erthygl R. Tudur Jones yn gam gwag am ei bod: i) yn ddisail, ii) yn porthi syniadau ehangach fod hyrwyddo goroesiad y Gymraeg fel iaith y gymuned gyfan rywsut yn "hiliol".

  • 4. Am 20:00 ar 26 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwy'n tueddu cytuno a'r rhan fwyaf o hynny. Yn sicr roedd 'na elfen o bolemic yn erthygl RTJ! Mae hi'n gallu bod yn broblem pam mae grwpiau ymgyrchu yn chwilio am athroniaeth ehangach. Roedd 'na rhaniadau o fewn Adfer ei hun ynghylch rhai o'r syniadau yma. Doeddwn i ddim yn bersonol yn gweld nhw'n Hitleraidd ond roedd hollti'r Cymry Cymraeg rhwng y rhai "go-iawn" a'r gweddill yn hurt ac yn boenus iawn i bobol oedd wedi cadw'r Gymraeg yn fyw yn eu teuluoedd mewn ardaloedd di-Gymraeg.

  • 5. Am 02:51 ar 27 Mehefin 2009, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Mi f没m i, fel ti yn y cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau ac yn cofio criw o hwliganiaid afresymol yn tarddu ar yr araith. Doeddwn i ddim yn sylwi mae Vaughan a Miew oedd y dihyrod drwg - rhag eich cywilydd :-)

    Rwy'n methu cofio pa eisteddfod ydoedd chwaith, mae atgofion am ddyddiau da'r hen eisteddfodau yn tueddu toddi mewn i'w gilydd, rhywsut wrth i ddyn heneiddio! Rwy'n amau mae Wrecsam ydoedd, mae gennyf ryw frith gof am sylwadau maleisus am y ffaith bod y ddarlith yn cael ei draddodi tu allan i'r "Fro" ac Emyr Llew yn ymateb mae "Prifddinas y Fro Gymraeg" oedd yr Eisteddfod.

    Gan nad ydwyf yn credu y byddai fy sylwadau yn ymateb i ofynion y 麻豆约拍 yr wyf wedi postio ymateb annibynnol

  • 6. Am 03:48 ar 27 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Er gwybodaeth, fe fyddai dy bost annibynnol o fewn y rheolau! Fi sy'n penderfynu- a gan fy mod fi fy hun yn hwylio'n agos at y gwynt weithiau rwy'n barod i bobol eraill gwneud!

  • 7. Am 21:39 ar 27 Mehefin 2009, ysgrifennodd Harri:

    Vaughan, mi gefais gam! :-)
    Fy mwriad oedd dy gystwyo am fabwysiadu agwedd siwdo ddinesig dilornus tuag at ein diwylliant gwerin - yn sicr nid fy mwriad oedd dy ddilorni di'n bersonol!
    Ond llongyfarchiadau ar dy gyfraniad am gerddoriaeth sydd wedi esgor ar ymateb gyda'r mwyaf o dipyn ar dy flog. Mae cerddoriaeth yn mynegi yr hyn sydd y tu hwnt i iaith a gogoniant cerddoriaeth yw fod iddo gymaint o fathau gwahanol. Gall celfyddyd gerddorol gael ei ddatgelu mewn acn a dawns o Affrica cystal ac mewn can gelf gan Schubert, mewn un o ganeuon Meic Stephens cystal a mewn cytgan gorfoleddus yn cael ei chanu gan gor meibion. Nid swyddogaeth dyn yw dyrchafu un math goruwch na'r lleill ond derbyn fod disgleirdeb cerddorol yn cyfoethogi profiad dyn ar draws yr oesoedd.

  • 8. Am 21:45 ar 27 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Cytunaf: :) Y pwynt oedd gen i oedd bod dim angen hawlio/esgus mai "atgofion" oedd dawnsfeydd Nantgarw. Mae nhw'n bethau hyfryd beth beth bynnag yw eu hanes...neu eu diffyg hanes. Fel anrheg i selio'r heddwch dyma ddolen.

