Main content

Pam fod yn rhaid dod a thymor 2019/20 i ben!

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Naill ai mae COVID19 yn fygythiad ac ni all pobl ymgynnull, neu nid yw’n fygythiad ac fe all pobl ymgynnull. Mae 22 o chwaraewr ar gae, yn ogystal â swyddogion ac eilyddion, yn amlwg yn ymgynnull, ac wrth gwrs mewn cysylltiad agos a’i gilydd.

Bydd gêm a chwaraeir y tu ôl i ddrysau caeedig yn dal i gynnwys cannoedd o bobl yn gweithio yn agos at ei gilydd - rheolwyr, hyfforddwyr, staff meddygol, ball-boys, personél teledu, ac ati.

Mae'r nonsens “y tu ôl i ddrysau caeedig” yn hollol hurt. Nid oes unrhyw un eisiau pêl-droed “y tu ôl i ddrysau caeedig”. Dim ond fel cosb wedi i gefnogwyr gamymddwyn y caiff ei ddefnyddio, am reswm da iawn: mae'n brofiad di-enaid i'r chwaraewyr a'r cefnogwyr absennol. Peth arall – o adnabod cefnogwyr pêl-droed, mae'n debyg y byddent yn ymgynnull y tu allan i’r meysydd lle mae'r gemau'n cael eu chwarae, “drysau caeedig” ai peidio.

Mae'r syniad y gellir gorffen y tymor yn sylfaenol ddiffygiol - pe bai hyn yn cael ei wneud, byddai'n golygu y byddai chwarter y tymor yn cael ei chwarae o dan amodau hollol wahanol i'r tri chwarter cyntaf, a fyddai'n gwbwl annheg i'r holl dimau. I roi un enghraifft – roedd West Ham i fod i wynebu Aston Villa ar ddiwrnod olaf y tymor, gêm y gallai’n hawdd fod yn dyngedfennol i’r ddau glwb. Cafwyd gêm gyfartal ym Mharc Villa yn gynharach yn y tymor; a fyddai’n deg i West Ham orfod chwarae heb dorf, a felly colli’r fantais o chwarae adref?

Pwyntiau eraill: dychmygwch pe taw’r tymor yn ailgychwyn ar ôl seibiant o ddau neu dri mis, ac yna, ar ôl ailddechrau, i rhai chwaraewyr gael eu taro’n wael gan y feirws! Byddai'n rhaid dod â'r tymor i ben ar unwaith, gan achosi aflonyddwch gwaeth fyth.

A yw’n deg neu’n rhesymol fod personél meddygol (a fyddai’n gorfod mynychu’r gemau, rhag ofn anaf difrifol i chwaraewyr) yn cael eu tynnu oddi wrth y “rheng flaen” o ymladd y clefyd hwn a gofalu am gleifion i alluogi chwarae pêl-droed?

Nid wyf hyd yn oed yn sôn am y cymhlethdodau posibl sy’n deillio o gytundebau chwaraewyr yn dod i ben ar Fehefin 30ain.

Mae’r sefyllfa’n fy atgoffa o’r gêm enwog pan sgoriodd Denis Law chwe gôl i Manchester City yn erbyn Luton yng Nghwpan yr FA yn 1961; rhaid rhoi terfyn ar y gêm wedi 70 munud o achos cyflwr y cae. Fe gollodd Man City pan ail-chwaraewyd yr ornest o 3 – 1!

Mae'n anodd i glybiau roi'r gorau i'r tymor, yn enwedig y rhai sy'n agos at ennill tlysau neu ddyrchafiad, ond mae'r risgiau'n rhy fawr.

Gallwch anghofio unrhyw obaith o arweiniad gan yr awdurdodau pêl-droed yn y sefyllfa hon. Bydd y llywodraeth, UEFA, PL, FA ac ati i gyd eisiau i'r un arall wneud y penderfyniad. Mae pob un ohonyn nhw'n mynd i geisio gweithredu fel pe tae nhw eisiau i'r tymor ddal ati. Mae'n helpu gyda'u naratif, ond mae hefyd yn helpu os bydd her gyfreithiol. Byddant yn defnyddio'r amddiffyniad mai diddymu oedd yr unig benderfyniad a adawyd ar eu cyfer ar ôl i ffactorau allanol sicrhau nad oedd ganddynt unrhyw ddewis amgen.

Os mabwysiadir y dull hwnnw, byddai’n rhaid i unrhyw glwb (dyweder Leeds United er enghraifft) nid yn unig brofi eu bod yn haeddu cael dyrchafiad (er iddynt fethu’r tymor diwethaf o sefyllfa debyg) a bod yr holl brotocol o ddiddymu tymhorau anghyflawn yn anghywir, ond hefyd fod gan y PL / FA unrhyw ddewis arall ar gael iddynt o ystyried eu bod yn cael eu gorfodi gan UEFA / Llywodraeth.

Felly byddwn i'n disgwyl datganiad ddiwedd mis Mai yn dweud yn y bôn- "roeddem wedi ymrwymo i ddod â'r gynghrair i ben, ac roedd y llywodraeth yn gwrthod caniatáu inni chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig yn gwneud hynny'n amhosibl, felly nid oedd gennym ddewis ond diddymu "- yn amlwg wedi'i eirio'n gyfreithiol, ond dyna'r sail.

Rolant Ellis

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Athroniaeth Albert Camus