Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Mai 6, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Dylan Jones - Dringo'r Wyddfa

dringo'r Wyddfa - climbing Snowdon
hyd yma - up to now
profiad - experience
joio mas draw - mwynhau yn fawr
cael sbri - cael hwyl
ddim yn ffôl - ddim yn ddrwg
copa - summit
cadw'r ddysgl yn wastad (idiom) - to be fair
meithrin disgyblaeth - to nurture discipline
sibrydion - rumours

...buodd athrawon a phlant Ysgol Llanddarog yn Sir Gaerfyrddin yn dringo'r Wyddfa yr wythnos diwetha. Mae hyn yn rhywbeth maen nhw'n ei wneud yn flynyddol, ers nifer fawr o flynyddoedd erbyn hyn. Yn Rhyd-ddu oedd pawb yn aros, efo rhai o'r plant yn cysgu mewn gwlau bync a rhai eraill yn cysgu mewn pabell. Cyn iddyn nhw ddringo’r Wyddfa mi gafodd Dylan Jones sgwrs efo'r prifathro, Mr Rees ac efo dau o'r plant, Mari ac Owen o flwyddyn chwech yr ysgol. Fel cawn ni glywed roedden nhw llawn cyffro...


Dylan Jones - Segontium

amgueddfa - museum
Caer Rufeinig - Roman Fort
cynghorydd lleol - local councillor
pafin - palmant
ffynnon - well
tlawd - poor
cyfoethog - rich
ardal ddifreintiedig - deprived area
hybu - to promote
adnoddau - resources

Plant hyfryd Ysgol Llanddarog yn fan'na, a gobeithio ynde eu bod nhw wedi cael taith dda a diogel i gopa'r Wyddfa. Ychydig filltiroedd i ffwrdd o Ryd-ddu a'r Wyddfa mae tref Caernarfon. Yno mae yna amgueddfa a chaer Rufeinig o'r enw Segontium. Newydd ail-agor mae'r amgueddfa ac mi aeth Alun Rhys draw i Gaernarfon i gael sgwrs efo'r cynghorydd Anita Kirk ac efo Trystan Jones o Cadw am bwysigrwydd y gaer i'r hen dre...


Dylan Jones - Star Wars

wedi gwirioni - infatuated
gofod - space
cymeriadau - characters
diweddglo - ending
undod pwrpas - unity of purpose
callach - wiser
ail-greu cyfres - to recreate a series
trugareddau - knick-knacks
y sedd flaen - the front seat
dipyn o achlysur - quite an occasion

Y Cofis yn fan'na wedi gwirioni efo'r amgueddfa newydd. Ond wedi gwirioni efo ffilmiau Star Wars mae Dylan Williams o Lanfairpwll. Mae Dylan wedi bod â diddordeb yn y ffilmiau yma ers pan oedd o'n blentyn. Mae o'n edrych ymlaen yn arw at y ffilm Star Wars newydd fydd i'w gweld y flwyddyn nesa. Gofynnodd Dylan Jones iddo fo be oedd mor arbennig am y ffilmiau hyn...


Geraint Lloyd - Trystan Williams

olwyn - wheel
tu fas - outside
cystadlu - competing
bwys - near
y gyfrinach - the secret
hopo fo mewn - pop it in
becso - poeni
tasgu - to start (jerk)
dolur - injury

Y ddau Dylan yn fan'na, Dylan Jones y Â鶹ԼÅÄ a Dylan Williams o Lanfairpwll yn sgwrsio am Star Wars. Mi ddechreuon ni'r podlediad yma efo plant Ysgol Llanddarog, a dan ni'n mynd i orffen efo sgwrs gyda un arall o blant Sir Gaerfyrddin. Tro 'ma Trystan Williams o Gwmann sydd yn unarddeg oed, fuodd yn siarad efo Geraint Lloyd am ei ddiddordeb mawr mewn rasio math arbennig o feic modur. Dyma Trystan yn esbonio be yn union ydy "motocross"...

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ffeinal Cwpan Cymru

Nesaf