Main content

Pigion i Ddysgwyr: 22 Awst 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.



Terfyn ar y Trefnu - Hywel Wyn Edwards

ymroddiad - commitment
wrth y llyw - at the helm
trawiad angeuol - a fatal (heart) attack
gor-gyffwrdd - to overlap
pwyllgor gwaith - executive committee
ymarferol - practical
profedigaeth - bereavement
ymdopi - to cope
galaru - to bereave
angladd - funeral

"...mi awn ni am dro bach yn ôl i'r Eisteddfod Genedlaethol. Mi glywon ni yn y podlediad diwetha fod trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, yn ymddeol ar ôl gwneud y gwaith am flynyddoedd maith. Cafodd Nia Lloyd Jones sgwrs efo Hywel am y cyfnod hwnnw, a gaethon ni wybod llawer iawn am be sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn yr Wyl. Yn ystod y sgwrs mae Hywel yn rhannu rhai o'r profiadau personol, anodd iawn, gafodd o yn yr adeg honno, a'r cymorth gaeth o gan ei ffrindiau a gan staff yr Eisteddfod... "

Geraint Løvgreen ar Enw'r Gân - Dic Penderyn

Ysgrifennydd Cartref - Â鶹ԼÅÄ Secretary
crogi - to hang
arweinydd - leader
llanc - young man
ymgyrch - campaign
arwyddo deiseb - to sign a petition

...a phob lwc i Hywel ar ei ymddeoliad ynde? Dau sydd wedi hen arfer ymddangos ar lwyfannau yr Eisteddfod Genedlaethol ydy Geraint Løvgreen a Meic Stevens. Buodd y ddau'n perfformio mewn cyngherddau roc, bach a mawr, dros y blynyddoedd. Yn y rhaglen gyntaf o gyfres newydd 'Geraint Løvgreen ar Enw'r Gân' buodd Geraint yn sgwrsio efo Meic Stevens am ei gân i Dic Penderyn. Os nad ydach chi wedi clywed am stori Dic, dyma i chi Meic yn rhoi ychydig o hanes trist y bachgen ifanc hwn...

Alex yn Galw - Jonathon Edwards

trefnydd angladdau - undertaker
ymwybodol - aware
llywodraeth - government
trafod - to discuss
gwleidyddiaeth ryngwladol - international politics
darogan - to forsee
ymerodraethol - Imperial
Cyngor ar Bopeth - Citizens Advice Burae
gwireddu - to fulfil
ymgeisyddiaeth - candidature

"Meic Stevens yn fan'na yn canu am hanes trist Dic Penderyn. Awn ni at gyfres newydd sbon rwan sef 'Alex yn galw'. Yn y gyfres hon mi fydd y gyflwynwraig Alex Jones , o'r One Show, yn ymweld â chartrefi nifer o Gymry enwog i gael sgwrs fach. Yn y rhaglen gynta aeth Alex i ymweld ag Aelod Seneddol Plaid Cymru, dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, yn ei gartref ym Mhenygroes, Cwm Gwendraeth. Dyma nhw'n trafod pryd dechreuodd diddordeb Jonathon mewn gwleidyddiaeth..."

Yma Wyf Innau i Fod - Dafydd Apalloni

ieuenctid - youth
agoriad llygad - eye opener
gwylltio'n gacwn (idiom) - to become very angry
agweddau - attitudes
Ail Ryfel Byd - Second World War
tlodi - poverty
newyn - famine
cefn gwlad - countryside
amaeth - agriculture
llawn bwrlwm - buzzing

"Jonathon Edwards yn fan'na yn dweud bod ei ddidordeb mewn gwleidyddiaeth wedi dechrau pan oedd o'n wyth oed. Does dim rhyfedd felly nagoes ei fod yn Aelod Seneddol erbyn hyn? Roedd hi'n amlwg o'r sgwrs bod Jonathon yn falch iawn o'i ardal enedigol. Ac ar 'Yma Wyf Innau i Fod' ddydd Iau mi glywon ni ddau o Ddyffryn Conwy Alun Tan Lan a Dafydd Apalloni yn sgwrsio am ardal Llanrwst, ardal sydd yn arbennig iawn i'r ddau ohonyn nhw. Ond yn y clip nesa 'ma mae'r sgwrs yn troi o Ddyffryn Conwy i'r Eidal ac i Baris. Sut hynny tybed? "

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cychwyn y Gynghrair Bêl-droed

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: 28 Awst 2013