Main content

Cynllun Gorwelion Yn Chwilio Am Dalent Cerddorol Newydd

Newyddion

Yn dilyn llwyddiant cynllun Gorwelion y llynedd, mae Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am 12 artist newydd i’w cefnogi dros y flwyddyn nesaf. Byddant yn cael cyfle i berfformio mewn digwyddiadau ar draws Cymru ac ar orsafoedd radio cenedlaethol Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru - Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru a Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Wales.

Fe fydd y cynllun yn cefnogi’r artistiaid mwyaf cyffrous, sydd heb arwyddo i label recordio, sydd â’r potensial i dorri tir newydd yng Nghymru a thu hwnt.

Mae gofyn i gerddorion a grwpiau sydd am gael eu hystyried ddanfon recordiad o’u gwaith gwreiddiol, llun a bywgraffiad byr. Bydd artistiaid Gorwelion yn cael eu dewis gan banel o arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth radio. Am fanylion llawn ewch i

Yn 2014, wnaeth y cynllun Gorwelion helpu 12 artist ar draws Cymru mewn ffyrdd gwahanol – o fentora i berfformio mewn gΕµyliau.

Fe fydd artistiaid Gorwelion yn 2015 yn elwa o:

• gynllun arbennig o weithgareddau radio ar y Βι¶ΉΤΌΕΔ, fel sesiynau, a rhestrau chwarae;

• cyswllt uniongyrchol gyda chynhyrchydd Βι¶ΉΤΌΕΔ sy’n goruchwylio’r cynllun;

• sesiwn recordio yn Βι¶ΉΤΌΕΔ Maida Vale (stiwdio recordio’r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn Llundain ers 1946);

• offer hyrwyddo gan gynnwys cynhyrchu fideo a lluniau proffesiynol;

• cynllun mentora arbennig a chyrsiau hyfforddi;

• cyfleoedd cerddorol cenedlaethol a rhyngwladol;

• cyfle i chwarae yn nigwyddiadau Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru drwy gydol y flwyddyn,

• enwebiadau trwy Βι¶ΉΤΌΕΔ Introducing i chwarae mewn digwyddiadau mawr ledled Prydain.

Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 9 Chwefror, 2015.

Fe fydd y 12 llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ar 6 Ebrill, 2015 ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Wales a Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru.

Mae Gorwelion yn bartneriaeth newydd dwy flynedd rhwng Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu talent cerddorol newydd ac i roi llwyfan i gyrraedd cynulleidfaoedd.

Er gwybodaeth, bydd dwy raglen Gorwelion, a fydd yn edrych yn ôl ar uchafbwyntiau 2014 yn cael eu darlledu ar Βι¶ΉΤΌΕΔ2 Wales ar y 21 a’r 28 Ionawr am 11.25pm.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Ionawr 20, 2015

Nesaf

Blog Ar Y Marc: Merthyr a Wrecsam