Wedi gofidio am ddyfodol Caerdydd yn yr Uwch gynghrair yr wythnos diwethaf, ydi’n amser i bryderu cymaint am Abertawe?
Cyn y gêm ganol wythnos yn Arsenal, roedd digon o le i boeni.
Ond, yn dilyn perfformiad grymus oddi cartref enillwyd pwynt gwerthfawr yn yr Emirates yn erbyn tîm a oedd yn llygadu gobeithion o sicrhau eu lle yn y pedwar uchaf.
Roedd gol buan yn werthfawr - yna gydag Arsenal yn eilyddio, gwelwyd y tîm o Lundain yn mynd ar y blaen gyda dwy gol gefn wrth gefn ynghanol yr ail hanner.
Mae cefnogwyr pêl droed wedi dod i gredu yn aml nad oes lwc yn bodoli i dimau sydd yn brwydro yn erbyn disgyn allan o unrhyw gynghrair. Ond roedd lwc o blaid Abertawe nos Fawrth wrth i Mathieu Flamini daro’r bel i mewn i'w gol ei hun a sicrhau mai pwynt yr un a gaiff Arsenal ac Abertawe.
Wrth ofidio am Gaerdydd, fe soniais am ddwy gêm allweddol, sef oddi cartref yn West Bromwich y Sadwrn yma ac yna adref i Crystal Palace y Sadwrn dilynol.
O ran Abertawe, mae ganddynt hwythau gemau allweddol a rhai a ddylai sicrhau eu bod yn goroesi yn yr Uwch gynghrair. Y Sadwrn yma bydd Norwich yn ymweld â’r Liberty ac yna mae taith i Hull. Fe ddylid gobeithio am rywbeth allan o’r ddwy gêm yma a fyddai yn sicrhau dyfodol arall ymysg y brif gynghrair.
Digon o gyffro o gwmpas gwaelodion y tabl a synnwn i ddim petai ffawd Caerdydd ac Abertawe yn cael ei benderfynu ar benwythnos olaf y tymor, gyda'r Elyrch yn wynebu Sunderland adref, tra bydd Caerdydd yn teithio i Chelsea!