Main content

Siart Fawr Yr Haf

Richard Rees

Cyflwynydd

Llongyfarchiadau “pop pickers” Cymru ar ddewis chwip o siart diddorol a chyfoes ar gyfer Haf 2014. Roedd mwy na 1500 ohonnoch wedi pleidleisio ac wedi enwebu 500 o ganeuon.

Un o’r pethau hynod o ddiddorol oedd y nifer o fandiau newydd ac ifanc sydd wedi ennill eu lle yn y siart. Roedd yn braf iawn gweld enwau Swnami, Y Bandana a Catrin Herbert yn ymddangos mwy nag unwaith. Yr Eira yn cyrraedd rhif undeg wyth gyda’r gan Elin, a Bromas yn swatio o fewn cyrraedd y deg uchaf yn rhif unarddeg gyda Merched Mumbai. Hefyd, Candelas yn cyrraedd rhif saith gyda’r gan “Anifeiliaid”.

Yn dilyn llwyddiant nifer fawr o’r bandiau ifanc yma yn Eisteddfod Sir Gar eleni, ac ymateb brwdfrydig y gynulleidfa ifanc, mae’n edrych yn debyg fod yr SRG yn profi dipyn o ddadenni yn 2014.

Richard Rees a Siart Mawr yr Haf

Fel y byddem yn disgwyl efallai, mae nifer o’r hen ffefrynnau, y clasuron, yn ymddangos ar draws y siart. Mae Bryn Fon yn ymddangos bedair gwaith, Dafydd Iwan dair gwaith a Caryl Parry Jones yn ymddangos ddwywaith, unwaith yn unigol ac unwaith gyda Bando. Mae yna le hefyd i nifer o’r hen ffefrynnau, Lleucu Llwyd y Tebot Piws, Tecwyn Ifan y Dref Wen a Geraint Jarman a’i Ethiopia Newydd.

Ond pan ydyn ni’n cyrraedd y deg uchaf, y caneuon bytholwydd sydd ar y cyfan wedi cyrraedd y brig, sydd yn awgrymu naill ai bod cynulleidfa mwy draddodiadol Radio Cymru wedi bwrw mwy o bleidleisiau, neu, efallai, bod apel y caneuon bytholwyrdd yma eang iawn eu hapel gan ymestyn ar draws sawl cenhedlaeth.

Heblaw am Candelas mae bob un o’r lleill wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd ac yn amlwg wedi wedi gwneud argraff ddofn ar galon gerddorol y Genedl. Ac nid oedd hi’n syndod gweld Dafydd Iwan ar y brig yn rhif 1.

Mae Yma O Hyd wedi lleisio teimladau a balchder cymaint o bobl yng Nghymru dros y blynyddoedd roedd hi bron yn anorfod y byddai hi’n ennill ei phlwy ar y brig neu oleuaf yn un o safleoedd ucha’r siart.

Rhaid cofio hefyd fod Eisteddfod Sir Gar eleni wedi ei chynnal yn Llanelli, ac Yma O Hyd yw’r gân sy’n cael ei chwarae ar Barc y Scarlets bob tro bydd y tim cartre yn sgorio cais. Felly, mae’n siwr bod nifer fawr o gefnogwyr selog y Scarlets wedi bwrw eu pleidlais o blaid y gân!

Wrth edrych ar y siart yn ofalus mae nifer o enwau amlwg y byddem wedi disgwyl eu gweld yn y 40 Uchaf ddim yn bresennol. ‘Does dim son am Fflur Dafydd, Gildas nag Ail Symudiad. Nid oes un o ganeuon y Trwynau Coch, Eliffant na Hergest yn y siart, a dim ond un o ganeuon Geraint Jarman. Ond effallai bod nifer o’r artistiaid yma wedi cael eu hunain yn yr un sefyllfa â’r Al Lewis Band. Er nad oes un o ganeuon yr Al Lewis Band yn ymddangos yn y siart fe enwebwyd 12 o ganeuon y band. Yn anffodus, ni chafodd un o’r deuddeg ddigon o bleidleisiau i ennill ei lle yn y siart. Efallai bod gan Fflur Dafydd, Gildas, ar lleill sy’n cael eu henwi uchod, gymaint o ganeuon da bod hynny wedi rhannu’r bleidlais yn ormodol gan olygu na chafodd un o’r caneuon ddigon o bleidleisiau i gyrraedd y siart.

Diolch i bawb a bleidleisiodd am wneud mor ddiddorol a mor berthnasol. Mae’r rhestr yn sicr yn adlewyrchu ddiddordeb cynulleidfa Radio Cymru yng ngherddoraieth canu cyfoes cymraeg ac yn datgelu nifer o bethau diddorol am ei’n chwaith cerddorol cyfoes ni fel cenedl yn 2014.

Edrychaf ymlaen yn eiddgar ar ganlyniadau

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf