Main content

Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 26 Tachwedd 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Drama - Coffi

fy nyweddi - my fiancee
cwlwm - knot
dwy long ryfel - two war ships
cyflog mis - a month's salary
ast - bitch
cobennydd - pillow
syllu - to stare
gweddill fy mywyd - the rest of my life
ystrydeb gyfoglyd - a sick cliché
llwnc destun - a toast (as in a wedding)

"...clip bach o ddrama gafodd ei chlywed ar Radio Cymru nos Sul diwetha. Coffi oedd enw'r ddrama ac mi gafodd hi ei hysgrifennu gan Dewi Wyn Williams. Yr actorion sy'n cymryd rhan yn y ddrama ydy Llion Williams, Mair Rowlands, Catrin Arwel, Fflur Medi, John Ogwen, Maureen Rhys a Manon Wilkinson. Llais LLion Williams dan ni'n mynd i'w glywed rwan, ac mae ei gymeriad o newydd ffeindio allan bod ei gariad yn mynd i'w adael o. Ond pam mai 'Coffi' ydy enw'r ddrama? Mi ddylai hynny ddod yn amlwg i chi o'r clip yma..."

Straeon Bob Lliw - Ty Hafan

llawdriniaeth - surgery
trueni - pity
cynnal - to support
gweddio - to pray
crefyddol - religious
parchu - to respect 

"...dyn yn fan'na yn poeni'n arw achos fod o ddim yn cytuno efo dewis coffi rhywun arall. Wel dyna ni, drama oedd hi ynde? Dylai'r clip nesa o'r byd go iawn roi mwy o berpectif ar be ydy poen. Dyma i chi fam, Carys, yn disgrifio'r adeg pan gafodd hi wybod bod gan Rhydian, ei mab, diwmor anferth pan oedd o ond yn bum mis oed. Dyma Carys yn sôn am yr effaith ar y teulu o gael y newyddion ofnadwy yma..."


Geraint Lloyd - "Cwmni Drama Cudyll Coch"

para - to last
chwerthin - laughing
go lew - fairly well
i gymharu â - compared with
o brofiad - from experience
ar lwyfan - on stage
sbri - hwyl 

Carys yn fan'na yn rhannu profiadau trist iawn efo ni ar Straeon Bob LLiw dydd Llun diwetha. John Roberts oedd yn cyflwyno'r rhaglen honno, oedd yn bennaf am yr hosbis sy'n gwneud gwaith arbennig iawn efo plant bach, sef Ty Hafan. Clip cwbl wahanol rwan - mi gafodd Geraint Lloyd gwmni Robert Owen o Trap, Sir Gaerfyrddin, ddydd Mawrth ac mi ddysgon ni ychydig am hanes Cwmni Drama Cudyll Coch. Dyma i chi flas ar y sgwrs...


Daf a Caryl - Dr Who

cyfarwyddwr - director
creadur - creature
llinell - a line
y fraint - the privilege
dychmygu - imagining
anhygoel - incredible
ymarferion - rehearsals
yn gelfydd - skilfull
cyfnod - period
cyrff - bodies

"Wel dan ni wedi cael clywed am ddramâu doniol a drama am goffi, ond roedd yna un ddrama oedd yn cael mwy o sylw na'r un arall yr wythnos diwetha. Doctor Who ydy honno wrth gwrs, gan ei bod yn bumdeg oed yr wythnos diwetha ac roedd yna bennod arbennig yn cael ei dangos ar Â鶹ԼÅÄ nos Sadwrn. Mi ddaeth un sydd wedi actio yn y gyfres i gael sgwrs efo ni ar Daf a Caryl ddydd Iau. Yr actor John Ogwen oedd hwnnw, ac mi fuodd o'n chwarae rhan Bostok mewn dwy raglen ym Mil Naw Wyth Pump. Os dach chi'n ffan o'r Doctor ella byddwch chi'n gwybod mai Bostok wnaeth saethu llaw Davros, tad y Daleks."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar Y Marc: Ffilm Class Of 92

Nesaf

The Auschwitz Goalkeeper