Main content

Rownd Gynderfynol Cwpan Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Dydd Sadwrn yn y Drenewydd bydd hanes yn cael ei greu yng nghwpan Cymru gan mai Treffynnon fydd y tîm cyntaf o drydedd reng pêl droed Cymru i chwarae yn y rownd cyn derfynol.

Mae’r rhediad yma wedi gafael ar ddychymyg y dref gyda llawer o gefnogaeth i'r tîm presennol. Fel rhyw ragflas o lwyddiant, llwyddodd y tîm i gipio Cwpan Cookson, sef cwpan i dimau eu cynghrair , wrth guro Llanrug o bum gol i un yr wythnos diwethaf.

Yn wir mae Treffynnon ar rediad o ddeg gem wedi eu hennill yn olynol, gan gynnwys buddugoliaeth yn erbyn Porthmadog a’r Drenewydd ar y daith i'r rownd gyn derfynol. Yn ystod y cyfnod yma, maent wedi sgorio pedwar deg o goliau ( ar gyfartaledd, pedair gol pob gem) ac wedi ildio tair gol ar ddeg).

Yn ogystal ag ennill parch ar y cae, mae strwythr presennol y clwb fel Aberystwyth, wedi creu cysylltiadau buddiol a chefnogol iawn a'r gymuned leol, gan werthu delwedd y clwb yn llawer mwy effeithiol i'r gymdogaeth nac a welwyd yn y gorffennol.

Draw yn Aberystwyth mae cynlluniau’r clwb i gryfhau eu cysylltiadau ac ysgolion lleol yn esiampl wych i eraill.

Ail yw eu safle Treffynnon yn ngyhynghrair Lock Stock y gogledd. Ond peidier hyn a gadael ichi feddwl nad ydi Treffynnon ddim o safon uwch na’u cynghrair presennol. Maent yn meddu ar garfan o chwaraewyr talentog gyda nifer yn dangos galluoedd a fyddai yn disgleirio mewn safon uwch.

Ar y llaw arall, bydd eu gwrthwynebwyr, Aberystwyth hefyd yn dod i'r Drenewydd yn llawn hyder. Wedi gorfod disgyn i ail hanner uwch gynghrair Cymru oherwydd colli pwynt yn dilyn mater gweinyddol, fe lwyddwyd i guro Lido Afan o saith gol i un nos Wener ddiwethaf.

Os nad yw hyn yn ddigon, dyma’r canlyniad gorau mae’r clwb wedi ei gael ers ymuno ac Uwch gynghrair Cymru.

Dim ond un gem mae Aber wedi ei cholli ers rhannu’r gynghrair yn ddwy, gan enill y pump arall ( sgorio un gol ar hugain ac ildio ond pedair, cyfartaledd o dros dair gol y gem ac ildio llai nac un y gem) .

Rhydd y canlyniadau yma olau dydd rhyngddynt a gweddill y timau yn ail hanner y gynghrair a siawns nac Aber fydd yn cipio’r seithfed safle ac yn cymhwyso ar gyfer gemau ail gyfle tuag at geisio enill lle yng Nghwpan Ewropa ar ddiwedd y tymor. Roedd canlyniad gem nos Wener diwethaf hefyd yn gweld eu prif flaenwr Chris Venables yn ychwanegu tair gol arall i’r hyn mae eisoes wedi ei sgorio, a’i gyfanswm presennol o ugain gol yn ei osod fel prif sgoriwr uwch gynghrair y tymor yma hyd yn hyn.

Mae’n argoeli am fod yn dipyn o gêm yn y Drenewydd.

Os gall amddiffynwyr dawnus Treffynnon ymdopi a doniau rheibus Venables, ynghyd a chyflymder treiddiol yr asgellwr Geoff Kellaway, yna hwyrach y daw eu breuddwyd yn fyw!

Dyna i mi frwydr allweddol y gêm, ac os bydd y ddau flaenwr yma ar ben eu gem i Aberystwyth, yna bydd prynhawn anghyffyrddus o flaen Treffynnon.

Ond, mae pwysigrwydd ychwanegol i’r gêm.

Os bydd y Seintiau Newydd yn trechu’r Bala yn y rownd gyn derfynol arall ar Faes bus ym Mrychtyn, yna mae’n eithaf tebygol y bydd Treffynnon neu Aberystwyth yn cymhwyso ar gyfer cystadlu ar lwyfan Ewrop y tymor nesaf.

Dim ond unwaith mae Aberystwyth wedi cipio Cwpan Cymru, yn ôl yn 1900 wrth guro’r Derwyddon o dair gol i ddim gyda’r chwedlonol Leigh Richmond Roose yn y gôl iddynt.

Ond eleni mae gobeithion Aberystwyth am gamu ymlaen i’r ffeinal yn a rhoi cynnig am gipio’r gwpan yn uchel, gyda chanlyniadau gemau diweddar yn esgor ar ddigon o awch, brwdfrydedd a hyder .

Ar y llaw arall a fydd gwyrthiau Treffynnon yn parhau wrth inni weld tîm o'r drydedd reng yn camu’mlaen ac ymddangos ar lwyfan pêl droed y cyfandir yn yr Haf?

Dyna be fyddai stori tylwyth teg!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gweddill tymor Caerdydd ac Abertawe

Nesaf