Main content

Athroniaeth Albert Camus

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

“’Rwy’n ddyledus i bêl droed am y cyfan ‘rwy’n ei wybod yn ddiau am foesoldeb a rhwymedigaethau dynol” - na nid fy ngeiriau i, na datganiad athronyddol gen i chwaith.
Mae’r dyfyniad uchod wedi ei gredydu i’r diweddar Albert Camus, sef llenor ac athronydd Ffrengig a enillodd Wobr Nobel am ei waith llenyddol nol yn y pumdegau.
Dyn papur newydd a chynhyrchydd dramâu oedd wrth ei alwedigaeth; fe gyhoeddodd gyfrolau o ysgrifau ar athroniaeth a gwleidyddiaeth, ac ysgrifennodd ddramâu, ond fel athronydd ac, yn enwedig, fel nofelydd y daeth i fri ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Defnyddiodd y nofel fel cyfrwng i fynegi ei syniadau am fywyd a chyflwr y ddynoliaeth.
Gyda chyhoeddiad ei nofel fawr La Peste (Y Pla) yn 1947 daeth i'w le fel un o brif lenorion yr oes.
Lleolir y nofel yn Oran yn y cyfnod trefedigaethol pan reolwyd y wlad honno gan Ffrainc. Gosodir digwyddiadau'r nofel yn y 1940au gan adrodd hanes bywyd beunyddiol trigolion y ddinas yn ystod pla sy'n ei tharo ac yn torri pob cysylltiad rhyngddi a gweddill y byd.
Ond nid nofel syml yw hon, ond un sy'n adlewyrchu athroniaeth ddirfodol yr awdur, ac yn nofel a gaiff ei hystyried fel un o glasuron llenyddiaeth dirfodaeth.
Be felly, mae hanes nofel dirfodol, gan Ffrancwr mor bell yn ôl a 1947, yn cael ei chyfeirio ato mewn blog, sydd i bob pwrpas, yn ymwneud a’r byd pêl droed?
Wel, heblaw bod yn llenor, roedd Camus yn dipyn o ffan y gêm. Golwr oedd wrth ei allu, ac wedi chwarae i dim Racing Universitaire Algerios (sef tîm y brifysgol) , ond oherwydd salwch y diciáu, ni allodd gyfiawnhau ei ddoniau, a bu angen iddo roi terfyn ar ei obeithion o chwarae pêl droed ar y lefel uchaf, yn fuan yn ei yrfa.
Fodd bynnag, defnyddiodd Camus y gêm fel sail i ddatblygu ei athroniaeth a’i ddealltwriaeth o ddynoliaeth, wrth adnabod rhinweddau'r byd pêl droed o gyd chwarae tuag at ddibenion cyffredin.
Hwyrach y gellir cymharu dylanwad a chredoau Camus i resymeg cyn chwaraewr Manchester United, Ffrancwr arall, Eric Cantona, a ddatgelodd unwaith fod llwyddiant Manchester United wedi ei seilio ar y parch a’r gallu ymysg y chwaraewyr i amddiffyn ei gilydd a chydweithio at nodau cyffredin.
Felly hefyd athroniaeth Camus, sef ei neges fod y natur ddynol yn un a'i hanfod ar ofalu am ein ffrindiau, teuluoedd a magu gonestrwydd personol er mwyn datblygu perthnasau dynol.
Credai hefyd fod y byd chwaraeon, yn enwedig o’i brofiad personol o, yn gallu cynnig fframwaith well ar gyfer bywyd nag y gallai gwleidyddiaeth nag unrhyw athroniaeth yn yr oes honno.
Daeth ei ddyfyniad uchod yn sgil cyfweliad yn y pumdegau cynnar wrth iddo gyfeirio at ei amser fel golwr tîm ei brifysgol, gan ddweud bod angen iddo addasu ei ymateb fel golwr, wrth weld nad yw’r bel yn dod ato fel y rhagdybiwyd, ac felly, yn ôl y profiad mae’r angen i bobol addasu i ddigwyddiadau bywyd, yn ei farn o , fel yr angen i'r golwr addasu ei symudiad i ymateb yn gadarnhaol i'r annisgwyl.
Heddiw, ynghanol ofnau'r Coronafirws, pa mor agos mae athroniaeth Camus yn ein hamgylchynnu, gyda’r angen i ninnau addasu'r ffordd yr ydym yn byw, yn sgil ofnau dychrynllyd ansicr yr afiechyd yma!
Wnâi ddim mynd i ddyfnion neges ac athronoiaeth Camus yn ei nofel! Mae'n debyg fy mod wedi gwneud digon i'ch drysu yn barod, ond mae'r Pla yn llyfr wnes i astudio yng ngwersi Ffrangeg yn y chweched dosbarth dros hanner can mlynedd yn ôl.
Digon, fodd bynnag, i ddweud mai nofel sy'n ceisio dangos sut mae'r pla wedi effeithio ar fywyd, credoau, penderfyniadau a chymeriad trigolion Oran wrth iddynt yn ymateb i'r pla a oedd yn eu mysg.
Amser i'w ail ddarllen o bosib !
Os ydych chithau, fel Albert Camus wedi dod i ddeall drwy bêl droed, sut mae ymateb yn gadarnhaol drwy wrthdaro yn erbyn digwyddiadau afiach, gwenwynig, annisgwyl, yna dilynwch gyfarwyddiau tim hyfforddi’r Gwasanaethau Iechyd, tactegau ein rheolwyr a'n chwaraewyr arwrol meddygol.
Trwy gydweithio, parchu ac amddiffyn ein gilydd, ein cyfeillion a'n teuluoedd fe lwyddwn ninnau i sgorio’r goliau a dangos y cerdyn coch a gaiff wared â’r afiechyd sydd wedi camsefyll ynghanol ein bywydau mor fuan ag sydd bosibl.
Byddwch wyliadwrus ac edrychwch ar ôl eich hunain.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr

Nesaf

Pam fod yn rhaid dod a thymor 2019/20 i ben!