Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar gyfer heddiw'r bore

Vaughan Roderick | 11:19, Dydd Llun, 8 Mehefin 2009

Mae pob math o bwysigion Ceidwadol ar eu ffordd i Gymru a rhyw gant o Geidwadwyr yn disgwyl David Cameron ar risiau 'r senedd. Dyw'r wlad fach yma erioed wedi bod mor bwysig i'r blaid. Oes angen dweud pam?

Mae sawl un wedi gofyn oes modd gweld yr holl ganlyniadau etholaeth. Dydw i ddim wedi canfod un safle canolog lle maen nhw ar gael. Maen nhw gen i ar bapur ond fedrai ddim teipio nhw i gyd i mewn!

Mae 'na ambell i ganlyniad rhyfeddol. Ym Maldwyn, er enghraifft, roedd Llafur yn chweched. Mae'r ffigyrau ar . Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn wynebu problem ddifrifol ym Maldwyn. Yng ngeiriau un Democrat Rhyddfrydol "Maldwyn yw prawf mawr cyntaf arweinyddiaeth Kirsty Williams".

Fe wnâi balu trwy rai o'r canlyniadau eraill os oes amser. Bant a fi nawr i wneud y "World at One". Mae gwasanaethau rhwydwaith y Â鶹ԼÅÄ hefyd yn ymddiddori yng Nghymru, am heddiw o leiaf!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:54 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd Efrogwr:

    Diolch am yr holl flogio am yr etholiadau, Vaughan!
    O ran canlyniadau'r etholaethau unigol, os gennych syniad o ble ddaeth pleidleisiau UKIP? Ai yn ar ardaloedd mwyaf Tori neu Lafur? H.y. oni bai am UKIP allai'r Toriaid fod wedi gwneud yn well fyth? Neu a ydy'r Cymoedd yn mynd drosodd at UKIP?
    Byddai'n ddiddorol hefyd clywed dy farn ar bwnc sy'n gysylliedeg a hyn: fethiant cymharol Plaid Cymru. Er i ganran y Blaid godi 1% o'i chymharu a 2004, dwi'n meddwl i'r nifer o bleidleisiau gwympo. Pam fod y Blaid yn methu o gymharu a'r SNP?

  • 2. Am 13:39 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Be dwi di ffindio mor belled: (Ymdd am y Saesneg)

    Wrecsam result
    Labour 2712
    Plaid 1972
    UKIP 2037
    Tory 3199
    BNP 1092
    LibDem 2078
    Green 525
    Soc Lab 233
    Christians 175
    No2EU 173
    Jury 68

    Clwyd S result
    Labour 3063
    Plaid 2886
    UKIP 2259
    Tory 4010
    BNP 1060
    LibDem 1492
    Green 735
    Soc Lab 282
    Christians 190
    No2EU 247
    Jury 66

    Rhondda
    Labour 5339
    Plaid 4424
    UKIP 1447
    BNP 924
    Tory 808
    LibDem 704
    Green 520
    Soc Lab 512
    Christians 371
    No2EU 218
    Jury 50

    Pontypridd
    Labour 4592
    Plaid 3410
    Tory 2919
    UKIP 2498
    LibDem 2159
    Green 1141
    BNP 1002
    Christians 454
    Soc Lab 391
    No2EU 293
    Jury 109

    Cynon
    Labour 4145
    Plaid 3007
    UKIP 1241
    Tory 1158
    BNP 814
    LibDem 812
    Green 570
    Soc Lab 358
    Christians 296
    No2EU 162
    Jury 57

    Maldwyn
    Conservative - 4247
    UKIP - 2993
    Lib Dem - 2757
    Plaid - 2016
    Greens - 1362
    Labour - 994
    BNP - 884

    Brycheiniog a Maesyfed
    Con 6135,
    Lab 1965,
    Lib dem 4858,
    UKIP 2818,
    Plaid 1623,
    BNP 615,
    Green 1511,

  • 3. Am 14:00 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Yn ddiddorol roedd pleidlais UKIP yn weddol gyson ymhob math o etholaeth. Mae'n weddol amlwg bod y cynnydd ym mhleidlais y blaid ar drail Llafur.

  • 4. Am 14:02 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diolch Dewi

  • 5. Am 17:23 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd iwan:

    Dyma'r rhai dwi di ffeindio hyd yma:
















  • 6. Am 17:33 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd Ifan:

    Mae nhw i gyd ar wefan Golwg 360.

  • 7. Am 21:51 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Bendigedig Golwg 360. Dyna'r union fath o wybodaeth sy'n creu maintais gystadleuol ar Vaughan blydi Roderick !! Diolch!

  • 8. Am 22:10 ar 8 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rydwyf hefyd yn ddiolchgar! Roeddwn ar fin teipio'r blincin pethau mewn fy hun!

  • 9. Am 12:17 ar 9 Mehefin 2009, ysgrifennodd Penri:

    17% a thrydydd yn Maldwyn a 19% pell yng Ngheredigion. Er gwaetha eu spin dyw canlyniad Ceredigion yn fawr o gysur i'r Lib Dems ychwaith.

  • 10. Am 15:32 ar 9 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Camgymeriadau Golwg:

    Islwyn - Plaid Cymru 2584 nid 1584
    De Clwyd - Llafur 3063 nid 2063
    De Caerdydd - Rhydd 2657 nid 1657

  • 11. Am 15:58 ar 9 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Rhai ystadegau:

    Canrannau gorau'r pleidiau:

    Ceid - Mynwy 38.2%
    Llafur - Aberafan 35.1%
    Plaid - Caenarfon - 49.5%
    Dem Rhydd - Canol Caerdydd - 27.9%
    UKIP - Alun a Gl Dyfrdwy - 19.3%
    Gwyrdd - Canol Caerdydd - 9.3%
    BNP - Dwyr Abertawe - 9.5%

    ...mwy i ddilyn!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.