  • 9. Am 01:29 ar 28 Mehefin 2009, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Dwi'n meddwl fod Seimon yn reit agos at ei le wrth ddweud fod yna elfen o amddiffyn agenda Plaid/CYIG yn ymosodiad RTJ ar Emyr Llew ac Adfer.

    Wedi dweud hynny mae mwy iddi na hynny sef diwinyddiaeth! Nid sosialydd na dyn y chwith oedd RTJ - roedd yn Gristion. A dyna sut mae'r ail-ysgrif yn gorffen dwi'n meddwl, sef dwyd fod ideoleg Emyr ac Adfer, yn anad dim, yn wrth-Gristnogol. Nawr dydw i heb ddarllen y llyfr gan Emyr Llew y mae RTJ yn ei adolygu eto ond o ddeall pethau fel ydw i nid oes llawer o le i Dduw os o gwbl gan Emyr yn ei athroniaeth ar y pryd. Mae'r cyfan yn Hegelaidd iawn, y geist yndom ni, y geist yn y gendl etc... Wrth gwrs i RTJ y Calfinydd y mae'r llwybr yma yn anathema ac i'r sylwebydd Calfinaidd pen-llanw datblygiad a dylanwad Hegeliaeth oedd Natsiaeth. Plentyn siawns Hegeliaeth, os hoffe chi, oedd Hitler. Felly mae RTJ yn "rhybuddio" fel mae Vaughan yn dweud rhag i Hegelwyr y wlad yma gael plentyn siawns. Gwybyddai, maen siwr, nad ffasgydd oedd Emyr, ond fe ofidiai y gallai genhedlaethau'r dyfodol fod ac mae Emyr, yn ddi ymwybod iddo ef ei hun fyddai wedi cychwyn yn gaseg eira.

    I R. Tudur Jones tarddai cenedlaetholdeb o ddwy brif ffynhonnell, sef Hegeliaeth a Chalfiniaeth. Gyda'r Hegeliaid, yn 么l RTJ, roedd lle canolog i鈥檙 genedl ar lwyfan byd eang ond nid oedd unrhyw beth y tu hwnt i鈥檙 genedl a allai gynnig beirniadaeth o鈥檙 wladwriaeth neu'r genedl. Perygl y math yma o genedlaetholdeb yw y gallai greu eilun o鈥檙 wladwriaeth, fel y digwyddodd yn Yr Almaen o dan y Nats茂aid. Ond gyda Chalfiniaeth mae鈥檙 wladwriaeth a'r genedl yn ddarostyngedig i benarglwyddiaeth Duw, felly ni all ddatblygu鈥檔 eilun ac mae鈥檔 bosibl ei feirniadu.

    Hanfod beirniadaeth RTJ o Adfer ac Emyr Llywelyn oedd eu bod nhw'n blant Hegel nid Calfin. Ond nid dyma fy ngair olaf ar y mater, bydd rhaid i mi ddarllen gwaith Emyr drosof fi fy hun.

    Os fydd y drafodaeth yn parhau wnai sganio'r erthyglau fynnu a'i rhoi ar y we fe PDF i chi.

  • 10. Am 08:51 ar 28 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diolch Rhys fe fyddai'n ddefnyddiol i bobol allu ddarllen deunydd crai'r ddadl. Wrth fynd heibio ai hwn yw'r unig flog lle mae post (ysgafn i fod) ynghylch dawnsio gwerin yn gallu troi'n drafodaeth ddiwinyddol?

  • 11. Am 09:15 ar 28 Mehefin 2009, ysgrifennodd Harri:

    Wrth fynd heibio ai hwn yw'r unig flog lle mae post (ysgafn i fod) ynghylch dawnsio gwerin yn gallu troi'n drafodaeth ddiwinyddol?

    Onid dyna brawf o rym cerddoriaeth - sy'n cyffwrdd y dirgel fannau?
    Diolch am yr anrheg - dawnsiaf yn y gegin ar fore Sul!

