Main content

Ffeinal Cwpan Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Petai Aberystwyth wedi dod i gredu na fyddant byth eto yn cipio Cwpan Cymru, hawdd fyddai deall y gosodiad yna. Ar ôl mynd ar y blaen gyda dwy gol gynnar, o fewn y chwarter awr agoriadol, llithrodd popeth o’u gafael gan weld y Seintiau Newydd yn mynd un yn well yn y chwarter awr olaf a chyflawni’r dwbl am yr ail waith mewn tri thymor.

Tipyn o gamp i fod yn deg i'r Seintiau!Ìý Ond Aber druan. Enillwyd y gwpan am yr unig dro yn eu hanes pell pell yn ôl yn 1900, mewn cyfnod pan oedd y chwedlonol Leigh Richmond Roose yn y gôl iddynt, curo’r Derwyddon o dair gôl i ddim.

Ond y Sadwrn diwethaf, doedd dim lwc.

Wedi dweud hynny, anghywir fyddai cyhuddo’r Seintiau o ennill y gwpan gyda lwc. Dangoswyd cymeriad, awch a’r gallu sydd wedi sicrhau tlws ar ôl tlws dros y blynyddoedd. Hwyrach fod angen cic o'r smotyn chwarter awr cyn y diwedd i godi gobaith, ond gyda chefn Aberystwyth yn erbyn y wal bron drwy gydol yr ail hanner, unwaith y daeth y Seintiau yn gyfartal, roedd eu troed ar y sbardun a daeth y gôl fuddugol o droed Mike Wilde dri munud cyn y diwedd.

Fe all Aberystwyth gysuro’u hunain drwy wybod eu bod eisoes wedi cymhwyso ar gyfer Ewrop a bydd yna hen edrych ymlaen am y gystadleuaeth yma ar drothwy’r tymor nesaf.

Yn ogystal mae Aber hefyd wedi dangos fod ganddynt y gallu a’r ddisgyblaeth i gystadlu yn fwy cyson yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf, a byddaf yn disgwyl eu gweld yn brwydro am y bencampwriaeth yrÌý adeg yma’r flwyddyn nesaf.

I'r Haf felly, egwyl fer i Aber a’r Seintiau cyn edrych ymlaen at wybod pwy fyddantÌý yn eu wynebu ar y cyfandir cyn hir.

Diolch am gêm gyffrous, a hynny o flaen torf o dros fil ar Gae Ras Prifysgol Glyndŵr.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Bwrw Golwg: Yn y Gwaed?

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Mai 6, 2014