Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Awst 26, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Aled Hughes - Lloyd Antrobus

gwirfoddoli - to volunteer
gwarchodfa natur - nature reserve
addysgu - to educate/teach
prin - scarce
sefydlu - to establish
rhan amlaf - usually
potsio - to poach
twristiaeth - tourism
aruthrol - stupendous

....mi awn ni draw i Swaziland. Aled Hughes gafodd sgwrs ddiddorol efo Lloyd Antrobus am ei brofiad yn gwirfoddoli mewn gwarchodfa natur yn Ne Affrica. Mae Lloyd yn gweithio ar brosiect cyffrous sy'n addysgu plant a phobl ifanc am yr anifeiliaid prin sydd yn y warchodfa.

Ìý

Shan Cothi - Iestyn Garlik

caib - pick
cyflwynydd - presenter
hynt a helynt - goings-on
mewn gwirionedd - actually
tyllu - to dig a hole
colbio - to knock
addas - appropriate
ysbrydoli - to inspire
gosodiad - statement

Lloyd Antrobus yn fan 'na yn sôn am ei waith gwirfoddol yn Swaziland. Ac o weithio efo anifeiliaid prin i weithio efo caib yr awn ni nesa'. Dan ni'n nabod Iestyn Garlick fel actor, cerddor a chyflwynydd teledu, ond pan oedd o'n ifanc ac yn gweithio yn ystod gwyliau'r ha', caib ac nid meicraffon oedd gynno fo yn ei law. Dyma Shan Cothi yn ei holi am hynt a helynt y gwaith.

Ìý

Aled Hughes - Sian Beca

swydd - job
delfrydol - ideal
cyfuno - combine
hen betha' - antiques
basn - powlen
etifeddu - to inherit
aduniad - reunion
delwedd - image
traddodiadol - traditional
llieiniau bwrdd - tablecloths

Iestyn Garlick yn fan 'na'n sôn am un o'i swyddi cynta'. Rwan, tasech chi'n gofyn i mi be' fysa fy swydd ddelfrydol i, mae'n debyg mai ______ fysa honno. Wel, mae'r actores Sian Beca wedi llwyddo i gyfuno ei diddordeb mawr mewn hen betha' gyda choginio i sefydlu busnes te pnawn o'r enw 'Siwgr Lwmp'. Daeth Sian i'r stiwdio fore Iau i sôn am ei busnes newydd. Rhybudd iechyd i chi - mae 'na lot o drafod ar fwyd blasus iawn yn y clip nesa' ma, ac erbyn y diwedd mae'n debyg y byddwch chi ffansi paned a 'scone'!

Ìý

Tra bo dau - Nos Lun - Mici Plwm

diddanwr - entertainer
hen law - veteran
atgofion - memories
cartref plant - children's home
trysorau - treasure
salwch meddwl - mental illness
chwarelwr - quarryman
cyfoedion - peers
celpan - slap
pres pocad - pocket money

Mae'r actor a'r diddanwr Mici Plwm yn hen law ar wneud i bobl a phlant chwerthin. Yn ystod yr wythdegau a'r saithdegau roedd o'n enwog am actio'r cymeriad Plwmsan gan ddiddanu miloedd o blant efo'i 'catchphrase' - "O, Wynff!!". Er i Mici wneud llawer o blant yn hapus, yn eironig iawn, plentyndod anodd iawn gafodd o yn Llanffestiniog. Dyma Nia Roberts yn holi Mici am ei atgofion.

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Siart Fawr Yr Haf

Nesaf

Ar Y Marc: Groundhoppers yng Nghymru