Main content

Pwyso a mesur Llyfr y Flwyddyn 2013

Jon Gower

Tagiwyd gyda:

Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2012 ac un o'r awduron ar restr fer y wobr Saesneg eleni, Jon Gower, sy'n pwyso a mesur enillwyr 2013 a gwerth y wobr sy'n rhoi "hwb creadigol aruthrol" i awduron.

Wedi beirniadu'r gystadleuaeth hon unwaith yn y gorffennol dwi'n gwybod yn union pa mor anodd yw dewis enillydd, yn enwedig o gofio bod yn rhaid pwyso a mesur rhyddiaith yn erbyn barddoniaeth a barddoniaeth yn erbyn sgrifennu creadigol ffeithiol. 

Ond hawdd deall yr unfrydedd ar ran y beirniaid eleni wrth iddynt ddewis , yn enwedig o'i glywed yn esbonio taw nid fe oedd gwir awdur y gwaith, ond yn hytrach y cwmwl tystion, aelodau o'i deulu megis ei fam Kate wnaeth ddioddef cymaint dan gysgod Hitler adeg y rhyfel, yn ystod ymosodiadau Kristallnacht, yn y gwersylloedd dieflig neu wrth ffoi i lefydd megis Cymru. ÌýÌý

Mae'n dipyn haws na deall sut yr oedd dyn "gwaraidd" yn yr Almaen yn medru gwrando ar Beethoven, neu ddarllen Goethe cyn mynd i'w waith bob dydd yn erchylltra gwersylloedd megis Ravensbruck neu Auschwitz.

Llyfrau chwaraeon

Haws oedd cytuno gyda'r dewis yma na gyda dadl cadeirydd y beirniaid, Alun Gibbard, y dylid ystyried mwy o gofiannau a 'sgrifennu am chwaraeon yn y gystadleuaeth, oherwydd bod y rhain yn gwerthu'n dda a bod 'na ddim perthynas rhwng gwerthiant a chystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn ar hyn o bryd. 

Mae hynny'n ddigon gwir ond nid yw gwerthiant yn unrhyw warant o safon, yn enwedig yn y mathau yma o sgrifennu yn y Gymraeg.  Prin iawn yw'r esiamplau disglair yn fy mhrofiad i.

Canfod llais

Rhyfedd oedd gweld y cyflwynydd teledu siriol Aneirin Karadog heb wên ar ei wyneb yn derbyn y wobr am farddoniaeth, nes sylweddoli taw syfrdandod oedd yn achosi hyn, a'r bardd ifanc, hyderus hwn wedi dod yn agos iawn at ennill sawl cystadleuaeth yn y gorffennol. 

Ond yn O Annwn i Geltia mae ei lais yn glir ac yn gyhyrog a rhythmig: 'Canfyddais fy llais a dyma fe' fel mae'n dweud yn y rhagair.  Enillydd pum-ieithog a haeddiannol iawn.

A da oedd gweld Manon Steffan Ros yn gwenu'n ffit i ddau wrth dderbyn y wobr am y ffuglen gorau, yn enwedig oherwydd bod ei nofel yn un darllenadwy a hynod boblogaidd yn barod, un o'r llyfrau prin hynny sy'n sgubo'r darllenydd ymlaen.

Doniol a deifiol ÌýÌý

Ond nid oedd hyd yn oed ei gwên hi'n cymharu gyda'r un llydan iawn ar wyneb Rhian Edwards, enillydd nid yn unig gwobr barn y bobl am ei chyfrol ddoniol a deifiol Clueless Dogs, ond hefyd gwobr Roland Mathias a'r wobr fel Llyfr y Flwyddyn yn Saesneg.  A hithau'n disgwyl babi cyn hir roedd ennill y wobr ariannol yn hynod amserol, meddai. 

Mae unrhyw un sydd wedi clywed y berfformwraig yma o Ben-y-bont yn darllen ei gwaith, ac yn canu i gyfeiliant iwcalili yn gwybod yn iawn yn union sut ddawn sydd ganddi, ac ansawdd y suo-ganeuon sydd i ddod!

A rhaid imi longyfarch fy ffrind John Harrison enillodd y categori ffeithiol greadigol yn Saesneg eleni gyda'i lyfr am arloeswyr yr Antarctig.  Yn gynharach eleni bu'n brwydro cancr.  Nes ymlaen eleni bydd yn dilyn llwybr Cortez ar draws Mecsico.  Mae'n ddyn hynod o gryf ac yn awdur arbennig iawn, iawn.

Hwb creadigol

Beth yw gwerth y gystadleuaeth?  I mi, roedd ennill llynedd wedi rhoi hwb creadigol aruthrol a dwi wedi cychwyn sgrifennu nofel newydd sydd, yn fy mhen o leiaf, yn hirach nac unrhyw un o lyfrau Wil Garn!  Mae'n uchelgeisiol mewn ffyrdd eraill hefyd, gan ddilyn y prif gymeriadau o America Ganol i Alasca ac yn ôl i Arizona ac mae'r uchelgais a'r hunangred i fentro'r fath gyfrol yn tarddu'n uniongyrchol o ennill Llyfr y Flwyddyn, a chlywed beirniadaeth hael a deallus ar y noson.

Ond mae hefyd wedi helpu gwerthiant, gan y bydd y nofel yn siŵr o werthu ddwywaith neu deirgwaith y nifer o gopïau yn sgil y wobr, efallai dwy fil yn y pen draw. 

Cefais wahoddiad i recordio'r llyfr ar gyfer y deillion a phleser digamsyniol oedd recordio pob gair yn ei stiwdio fach ym Mangor, gyda ffrind newydd, Bryn, wrth y controls. Ac mae 'na bleser hefyd cwrdd â darllenwyr – a gwrandawyr hefyd – ar hyd a lled Cymru sydd wedi ei mwynhau hi, ac un yn arbennig, sef fy ngwraig Sarah, wnaeth gwpla darllen neithiwr.ÌýÌý Diolch fyth wnaeth hi fwynhau.

Mae'r sustem newydd o ddosbarthu'r rhestr fer i dri chategori wedi dechrau setlo, er bydd mwy o gyfrolau rhyddiaith i'w didoli bob blwyddyn na barddoniaeth, sy'n dod a'i fath arbennig o anhegwch.

Efallai mai'r ffordd ymlaen yw cael rhestr hir o 10 cyfrol, gan rhoi hawl i'r beirniaid i ychwanegu un cyfrol i unrhyw gategori.

Ond nid nawr yw'r amser i gecru na chwyno na diwygio. Neithiwr gwelsom pa mor gyfoethog a chyhyrog a chyfoes yw cynnyrch ein sgwennwyr yn y ddwy iaith.  Mae 'na hyder yn y dweud, a gwirioneddau i'w darganfod ar y tudalennau.  Mewn cyfnod pan mae adolygu yn crebachu mae pwysigrwydd y math yma o ffenest siop, i arddangos cyfoeth o awduron, yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn.

Tagiwyd gyda:

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 17 Gorffennaf 2013

Nesaf

Blog Ar y Marc - Seintiau a Phrestatyn