  • 12. Am 17:44 ar 28 Mehefin 2009, ysgrifennodd huwj:

    Mae鈥檔 rhyfedd sut mae鈥檙 gair 鈥淎dfer鈥 yn dal i fedru cynnau dadl boeth o fewn y Gymru Gymraeg. Mae gwreiddyn y drafodaeth yr un mor berthnasol heddiw ond yn sgil llwyddiant addysg Gymraeg yn yr ardaloedd diwydiannol mae iddi bellach flas newydd鈥 sef ydi hi鈥檔 bosib i鈥檙 Gymraeg oroesi fel iaith ddinesig yn unig?

    Mae Vaughan yn honni ei fod yn gwbl ddinesig ei dras. Dwi鈥檔 amau (ac ymddiheuriadau os dwi鈥檔 anghywir) fod gallu Vaughan i siarad Cymraeg yn deillio mewn rhyw ffordd o drosglwyddiad iaith o fewn y teulu. Os felly, rwyt ti鈥檔 siarad yr iaith oherwydd fod yna gymuned Gymraeg naturiol wedi bodoli yn rhywle neu鈥檌 gilydd. Roedd yna ddigon o gymunedau o鈥檙 math yn Nwyrain Morgannwg a Sir Frycheiniog heb fod mor hir a hynny nol. Roedden nhw hefyd yn rhan o鈥檙 鈥淔ro Gymraeg鈥 y pryd hynny. Os felly, mae鈥檔 dilyn mai Cymro Cymraeg 鈥渁lltud鈥 o ryw fath (fel fi) yw Vaughan. (Os na, ti yw鈥檙 eithriad sy鈥檔 profi鈥檙 rheol!)

    Wrth gwrs mae yna lwyddiant cwbl ryfeddol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd diwydiannol wedi digwydd yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Ond does dim amheuaeth chwaith fod llwyddiant addysg Gymraeg yn y De yn y cyfnod yma wedi cael ei gynnal a鈥檌 fwydo gan fewnlifiad cyson o athrawon o ardaloedd eraill yng Nghymru , llawer ohonynt yn ardaloedd lle byddai鈥檙 iaith yn iaith naturiol y gymuned

    Y cwestiwn mawr yw a yw鈥檙 llwyddiant yma yn mynd i greu digon o Gymry Cymraeg newydd 鈥 rhai sy鈥檔 cael eu magu ar aelwydydd Saesneg, ond wedyn yn dewis troi at y Gymraeg fel eu haith gyntaf gan greu deinamic diwylliannol a chymdeithasol newydd? Oes yna ddigon ohonyn nhw yn mynd i gredu fod y Gymraeg yn angenrheidiol yn eu bywydau? Neu ai ffawd yr iaith yn y ddinas, fel y dywedodd llythyrwr yn y Western Mail yn ddiweddar, yw bod yn 鈥渕iddle-class lifestyle option鈥?

    Dwi鈥檔 credu ein bod ni mewn rhyw gyfnod rhwng dau gyfnod ac na fedrwn ni ateb hwnna鈥檔 onest eto. Ond be sy鈥檔 sicr ydi fod colli tir enfawr wedi digwydd yn y Fro Gymraeg ers y 70au cynnar a bod yr ymgais adferaidd i symud 鈥淭ua鈥檙 Gorllewin鈥 er mwyn 鈥渁il-adfer bro鈥, chwedl Ac Eraill, wedi cael ei hen wrth-weithio gan y mudo llawer cryfach o bobl ifanc tua鈥檙 dwyrain sydd wedi digwydd ers hynny ac sydd wedi arwain at gymdeithas Gymraeg ddinesig lwyddiannus sy鈥檔 gallu bod yn ddymunol iawn i fod yn rhan ohoni, ond gan gyfrannu, wrth adael gwacter anochel, at ddirywiad Cymreictod naturiol y Gorllewin.

