Main content

Everton v Caerdydd

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn ei anterth roedd Ole Gunnar Solskjaer yn enwog am sgorio goliau allweddol yn hwyr yn y gêm, wrth sicrhau buddugoliaethau i Manchester United.

Y mwyaf enwog mae’n debyg oedd y gôl honno yn erbyn Bayern Munich yn ffeinal Cwpan Ewrop yn 1999 a gipiodd y gêm i United. Fe fyddai’r tîm o Fanceinion yn rhoi unrhywbeth am goliau hwyr y gŵr o Norwy'r dyddiau yma mae’n debyg!

Ond nid son am goliau hwyr yn achub gemau i Manchester United yr ydw i heddiw.

Tybed mai talu’r pwyth yn ôl i Solskjaer oedd Seamus Coleman brynhawn Sadwrn diwethaf wrth iddo grafu’r bel ac ochr ei droed a’i gwyro yn gam gan ei gweld yn troelli dros amddiffynnwr Caerdydd a disgyn yn ddiymadferth i gefn y rhwyd gan sicrhau tri phwynt i Everton? Tri phwynt gwerthfawr a wel Caerdydd yn wynebu dyfodol ansicr iawn.

Mewn amrantiad mae’r adar amryliw( wel - coch neu glas) yn gorwedd yn anghyfforddus yn ail o’r gwaelod a thri phwynt oddi ar Crystal Palace , sef y tîm sydd yn y safle un uwchben y tri isaf yn yr uwch gynghrair.

Fel un oedd ar Barc Goodison ddydd Sadwrn, creulon iawn oedd gôl Coleman, yn enwedig drwy ystyried mai gwyro oddi ar glun Steven Caulker a gadael y golwr David Marshall yn ei unfan oedd y gol gyntaf gan Gerard Deulofeu.

Yn wir dyma'r unig adeg i Marshall gael ei adael yn sefyll wrth iddo greu gwyrthiau yn y gôl i gadw Caerdydd yn y gêm. Dyma o bosib y perfformiad gorau a welwyd gan olgeidwad yn yr uwch gynghrair drwy'r tymor , ac roedd tîm prifddinas Cymru yn haeddu gwell canlyniad nac a gafwyd brynhawn Sadwrn.

Gair o glod i ddilynwyr Caerdydd hefyd. Roedd côr Caerdydd yn llawn asbri, fel cymanfa o gefnogaeth i'w tîm ( ac o wrth wynebiad i rai agweddau o drefn bresennol y clwb hefyd). Gair o ganmoliaeth i gefnogwyr Everton hefyd a benderfynodd gymeradwyo'r Cymry clochdar wrth iddynt gyd ganu a chyhoeddi, mai yn eu barn hwy, glas fyddai lliw Caerdydd bob tro!

Ond mae angen mwy na chôr, lliw a chan ar Gaerdydd, a byddai cael tipyn o lwc fel y cafodd Everton brynhawn Sadwrn o gymorth.

Yn eistedd o’m cwmpas yn y gêm roedd criw o gefnogwyr pêl droed o Norwy. Wrth eu hedmygu am ddod i gefnogi eu cyd wladwr yn ceisio achub Caerdydd, daethpwyd i ddeall mai aelodau o glwb cefnogwyr Everton yn Norwy oedd y cyfeillion yma!

Ie, doedd dim lwc o gwbl i Ole Gunnar Solskjaer yn bodoli ar Barc Goodison!

Rhywsut neu’i gilydd tydi lwc ac achub eich croen ar waelod cynghrair ddim yn cyfuno rhywsut. Yr agosaf at hyn oedd rhediad Wigan Athletic rhyw ddwy flynedd yn ôl wrth ennill saith allan o'u naw gem olaf i sicrhau goroesiad.

Rhywsut neu'i gilydd allai ddim gweld Caerdydd yn cyflawni rhywbeth tebyg.

Fodd bynnag mae gobaith yn bodoli.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Mawrth 18, 2014

Nesaf