Main content

Radio Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Moncath, Sir Benfro

Newyddion

Rhwng 27 Mai – 1 Mehefin 2013, unwaith eto bydd gwrandawyr Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru yn cael cyfle i fwynhau cystadlu a seremonÑ—au Eisteddfod yr Urdd ym Moncath wrth i’r orsaf ddarlledu yn fyw o’r maes am wythnos gyfan. 

O fore Llun (10.30am-1pm a 2pm-5pm) bydd holl arlwy’r llwyfan yn cael ei gyflwyno gan Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis, wrth iddynt sylwebu’n fyw ar y cystadlaethau.  Yna rhaglen o uchafbwyntiau’r cystadlu ar fore Sul 2 Mehefin am 10.30am. Gallwch ddilyn y cystadlu hwyr nos Iau rhwng 6-8pm a nos Wener rhwng 6.30-9pm yn ogystal. 

Bydd Iwan Griffiths sydd yn hannu o’r ardal yn crwydro’r maes, gyda Nia Lloyd Jones gefn llwyfan yn holi’r cystadleuwyr.  Ond bydd Nia’n creu blog dyddiol ar wefan Radio Cymru hefyd.

Daw dwy raglen yn fyw o’r maes Ddydd Llun. Cewch glywed Dafydd a Caryl rhwng 8.30-11.00am yna rhwng 1-2pm bydd Garry Owen yn Taro’r Post. Ddydd Mawrth rhwng 6.30-8.30am, daw Dylan Jones a Kate Crockett â’r newyddion diweddaraf ar y Post Cyntaf.

Mae Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru yn cefnogi llwyfan berfformio Cyngor Celfyddydau Cymru eleni.  Bydd cyflwynwyr yr orsaf, gan gynnwys Dafydd Meredydd, Magi Dodd ac Iwan Griffiths, ynghyd ag Ifan Evans, Geth a Ger o griw C2  yn cyflwyno artistiaid amrywiol yn fyw ar y llwyfan.

Nos Fercher yn ôl yr arfer bydd cyfle i glywed drama fuddugol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012 ar Radio Cymru.  Darlledir addasiad radio o Y Weiren bigog gan Llyr Titus am 6.30pm. 

Yn sgîl cyfres wyddonol newydd Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, Wyn ar Wyddoniaeth, mae Wyn Davies wedi derbyn gwahoddiad i agor y babell wyddoniaeth - y GwyddonLe - ar y maes. Mae Wyn yn adnabyddus fel aelod o gôr Only Men Aloud ond yn ogystal â bod yn ganwr brwd, gwyddoniaeth sydd wedi mynd â`i fryd o ran gyrfa, a chafodd ei hyfforddi fel fferyllydd. Bydd Wyn yn recordio ambell eitem yn y babell a chewch gyfle i`w clywed yn ystod y gyfres sy`n dechrau 3 Mehefin am 2pm.

Bydd gweithgareddau eraill Â鶹ԼÅÄ Cymru hefyd yn dod o’r maes.

Yn Ardal Cwtsh Cymraeg S4C mae tîm Â鶹ԼÅÄ Cymru yn estyn croeso i blant ar Ddydd Llun a dydd Mawrth i glywed straeon sydd ar gael a r ffurf  podlediadau y Â鶹ԼÅÄ. Dysgwyr sy’n cael y sylw ddydd Mercher, gyda sesiynau Cymraeg i oedolion gan ddefnyddio gwefan Big Welsh Challenge a byddwn yn gweithio gyda chymdeithas Cymraeg i Oedolion ym mro’r Eisteddfod

I gael y newyddion diweddaraf o faes Eisteddfod yr Urdd ym Moncath gan gynnwys straeon o’r maes, cyfweliadau gydag enillwyr y prif seremonïau a blog cefn llwyfan Nia Lloyd Jones, ewch i

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 5