Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 05/10/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Dewi Llwyd - Brynmor Williams

cais - a try
eilydd - substitute
yr asgell - the wing
mewnwr - scrum half
sylwebaeth - commentary
cyfraniad - contribution
blaenwyr - forwards
dathlu - celebrating
dagrau - tears
deche - da iawn

...wel be arall - Cwpan Rygbi'r Byd wrth gwrs. Ac roedd yna gyffro mawr yr wythnos diwetha yn doedd, efo Cymru'n mynd trwyddo i'r wyth ola ar ôl curo Fiji ac ar ôl i Awstralia guro Lloegr. Ond doedd dim i guro cyffro'r gêm rhwng Cymru a Lloegr y ddydd Sadwrn cynt. Y bore ar ôl y gêm honno, buodd tad Lloyd Williams, sef Brynmor Williams, yn siarad ar raglen Dewi Llwyd. Roedd Lloyd wedi dod ymlaen fel eilydd ac mi wnaeth o chwarae rhan bwysig iawn yng nghais tîm Cymru. Roedd rhaid i Lloyd chwarae ar yr asgell er mai mewnwr ydy o fel arfer. Ciciodd o'r bêl ar hyd y llawr i Gareth Davies sgorio'r cais. Roedd Brynmor yn llawn emosiwn wrth siarad am y gêm gyda Dewi Llwyd.

Tacl Hwyr Tudur Owen - rygbi eto!

cell cosb - sin bin
trechu - to beat
cyfuno - to combine
brenhinol - royal
rhwym - constipated
tîn - pen ôl (back-side)
gelyniaeth - rivalry
canmol - praise
awyddus - keen
tad-cu a mam-gu - taid a nain

I aros gyda rygbi, roedd Tudur Owen a'i griw yn dal i ddathlu llwyddiant Cymru y dydd Iau ar ôl y gêm yn erbyn Lloegr! Tudur oedd y cwisfeistr ar raglen Tacl Hwyr Tudur Owen, ac mi gafodd y rhaglen ei recordio yn Nghlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn. Y panelwyr oedd yr athletwraig Non Evans, y sylwebydd rygbi Wyn Griffith, y bardd Ceri Wyn a’r cyn chwaraewr rygbi John Davies. Roedd llawer o chwerthin yn y stiwdio wrth i’r panelwyr ddathlu’r llwyddiant unwaith eto...

Ddoe a Heddiw - FWA

chwedl - a myth
Byddin Rhyddid Cymru - Free Wales Army
gelynion - enemies
symbylydd - catalyst
hollol ddidwyll - totally sincere
cenedlaetholdeb - nationalism
hanner o ddifrif - half serious
arweinydd - leader
llefarydd - spokesman
dawn - talent

Dyna ddigon am y rygbi am wythnos arall, ond mae hi'n gyffrous yn tydy? Yn y gyfres Ddoe a Heddiw mae Dylan Iorwerth yn cymharu digwyddiadau hanesyddol efo be sy’n digwydd yng Nghymru y dyddiau hun. Yr wythnos yma mi fuodd o'n dweud hanes y Free Wales Army a Mudiad Amddiffyn Cymru. Buodd y ddau fudiad yma'n protestio ac yn gosod bomiau yn ystod y chwedegau. Roedd Dylan yn gofyn a ydy adeg y protestio wedi dod i ben yng Nghymru. Arweinydd yr FWA oedd Caio Evans ac arweinydd Cymdeithas yr Iaith ar yr un pryd oedd Dafydd Iwan. Doedd Dafydd Iwan ddim yn cytuno gyda dulliau Caio Evans, ond mae'n cofio sawl stori ddiddorol amdano fo...

Rhaglen Dylan Jones - Rownd a Rownd

cancr y ceillion - testicular cancer
caill - a testicle
yr holl driniaeth - all the tratment
yr holl gyngor - all the advice
y teimladau a'r profiadau - the emotion and the experience
amryddawn - versatile
cefnogaeth - support
datblygu - to develop
datgelu - to reveal
yn dirywio - deteriorating

Hanes Cayo Evans yn fan'na gan Dafydd Iwan. Dach chi'n gwylio Rownd a Rownd ar S4C? Mae hi'n rhaglen boblogaidd iawn efo plant ac oedolion ac mae mae hi'n rhaglen sy'n fodlon delio efo pynciau anodd. Ar hyn o bryd mae’r cymeriad Barry Hardy wedi cael clywed bod canser y ceilliau arno fo. Dyma i chi Gwion Tegid, yr actor sy’n chwarae rhan Barry, yn dweud sut yr aeth ati i baratoi ar gyfer y rhan. Mi gafodd o help Hywel Roberts sydd wedi diodde o ganser y ceilliau ei hun, a buodd y ddau'n dweud mwy wrth Dylan Jones ar ei raglen ddydd Mawrth...

Mwy o negeseuon

Nesaf

Ymadawiad Brendan Rodgers o Lerpwl