Main content

Cynghrair y Cenhedloedd 2020

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

A dyna ni, ymgyrch newydd ar fin cychwyn gyda Chymru yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon, Bwlgaria a’r Ffindir yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Llwyddodd Cymru i guro’r Weriniaeth adref ac i ffwrdd yng nghystadleuaeth agoriadol y Gynghrair - gan weld buddugoliaeth swmpus a pherfformiad grymus a sicrhaodd fuddugoliaeth o bedair gôl i un yng Nghaerdydd, a dilyn hyn gyda buddugoliaeth arall o un gôl i ddim yn Nulyn.

Erbyn heddiw, mae Cymru wedi sefydlu ei hun yn yr unfed safle ar ddeg yn rhestr detholion FIFA tra mae’r Weriniaeth yn y drydydd safle ar hugain. Diddorol fyddai gweld os fydd blaenwr Casnewydd Pádraig Amond, yn cael ei gynnwys yng ngharfan y Gwyddelod; mae eisoes wedi chwarae unwaith i'w wlad, yn erbyn Gibraltar y llynedd.

Hwyrach y bydd y gemau yn llawer mwy agos nac o'r blaen, ond fe fydd chwaraewyr newydd, ifanc Cymru yn sicr o elwa o’r profiad, ac yn awyddus iawn i barhau gyda'u datblygiadau rhyngwladol i'r dyfodol.

Daw’r Ffindir i'r gystadleuaeth fel tîm arall sydd wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2020, ble byddant yn wynebu Denmarc, Rwsia a Gwlad Beg a bydd y gemau yma yn sir o roi profiad gwerthfawr iddynt cyn symud ymlaen i gemau Cynghrair y Cenhedloedd yn yr Hydref. Does dim dadlau mai’r blaenwr Teemu Pukki ydi seren y tîm, blaenwr sydd wedi tynnu sylw iddo'i hun gyda Norwich y tymor yma, ac fe fydd angen ei gadw'n dawel os am lwyddiant.

Y drydedd wlad sydd i wynebu Cymru ydi Bwlgaria, sydd heb brofi unrhyw fath o lwyddiant yn ddiweddar ac wedi llithro i'r pum deg nawfed safle yn netholion FIFA.

Mae bron pob un o'r garfan yn chwarae i dimau o fewn eu gwlad, a'r unig un i chwarae i dîm o fewn y Deyrnas Unedig ydi’r golwr Dimitar Evtimov sydd yn aelod o glwb Accrington Stanley.

Felly, fe ddylem fod yn optimistaidd wrth ystyried carfan Cymru o'i gymharu â'r gweddill. Fodd bynnag, rhaid cropian cyn rhedeg; mae’r Ewros i ddod gyntaf!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Jordan Hadaway, rheolwr ifanc Caerwys

Nesaf

Geirfa Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr