Main content

Pigion i Ddysgwyr: 28 Awst 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.


Shan Cothi (rhaglen Iola Wyn) - GwarthegÌý

gwartheg - cattle
perthynas clos - close relationship
ffordd unigryw - unique way
creaduriaid - creatures
rhwyddach - haws
cwrdd â - cyfarfod efo
tarw potel - artificial insemination
da - gwartheg
beudy - cowshed
mo'yn tarw - needs a bull

"...efo gwartheg, neu a dweud y gwir efo enwau ar wartheg. Rwan dw i'n siwr os oes ganddoch chi gi neu gath eich bod chi wedi rhoi enw ar yr anifail. Ond be tasech hi'n ffermwr efo dros gant o wartheg? Ydach chi'n mynd i roi enw ar bob un? Roedd Shan Cothi yn cadw sedd Iola Wyn yn gynnes ddydd Llun. Ar ôl gwrando ar hen glip yn sôn am berthynas dyn ac anifeiliaid, cafodd Shan sgwrs efo Aneurin Davies am enwau gwartheg! Dyma i chi ran o'r sgwrs..."

Byd Iolo - Clawdd Offa

Wyt ti'n gall? - Are you mad?
tywynnu - shining
ffin - border
y Canolbarth - Mid Wales
Bannau Brycheiniog - Brecon Beacons
parhau - continuing
ar wahân - seperate
anghysbell - remote
mynachod - monks
igam ogam - zigzag

"...Dyna waith diddorol sy gan y bobl tarw potel ynde? A dwn i'm amdanoch chi, ond dwi'n gweld hi'n drist bod y ffasiwn o roi enwau ar wartheg yn dod i ben. Dydy rhifau ddim run peth rywsut, nac ydy? Dan ni'n aros yn yr awyr agored nesa efo clip bach o'r rhaglen 'Byd Iolo'. Dan ni'n mynd i glywed sgwrs rhwng Iolo williams a Dafydd Crabtree, sydd wedi bod ar daith gerdded ar hyd llwybr Clawdd Offa. 'Wyt ti'n gall?' oedd y cwestiwn ofynnodd Iolo wrth Dafydd yng nghanol y sgwrs. Be wnaeth iddo fo ofyn hynny tybed? "


Y Silff Lyfrau - Y Fedal Ryddiaith

rhyddiaith - prose
datgelu - to reveal
cysylltiadau cyfrin - cryptic connections
dadansoddi - to analize
tawelwch a llonyddwch - peace and quiet
yn drawiadol iawn - very striking
tranc yr iaith - the demise of the language
caethiwo - to entrap
dychmygol - imagined
edmygedd - admiration

Sgwn i gafodd Dafydd amser i ddarllen yn ystod y mis o law gaeth o yn Ebrill? Byddai angen dipyn o amser arno fo i ddarllen ‘Gwe o Glymau Sidan’ yn ôl cyfrannwyr 'Y Silff Lyfrau'. Dyma'r gyfrol enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Jane Jones Owen aeth â'r fedal, a dyma ydy ei llyfr cynta hi. Dan ni'n mynd i wrando ar dri yn rhoi eu barn nhw ar y gyfrol rwan sef Bethan Mair, Jenny Lyn, a Dafydd Morgan Lewis. Fel y cawn ni glywed maen nhw, hyd yn oed, yn meddwl bod rhaid darllen y storïau mwy nac unwaith i'w deall nhw'n iawn...


Dafydd a Caryl - Pobi

pobi - to bake
hynod o nerfus - extremely nervous
cyfweliad - interview
ymgeisio - to apply
plu - feather
rhagbrawf - preliminary session
anhygoel - incredible
atgofion melys - sweet memories
sylweddoli - to realise
cyngor - ice

"...a dyna ni, er bod angen ail-ddarllen y storïau, maen nhw'n swnio andros o ddiddorol yntydyn nhw? Cystadleuaeth hollol wahanol i orffen. Dach chi'n gwylio'r rhaglen ‘Great British Bake Off’? Mi fydda i'n gwneud yn bendant, ar ôl i ni gael gair ar raglen Daf a Caryl ddydd Llun efo Beca Lyne Perkins. Mae hi wedi llwyddo i fod yn un o’r cystadleuwyr ar y rhaglen, a hynny ar ôl i bymtheg mil o bobl drio. Erbyn hyn mae Beca yn y tri ar ddeg ola yn y gystadleuaeth. Da ynde? Gofynnon ni iddi hi oedd hi'n nerfus..."

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: 22 Awst 2013