Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 08/09/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Bore Cothi - Ellen Williams

cyfansoddwraig - female composer
perthynas - relationship
mo'yn - eisiau
Gweddi Pechadur - A Sinner's Prayer
parhau - to continue
uniaethu - to empathise
prydferth - pretty
ymdopi - to cope
dwlu ar - hoffi yn fawr
creadigol - creative

Gŵyl Ymylol, neu 'Fringe' enwog Caeredin. Mae dros fil o sioeau’r dydd yn cael eu perfformio yn yr ŵyl hon, ac un ohonyn nhw eleni oedd y sioe ‘I Loved You And I Loved You' oedd yn cael ei pherfformio gan y soprano Ellen Williams. Sioe oedd hon am fywyd y gyfansoddwraig Morfudd Llwyn Owen fuodd farw’n ifanc iawn, yn ddauddeg chwech oed. Dyma’r tro cyntaf i Ellen fynd i Gaeredin ac ar ôl perfformio'r sioe naw gwaith mi wnaeth hi hedfan yn ôl i Gaerdydd i ddweud yr hanes wrth Shan Cothi ddydd Mawrth...

Rhaglen Dylan Jones - Dr Sabine Asmus

Yr Ail Ryfel Byd - The Second World War
trafod - to discuss
brifo - to hurt
anesmwyth - uncomfortable
drwgdeimlad - illfeeling
gweithredu - to act upon
cywilydd - shame
esgusodi - to excuse
manteisiol - advantagous
yr ugeinfed ganrif - the twentieth century

Ellen Williams yn fan'na yn amlwg wedi mwynhau'r profiad o berfformio yng Nghaeredin. Yn ystod yr wythnosau diwetha dan ni wedi gweld effeithiau trist y rhyfeloedd yn Syria a Libya bob dydd ar dudalenau blaen y papurau newydd, ac ar ein rhaglenni newyddion. A hyn ar adeg pan oedden ni'n cofio'r diwrnod daeth yr Ail Ryfel Byd i ben, ar yr ail o Fedi Mil Naw Pedwar Pump. I nodi'r dyddiad hwn mi gafodd Dylan Jones sgwrs efo'r Dr Sabine Asmus sydd yn byw yn Berlin, ac roedd ganddi stori ddiddorol iawn i'w dweud am ei thaid. Buodd taid Sabine, Gunther, yn ymladd dros fyddin yr Almaen ar ddechrau’r Rhyfel, cyn iddo newid ochr ac ymuno â Byddin Goch Rwsia. Pam wnaeth o hynny tybed? Dyma oedd gan Sabine i'w ddweud...

Rhaglen Dylan Jones - Mascot

agweddau - attitudes
cyfryngau cymdeithasol - social media
syllu - staring
bobol bach - goodness me
cyfle - opportunity
cwrdd â - cyfarfod efo
deutha ti - dweud wrthot ti
paid â sôn - you don't say!
dychryn - to scare
penderfyniad - decision

Dr Sabine Asmus yn fan'na yn sôn am ei thaid ac am agweddau pobl yr Almaen tuag at yr Ail Ryfel Byd. Roedd dydd Sul ola fis Awst yn ddiwrnod arbennig iawn i un o ffans tîm pêl-droed Abertawe. Roedd Tomos Bryn Griffiths, sydd yn naw oed, wrth ei fodd pan gofynwyd iddo fo fod yn fascot i dim pêldroed Abertawe yn y gêm yn erbyn Manchester United. Ac nid yn unig enillodd y Swans y gêm o ddwy gôl i un, ond cafodd lluniau o Tomos eu dangos o gwmpas y byd ar y teledu a’r cyfryngau cymdeithasol, ar ôl iddo syllu’n geg agored ar Wayne Rooney yn y twnel cyn dechrau’r gêm. Mi gawn ni wybod pam yn y clip nesa ma...

Tra Bo Dau - Robbie McBride ac Osian Roberts

hyfforddwr - coach
cyfrinach llwyddiant - the secret of success
gallu cynhenid - inherent ability
anhebgor - indispensible
cystadleuwr brwd - keen competitor
brwydr - battle
corfforol - physical
gwthio'r llinell i'r eithaf - pushing the line to the extreme
dyfarnu - to referee
waeth i mi - I might as well

Wel, fydd Tomos Bryn Griffiths byth yn anghofio'r diwrnod hwnnw, na fydd? Sgwn i oedd Tomos yn stadiwm Caerdydd ddydd Sul i weld Cymru yn chwarae yn erbyn Israel yng Nghwpan pêl-droed Ewrop? Mi allai'r misoedd nesa 'ma fod yn rhai llwyddiannus iawn i dimoedd Cymru, rhwng gêmau Cwpan pêl-droed Ewrop a Chwpan Rygbi'r Byd. Ond y tu ôl i bob tîm llwyddiannus wrth gwrs mae yna dîm o hyfforddwyr. Ond be sy'n gwneud hyfforddwyr a chwaraewyr llwyddiannus? Dyna ofynnodd Nia Roberts i Robbie McBride ac Osian Roberts ar y rhaglen Tra Bo Dau. Mae Robbie yn rhan o dîm hyfforddi tîm Rygbi Cenedlaethol Cymru ac Osian yn rhan o dîm hyfforddi tîm Pêldroed Cymru. Be ydy cyfrinach llwyddiant tybed?...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Pel-droed ac ystadegau