Main content

Jordan Hadaway, rheolwr ifanc Caerwys

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Nid rhywbeth arferol ydi cael eich gwahodd i weithio fel hyfforddwr i Real Madrid. Ond dyna’r hyn ddigwyddodd i hyfforddwr ifanc o Dreffynnon yn ddiweddar.


Yn wythnosol, rheolwr tîm pêl droed Caerwys yn uwch gynghrair gogledd ddwyrain Cymru ydi Jordan Hadaway, ac mae eisoes wedi tynnu sylw wrth iddo gael ei enwebu fel y rheolwr ieuengaf ar dîm pêl droed chwaraewyr hÅ·n.


Myfyriwr yn y brifysgol yn Lerpwl yw Jordan, sy’n hyfforddi Caerwys ganol wythnos ac yn y gemau ar ddydd Sadwrn. Yna, yn dilyn ymweliad a chyfres o ddarlithoedd a sesiynau hyfforddi yng nghanolfan ymarfer Real Madrid yn Sbaen, cafodd Jordan wahoddiad i fod yn aelod o’r staff ar lefel rhan amser gyda’r bwriad o gynnal cyrsiau hyfforddi ar ran y clwb yn y Deyrnas Unedig.


Tipyn o fraint yn enwedig felly o ystyried y bydd yn cynnal cyrsiau i chwaraewyr ifanc, yn union fel y mae cyn sêr y clwb, fel Raul, Alvaro Arbeola a Roberto Carlos yn ei wneud yn barod! Llongyfarchiadau i Jordan Hadaway, a phob dymuniad da iddo yn ei fenter newydd, a hefyd yn ei gwrs ym Mhrifysgol Hope, Lerpwl mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon, yn ogystal ag astudio agweddau addysgol at gyfer disgyblion ac anghenion arbennig .

Viva Hadaway, Viva Hadaway!
Hala Madrid!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 5ed o Chwefror 2020

Nesaf

Cynghrair y Cenhedloedd 2020