Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 25 Gorffennaf 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Cofio - Marion Eames

awdures - author (fem.)
hanesyddol - historical
cyhoeddi - to publish
parhau - to continue
Crynwyr - Quakers
mudiad - organization
heddychwyr - pacifists
apelio - to appeal
agoriad llygad - eye opener
bwrw iddi - to start (idiom)

...ac i Ddolgellau yr awn ni i ddechrau'r wythnos 'ma i glywed hanes yr awdures Marion Eames. Mae Marion Eames yn enwog am 'sgwennu nofelau hanesyddol ac mae ei nofel 'Y Stafell Ddirgel', a gafodd ei gyhoeddi gyntaf ym mil naw chwe naw, yn parhau i fod yn ffefryn yn y siop lyfrau heddiw. Dyma Marion yn sgwrsio gyda Catrin Gerallt am sut gafodd hi'r syniad i 'sgwennu 'Y Stafell Ddirgel' sy'n sôn am hanes y Crynwyr yn Nolgellau yn yr ail ganrif ar bymtheg. Mi gewch chi glywed rhan fach o'r nofel ar ddiwedd y clip. Mwynhewch!

Llyfr y Flwyddyn - Heini Gruffudd

erthygl - article
ysbrydoli - to inspire
dogfennau - documents
erlid - to persecute
ffug - fictitious
ffoi - to escape
Iddewon - Jewish
gwersyll garchar - prison camp
didoli - to select
tramgwyddo - to offend

"Darllen erthygl mewn hen bapur newydd wnaeth ysbrydoli Marion Eames i 'sgwennu 'Y Stafell Ddirgel'. Darllen hen ddogfennau wnaeth helpu Heini Gruffudd i 'sgwennu ei nofel 'Yr Erlid' hefyd, ond nid cymeriadau ffug sydd yn ei nofel o. Yn hytrach, hanes mam Heini, Kate Bosse-Grithiths, adeg yr ail ryfel byd ydy 'Yr Erlid'. Mi wnaeth Kate ffoi o'r Almaen i Gymru ym mil naw tri saith achos bod ei rhieni hi'n Iddewon. Nos Iau ddiwetha', mi wnaeth y nofel ennill y wobr 'Llyfr y Flwyddyn' a dyma glip o'r cyfweliad gyda Heini ar noson y seremoni wobrwyo."

Geraint Lloyd - Tynnu Rhaff

cystadlu - to compete
tîm tynnu rhaff - rope pulling team
paratoadau - preperations
twym - cynnes
llym - strict
trial - trio
ysgafn - light
pwysau - weight
profiad - experience
achwyn - to complain

Fyddwch chi'n mynd i Sioe Frenhinol Llanelwedd wythnos 'ma? Wyddoch chi nad anifeiliaid ydy'r unig rai sy'n cystadlu yno? Geraint Lloyd aeth i sgwrsio gydag aelodau tîm tynnu rhaff merched Llangadog yn ystod eu paratoadau ar gyfer cystadlu yn y Sioe Frenhinol eleni. Cafodd Geraint sgwrs gyda hyfforddwr y tîm, Kevin Davies, sy'n amlwg yn llym iawn efo'r merched!

Talwrn - Limrig

beirdd - poets
cyfres - series
barddoniaeth - poetry
gwirioni - to infatuate
cystadleuaeth - competition
Limrig - limerick
marciau - marks
gair o gyngor - words of wisdom (idiom)

Mae'r clip olaf yn dod o'r Talwrn, lle mae dau dîm o feirdd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i ennill gyda'r gyfres orau o farddoniaeth. Wales' Got Talent! Mi fysa Simon Cowell yn gwirioni efo'r syniad!! Mae'r clip yn cynnwys y gystadleuaeth 'sgwennu Limrig ac mae Tîm Y Cwps yn cystadlu yn erbyn Tan y Groes i geisio ennill y marciau uchaf gan Simon Cowell Cymru, Ceri Wyn. Gair o gyngor i chi; peidiwch â thrio deall pob gair. Joiwch!

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 13

Nesaf

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 14