Main content

The Auschwitz Goalkeeper

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Os, fel fi, yr ydych yn chwilio am lyfrau pêl droed i'w darllen dros y Nadolig, yna mae un wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar sydd yn unigryw ei natur.

‘The Auschwitz Goalkeeper’ ydi enw'r llyfr sydd wedi ei gyhoeddi gan Wasg Gomer - ac wedi ei ysgrifennu gan Ron Jones gyda chymorth y gohebydd pêl droed Joe Lovejoy. Hanes Ron Jones o Gasnewydd ydi’r llyfr, gwr a gafodd ei garcharu yn Auschwitz gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Erbyn heddiw mae Mr Jones yn 96 oed, ac wedi olrhain yr hanes amdano yn chwarae fel gôl geidwad i dîm y carcharorion Cymreig o fewn Auschwitz.

Ymddengys fod y Natsïaid wedi penderfynu y gallai’r carcharorion chwarae pêl droed ar ddiwedd yr wythnos. Gwnaethpwyd hyn o dan lygaid y wardeniaid a chafwyd timau yn cynrychioli gwledydd Prydain yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn wythnosol.

Daeth mudiad y Groes Goch i glywed am y digwyddiad yma ac fe anfonwyd ychydig o beli, ynghyd a set o grysau - pedwar set a bod yn gywir, i dimau yn cynrychioli Cymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon, draw i Auschwitz.

Gan fod yna gymaint o eira yn y gaeaf, gemau'r haf oedd y rhain, ond wrth chwarae dywed Mr Jones eu bod yn gweld y mwg yn codi o simneiau ac yn arogli’r drewdod a oedd yn eu hatgoffa o erchylltra y lladdfa, a oedd yn cael ei gynnal mor agos iddynt.

Llwyddodd i gael ei ryddhau o’r carchar pan sylweddolodd y Natsïaid fod yr Americanwyr yn agosáu, a bu rhaid i Mr Jones a llawer o garcharorion eraill deithio ar droed am dros naw can milltir cyn cyrraedd man diogel a chael eu hachub gan fyddin yr Americanwyr.

Hwyrach nad dyma’r math o lyfr mae rhywun yn arfer ei ddarllen dros gyfnod yr ŵyl, ond mae Mr Jones yn ein hatgoffa o’r erchylltra y gwelodd ac a brofodd, ac yn dangos hefyd pa mor ddewr yr oedd o a’i gyfeillion o dan y fath amgylchiadau.

Tra rydym yn rhyfeddu dros gampau Abertawe yn Ewrop y tymor yma, daw'r llyfr yma ac ysgytwad I ni wrth dynnu ein sylw am amgylchiadau hollol wahanol pan gafodd tîm o Gymru'r cyfle i chwarae ar gae pêl droed yn Ewrop flynyddoedd maith yn ôl.

Diolch i bêl droed, bu'r gemau rhyngwladol yma ar gae gerllaw'r carchar erchyll yn fodd o geisio cadw gobaith a chadw ffydd i’r dyfodol yn fyw ymysg y carcharorion.

Diolch i Ron Jones am yr hanes.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 26 Tachwedd 2013

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr - 03 Rhagfyr 2013