    Tydi鈥檙 鈥淔ro Gymraeg鈥 ddim wedi marw eto fodd bynnag er bod yna bwysau mawr arni. Yma, mae鈥檔 anodd cerdded i lawr y stryd heb fod 芒鈥檆h clustiau鈥檔 agored bob munud i graffu ar ba iaith sy鈥檔 cael ei siarad ar bob cornel ac ym mhob siop, gyda phob tystiolaeth o fewnlifiad yn ychwanegu at yr angst mewnol. Mae 鈥榥a weithgarwch gwych yn dal i ddigwydd 鈥 yr wythnos yma cerwch i wefan Gwyl y Felinheli i weld be sy鈥檔 gallu digwydd pan mae cymuned yn dod ynghyd i greu bwrlwm amrywiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae yna hefyd duedd gan ambell un sy wedi brwydro i gynnal gweithgarwch a sefydliadau dros y degawdau i weld dim ond duwch yn ei sefyllfa. Gall hyn arwain at ddigalondid a chwerwedd sy鈥檔 gallu lladd unrhyw egin o frwdfrydedd sydd ar 么l.

    Un o鈥檙 pethau anffodus yngl欧n a鈥檙 drafodaeth adferaidd yn y 70au oedd i鈥檙 pwyslais cychwynnol ar brynu ac adnewyddu tai gan gwmni Adfer Cyf, gael ei roi yn y cysgod gan y drafodaeth a鈥檙 ddadl athronyddol a鈥檙 polareiddio mae鈥檙 blog wedi cyfeirio atynt. Gyda phersbectif hanes, mae鈥檔 amlwg fod buddsoddi ar y cyd mewn eiddo yn y 70au cynnar wedi bod yn bolisi pell-weledol. Y trueni yw na pharhawyd 芒鈥檙 pwyslais ymarferol hwn fel blaenoriaeth. Roedd yna hefyd duedd hyll yma a thraw i farnu unigolion nad oeddent yn cael eu gweld yn uniongred (dioddefodd Caryl Parry Jones a Max Boyce o hyn, gyda鈥檙 canlyniad i Max wrthod canu鈥檔 Gymraeg am flynyddoedd lawer wedyn).

    Pan mae鈥檙 ddinas ar ei gorau 鈥 ac mae鈥檙 holl weithgarwch cerddorol gwych sy鈥檔 dod allan o Gaerdydd yn enghraifft dda o鈥檙 hyn y mae cymdeithas ifanc egniol yn gallu ei greu - does dim dwywaith bod y Gymraeg ar ei hennill. Ond does yna ddim digon o arwyddion eto, rwy鈥檔 awgrymu, y gall y llwyddiant yma ail-greu ei hun yn organig, heb y chwistrelliad parhaol o鈥檙 Gogledd a鈥檙 Gorllewin. Dyna un rheswm pam mae ffyniant yr iaith fel iaith bob dydd mewn cymunedau lle mae 70%+ o鈥檙 boblogaeth yn ei siarad yn dal yn allweddol i鈥檞 dyfodol a pham ei bod yn dal yn flaenoriaeth i weithio i sicrhau fod cymaint a phosib o鈥檙 cymunedau yma yn goroesi ar hyd a lled y wlad. Mewn byd delfrydol, byddai ffyniant y Gymraeg yn y ddinas yn cyfrannu mwy at ail-boblogi cymunedau鈥檙 Gorllewin gan siaradwyr Cymraeg.

