Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Mawrth 18, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gari Wyn - Merched mewn llyfrau hanes

cyfraniad - contribution
euog - guilty
menywod - merched
meistrolgar - masterful
dehongli - to interpret
cynllwyn - conspiracy
athronyddol - philosophical
dylanwad crefydd - the influence of religion
anghydffurfiaeth - nonconformity
Iddewon - Jews

"...ydach chi'n meddwl bod digon o sylw yn cael ei roi i ferched, neu fenywod, yn ein llyfrau hanes ni? Yn sicr dydy'r hanesydd y Dr Elin Jones ddim yn meddwl bod hanner digon o sylw yn cael ei roi. Roedd hi ar raglen Gari Wyn ddydd Llun diwetha, ac mi fuodd hi'n sôn am rai o'r rhesymau am y sefyllfa yma. Dyma i chi flas ar y sgwrs rhwng y ddau.... (Ydy hi'n bosib stopio'r clip ar 2:34?)"


Post Cyntaf - Wakestock

adnabyddus - famous
denu - to attract
cynulleidfa ehangach - a wider audience
llenyddiaeth - literature
celfyddydau - arts
gweithdai - workshops
cyfrannu - to contribute
crwydro - to wander
canolbwyntio - to concentrate
amrywiaeth - variety

"Dr Elin Jones yn fan'na yn sicr iawn ei barn am y lle sy'n cael ei roi i ferched yn ein llyfrau hanes ni. Wel, mi gaethon ni ddigon o dywydd braf yr wythnos diwetha yndo? Dw i'n edrych ymlaen at yr haf rwan! Cofiwch chi does na ddim garanti am yr haul yn yr haf chwaith nagoes - yn enwedig pan fydd yna wyl ymlaen! Gobeithio yn wir bydd hi'n braf adeg Gwyl Wakestock eleni, yn enwedig gan fydd yna fwy o Gymraeg i'w chlywed yno yr haf yma. Sut felly? Dyma i chi Sarah Owen, un o'r rhai sydd yn trefnu'r wyl, yn esbonio pam... "


Dylan Jones - Streic y glowyr

glowyr - colliers
ceidwad y Stondin - the stallkeeper
cyfnod cythryblus - a period of disturbance
ffyrnigrwydd - fierceness
i raddau - to an extent
ail-ddarlledu - to re-broadcast
digyfaddawd - uncompromising
pleidlais genedlaethol - a national ballot
ymddiried yn - to trust in
ergyd - a blow

..Sarah Owen yn siarad efo Alun Rhys ar y Post Cyntaf, ac mi glywon ni yn fan'na gerddoriaeth ddau fydd yn cymryd rhan yn yr wyl, Frank Turner ar ddechrau'r clip a John Newman ar y diwedd. Mae yna drideg o flynyddoedd ers streic fawr y glowyr ac mi gaeth hynny ddipyn o sylw ar y teledu a'r radio yr wythnos diwetha. Dydd Mercher buodd Sulwyn Tomos yn cofio'r streic ar raglen Dylan Jones. Roedd o'n gweithio i Radio Cymru ym mil naw wyth pedwar ar ei raglen Stondin Sulwyn....


Taro’r Post - Llanbrynmair

yr her fwyaf - the biggest challenge
safbwynt - piont of view
lliniaru'r boen - to ease the pain
ymwybodol - aware
bwrlwm - buzz
adfywio'r gymuned - to reinvigorate the community
cenhedlaeth iau - younger generation
rheolau cynllunio - planning regulations
niweidiol - harmful
pybyr - committed

"Yndoedd hi'n braf clywed cerddoriaeth agoriadol Stondin Sulwyn unwaith eto at ddecrau'r clip yna? Roedd y glowyr yn amlwg yn poeni am ddyfodol eu cymunedau. Ella nad ydy pobol Llanbrynmair ym Mhowys yn dangos yr un ffyrnigrwydd ag yr oedd i'w weld yn streic y glowyr, ond mae nhwtha hefyd yn bryderus iawn am ddyfodol eu cymuned. Dyma i chi rai o'r sgyrsiau gafodd Gari Owen efo'r bobol leol yn Llanbrynmair ar Taro'r Post..."


Rhaglen Dylan Jones - "Gwobrau Dewi Sant."

Gwobrau - awards
eithriadol - exceptional
arloesedd - innovative
anrhydeddu - to honour
dewrder - bravery
enwebu - to nominate
rhestr fer - shortlist
barnwyr annibynnol - independent adjudicators
cyflawni - to accomplish
tanseilio - to undermine

Braf clywed yn fan'na ynde bod dysgwyr yr ardal yn chwarae rhan mor bwysig yn adfywio'r gymuned. Am y tro cynta eleni cafodd Gwobrau Dewi Sant eu cyflwyno inifer o bobol gan y Prif Weinidog. Be yn union ydy'r gwobrau hyn a phwy fydd yn eu derbyn? Pwy gwell i esbonio wrth Dylan Jones na Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru...


Rhaglen Dylan Jones - Antur Waunfawr

y drychineb - the tragedy
anableddau - disabilities
Prif Weithredwraig - Chief Executive
menter - enterprise
clod - praise
bodolaeth - existence
llwyddiant - success
cydnabyddiaeth - acknowledgement
dymuniadau gorau - best wishes
cenedl - nation

"Aeth gwobr arbennig y Prif Weinidog i gymuned Machynlleth am y ffordd wych y gwnaethon nhw ymateb i drychineb April Jones. Roedd Antur Waenfawr wedi cael ei enwebu am wobr hefyd. Mae'r Antur yn cynnig gwaith i bobl sydd efo anableddau dysgu. Mi gafodd Dylan Jones sgwrs efo tri o'r Antur pan oedden nhw ar y tren i Gaerdydd ar gyfer y seremoni. Yn gyntaf mi glywn ni gan Menna Jones, Prif Weithredwraig yr Antur ac wedyn efo Gareth Griffiths ac Iwan Morris sydd yn gweithio i Antur Waunfawr."

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Yr hampers yn amlwg a'r Champers yn llifo

Nesaf

Everton v Caerdydd