Main content

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 5

Ceri Wyn Jones

Meuryn y Talwrn

Tagiwyd gyda:

Rownd 1, rhaglen 5,Ìý19ÌýMai 2013:ÌýNeuadd Bancffosfelen a Chrwbin

Mae rhai enwau llefydd yn codi gwên.Ìý

A bob tro y byddwn ni’n eu gweld nhw ar arwyddion neu ar fap, neu’n eu clywed nhw ar y newyddion neu mewn sgwrs, ry’ ni’n profi rhyw foddhad anesboniadwy. Neu efallai taw dim ond fi yw hyn.

Plwmp. Slebech. Betws Bledrws. Ydy’r rhain yn eich coglish chi? Neu beth am Bodorgan, Brechfa neu Abercwmboi?

O blith yr enwau annwyl ac ecsotig sy’n nodi hyd a lled ein cymdogaethau ni ymhob un gilfach gefn o’r wlad hyfryd hon, mae gen i ffefryn bach personol...

Crwbin. Ie, Crwbin. Pentre bach ar lethrau bryn serth sy’n codi uwchlaw’r afon Gwendraeth Fach yw Crwbin. Ystyr y gair ‘crwbyn’ yw ‘bryncyn’ ac mae’n tarddu o’r gair ‘crwb’, sef ‘lwmpyn’. Ond fe all hefyd olygu ‘rhywun cefngrwm’. A hawdd gweld, felly, o ble daeth yr enw ‘crwban’ (yn wir, mae cofnod o 1831 sy’nodi enw’r pentre hwn fel ‘Crwban’!).

Ond beth sydd a wnelo hyn ag awen a marciau?

Wel, yn Neuadd Bancffosfelen a Chrwbin yr oedden ni’n ricordio’r Talwrn yr wythnos hon (neuadd sydd, mae’n ddrwg gen i ddweud wrth bobol Crwbin, yn gyfangwbwl ym Mancffosfelen). Ac roedden ni yno ar wahoddiad Crwydriaid Crwbin, cymdeithas (o ddynion yn unig) sydd, yn ôl un o’r talyrnwyr y bûm i’n sgwrsio ag e dros frechdan borc-ac-afal, yn nodedig am eu hoffter o gwrw a diwylliant – yn y drefn honno!

Ac fe gafodd y Crwydriaid dalwrn gwerthchweil heno, un â’u cadwodd allan o’r dafarn, o leia. Timau Aberhafren, y Cnape a Glannau Teifi oedd wrthi, ac ymysg yr uchafbwyntiau oedd cywydd deg-marc y Prifardd Rhys Iorwerth o dîm Aberhafren.

Ac fe gafodd Mari George (Aberhafren) ac Elin Meek (Y Cnape) hwythau gryn hwyl famol gyda’r testun ‘Weithiau’, ac .

Ond beth am y gorau o’r gweddill?

Peth personol iawn yw hiwmor, wrth reswm (gweler frawddegau agoriadol y Blog hwn). Ac er ‘mod i’n teimlo ‘mod i’n ffyddiog o wybod pa fath o hiwmor fydd yn fy nghoglish i, y gwir yw bod rhai pethau yn apelio heb fod rheswm yn y byd am hwnnw. Fel cwpled Rhys Iorwerth yn cynnwys yr ymadrodd ‘ar ben’:

Ofni ei bod hi ar ben
yn y môr wna maharen.

Aberhafren

(Nid bod defaid yn boddi yn destun digrifwch ohono’i hun, rwy’n prysuro i ddweud.)

Oni bai bod hwn yn gwpled cynganeddol, mae’n debyg na fyddai wedi codi gwên, h.y. y wisg gain o eiriau difrifol sy’ wedi ei gosod ar y pŵr dab gwlanog, pedeircoes sy’n chwerthinllyd.

Rhag ofn, gyda llaw, bod yr anoracs yn tybio iddyn’ nhw sbotio gwall yn llinell gynta’r cwpled, teg dweud bod rhaid ynganu ‘bod hi’ fel ymadrodd diacen (‘BODhi’) – fel sy’n arferol ar lafar, beth bynnag – i bontio’r gynghanedd sain. Mae ‘ofni’ felly yn odli gyda ‘bod-hi’ sydd yn ei dro yn cynganeddu gyda ‘ben’.

Cafwyd sawl englyn da ar y testun ‘CV’. Ffurflen ymgeisydd aflwyddiannus a gawson ni gan Geraint Volk, a’r trosiad yn magu nerth wrth fynd rhagddi:

Dyrys ei gymwystere, - un llinell
Unig o brofiade;
Un go gul yw ei gae e
Yn wir, a’r chwyn yn chware.Ìý

Glannau Teifi

Ie, ‘un go gul yw ei gae e’. Cynnil iawn.

Petaswn i wedi cael y dewis, yr englyn hwn o waith Elin Meek fyddai wedi mynd â hi ar y noson, serch hynny:

Rhown sêr ein cymwysterau a galaeth
golud ein profiadau
mor gelfydd; yn gudd rhaid gwau’n
hanallu rhwng llinellau.

Y Cnape

Oes, mae camp mewn cuddio ein ffaeleddau mewn CV, fel yng nghwrs ein bywydau yn gyffredinol.

I glywed rhaglen ddiweddaraf y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'rÌýcerddi ddaeth i'r brigÌýewch iÌýwefanÌý

  • Ìý

Tagiwyd gyda:

Mwy o negeseuon

Blaenorol