  • 13. Am 18:12 ar 28 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwyt ti'n gywir yn dy ddadansoddiad of fy nghefndir i, Huw. Roedd teulu ochor fy nhad yn tarddu o Fynydd Maio ger Cwm Aber (Senghennydd) Fe barodd yr ardal (neu'r gymuned ffermio o leiaf) yn weddol Gymraeg tan oddeutu yr ail rhyfel byd. Roedd neu mae gen i deulu hefyd yng Nghwmgors a Chrai yn Sir Frycheiniog oedd yn Gymreigaidd iawn tan yn ddiweddar. Mae teulu fy Mam wedi byw yng Nghaerdydd ers rhai cenedlaethau ond gan gadw cysylltiadau agos ag ardal Eifionydd. Mewn dinas wrth gwrs mae'n bosib i leiafrifoedd ieithyddol barhau am gyfnodau maith trwy feithrin ei sefydliadau ei hun boed y rheiny yn gapeli, ysgolion, mosgs neu gorau cymysg!

  • 14. Am 18:46 ar 29 Mehefin 2009, ysgrifennodd D'ewyrth Dafydd:

    Yn ddifyr iawn, mae pawb yn son am fywyd dinesig gan ystyried/cyfeirio at Gaerdydd.

    Mae ardaloedd o ddinas a sir Abertawe gyda chanran o 50% yn siarad Cymraeg. Iawn, ardaloedd ymylol, ond ewch am dro i Dreforys neu Glydach i gael gweld.

    Mae'n gwestiwn teg a all hynny oroesi yn y tymor hir, ond mae son am y fro Gymraeg fel rhan o'r Gymru wledig yn unig yn dangos diffyg adnabyddiaeth o ddinas gyda bron i chwarter miliwn o boblogaeth a bron i 50,000 o'r rheini yn deall Cymraeg. Nid chwistrelliad o'r gogledd na'r gorllewin mo hynny.

  • 15. Am 19:04 ar 29 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Pwynt da iawn er y byswn yn tybio bod Abertawe wedi derbyn ambell chwistrelliad o Gymry o'r cymoedd o'i chwmpas! Fe es i wasanaeth canmlwyddiant Tabernacl, Cwmgors yn weddol ddiweddar. Roedd yn achlysur reit drist gyda nifer o'r aelodau yn tristau am ddirywiad y capel a sefyllfa'r Gymraeg yn y pentref. Pan ofynnais ymhle yr oedd eu plant a'u wyrion yn byw yr ateb mwyaf cyffredin o bell ffordd oedd Abertawe.

  • 16. Am 08:54 ar 30 Mehefin 2009, ysgrifennodd Hen Ferchetan:

    Un peth sy'n fy nharo'n rhyfedd yn y fan hyn gyda llaw yw rant ynglyn a diffyg tystiolaeth o'r traddodiad ar draws y canrifoedd.

    Vaughan, a glywaist am gyfrol Ap Huw a'r alawon gwerin hynny o gyfnod 1613? A ddarllenaist farddoniaeth ar gynghanedd o dros fil o flynyddoedd yn ol? A welaist luniau o'r oesoedd canol a grythau a thelynau? Beth am astudiaethau Thomas Parry o ganeuon megis Cariad Cyntaf lle mae'n esbonio fod yr iaith a'r gynghanedd yn gosod y gan o leiaf 400 mlynedd yn ol? Beth am luniau/ffilmiau o'r hen deulu'r Wood yn y Parc, Y Bala, yn canu cerdd dant ac yn clocsio o'r hen draddodiad sipsi Cymraeg/Romani?

    Creu traddodiad? Neu cyfoesi hen un? Cynhenid? Wel - mor gynhenid ag y gall unhryw beth fod am wn i...

    Nid oes pwynt trafod a thrin pob enghraifft am wn i, ond teimlaf y bu ychydig yn rhy rhwydd i ti gondemnio y diwylliant gwerin yn gyfan. Yn fy ardal i o'r Gogledd Orllewin mae sesiynau cerddoriaeth a chanu gwerin ar hap yn dal i ddigwydd - traddodiad a fu'n ffynnu ers dros 60 mlynedd bellach, a thraddodiad cwbl Gymraeg a Chymreig. Beth sy'n gynhenid? Ydy iaith yn gynhenid?

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

麻豆约拍 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆约拍

麻豆约拍 漏 2014 Nid yw'r 麻豆约拍 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.