Main content

Pel-droed ac ystadegau

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Flynyddoedd yn ôl roedd y ffilm ‘One Flew over the Cuckoos’ Nest’ yn canolbwyntio’n ffraeth ar sut yr aeth criw o gleifion gyda phroblemau iechyd meddwl ati i geisio meddiannu eu hysbyty  er mwyn sicrhau gwell safon o fywyd iddynt eu hunain. 

Daw'r ffilm i’m cof yn aml pan welaf rhai o’r mentrau arloesol a newydd yn digwydd o fewn y byd pêl droed.

Un o’r symudiadau mwyaf cyfoes ydi gweld y mathemategwyr yn ceisio rhedeg y gêm. Na nid drwy benderfynu gwerth chwaraewr wrth ei drosglwyddo (er y gallai hyn fod yn rhan o'r fenter) ond drwy ddefnyddio ystadegau i geisio arwyddo chwaraewyr newydd, ac yn sgil hyn gwella perfformiadau eu tîm.

Tra mae gobeithion cefnogwyr y Wrecsam yn uwch y tymor yma nag a fu ers peth amser, rhaid bod yn wyliadwrus rhag meddwl fod neb arall gyda’r un deheuad.

Ymddengys mai un o’r timau y bydd angen i Wrecsam a’r gweddill i'w goresgyn os am lwyddo'r tymor yma ydi Forest Green Rovers sydd wedi ei leoli ym mhentref Nailsworth yn sir Gaerloyw.

Mae’r tîm yma eisoes wedi gosod record newydd drwy gadw eu lle yn y Gynghrair Genedlaethol yn hirach nag unrhyw dim arall, ond maent yn fodlon cyfaddef mai brwydro i aros yn hytrach na chystadlu am ddyrchafiad fu y rhan fwyaf o’u tymhorau.

Y tymor yma mae pethau yn llawer gwell. Yn dilyn rhediad a welodd y Rovers yn ennill eu naw  gem agoriadol, sydd wedi rhoi record newydd i'r gynghrair, mae Forest Green yn edrych fel bygythiad go iawn i holl dimau'r Gynghrair Genedlaethol,

Ond dilyn ffordd arloesol a mathemategol o geisio cyflawni llwyddiant mae Forest Green.

Gwneir hyn drwy ddefnyddio profiad byd busnes eu cadeirydd, Dale Vincent, trwy fabwysiadu dulliau dadansoddi ystadegol a mathemategol gaiff eu gweithredu ganddo yn y diwydiant masnachu egni fel sail i adnabod pa chwaraewyr i’w harwyddo er mwyn gwella’r tîm.

Mae‘r drefn yma yn adlewyrchu’r dull a ddefnyddiwyd ym myd y gêm pêl fas yn yr Unol Daleithiau, ac a gafodd sylw yn y llyfr ‘Moneyball’ wrth i dîm yr Oakland A’s o dan eu rheolwr Billy Beane, gipio pencampwriaeth y byd drwy arwyddo chwaraewyr ar sail eu galluoedd gafodd eu dehongli drwy ddadansoddiad o wybodaeth gyfrifiadurol.

Caiff y dull yma hefyd ei ddefnyddio gan glwb pêl droed Brentford yn y Bencampwriaeth, a Midtjylland yn Denmarc, tra mae Billy Beane wedi cael ei gyflogi gan glwb AZ Alkmaar yn yr Iseldiroedd fel ymgynghorydd am y tymor yma. 

Ymddengys for  Forest Green yn defnyddio medrau dadansoddi cwmni trydan y cadeirydd ar gyfer masnachu a phrynu chwaraewyr, ac mae’r cychwyn mae’r tîm wedi ei gael i'r tymor yn awgrymu fod y dull yna yn cael effaith gadarn ar ddechrau’r tymor.

Eu dull ydi didoli hanes chwaraewr yn hanesyddol, o fewn y gemau mae wedi ei chwarae, gan adnabod cryfderau a gwendidau. Mae’r clwb wedi arwyddo pum chwaraewr newydd ar gyfer y tymor yma, wedi cryfhau staff cynorthwyo'r clwb, a gwella’r adnoddau yn gyffredinol.

Mae’r cadeirydd hefyd wedi cynnwys bwyd iach ar gyfer lluniaeth y cefnogwyr (bwyd llysieuol) a hefyd wedi gosod cae hollol organig ar eu stadiwm yn y New Lawn (y cyntaf yn y byd), gan ddefnyddio gwrtaith gwartheg i'w gynnal!  - rhywbeth a gafodd ei ragweld gan Dafydd ap Gwilym efallai:- “ Boed iddo yn ei law lwyth; O faw diawl; ef a'i dylwyth' !

Ta waeth, yn ogystal â’r baw barddonol yma, mae deg y cant o drydan y stadiwm yn cael ei gynhyrchu gan baneli haul. Hefyd, mae’r chwaraewyr wedi eu gwahardd rhag bwyta cig coch a does ond cynnyrch “vegan” ar werth i’r cefnogwyr yn ystod y gemau. Yn ogystal â hyn oll, mae yna gynlluniau ar y gweill i adeiladu stadiwm a hefyd  adnoddau chwaraeon newydd sydd yn mynd i gostio can mil o bunnau.

Fodd bynnag,  tra mae Forest Greeen yn ymfalchïo ar y cychwyn da i’w tymor, tydi pethau ddim mor llewyrchus yn yr Iseldiroedd, gan i AZ Alkmaar ennill ond eu gem gyntaf (o bump) y Sadwrn diwethaf tra mae Brentford yn gorwedd yn yr unfed safle ar hugain yn y Bencampwriaeth ac fel Alkmaar, ond wedi ennill unwaith y tymor yma hyd yn hyn!

Ond o leiaf mae  Midtjylland wedi llwyddo i ddringo i frig cynghrair Denmarc.

Felly, o ystyried y darlun ehangach, a’i rhyw geidwad i’r colledig ydi’r drefn gyfrifiadurol newydd, neu a ydi’r mathemategwyr a’r ystadegwyr wedi cymryd y clybiau a’r gêm drosodd er mwyn sicrhau gwell safon o chwaraewyr a fyddai’n arwain at lwyddiant ddiwedd tymor?

Ar y llaw arall, a’i dim byd gwell na llond trol o gelwyddau, celwyddau damniol ac ystadegau ydi ymyrraeth yr ystadegwyr a mathemategwyr o fewn y byd pêl droed ? 

Byddwn lawer callach erbyn diwedd y tymor.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf