Main content

Gŵyl arloesol Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru i ddathlu trysor T Llew Jones

Newyddion

Bydd Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru yn dathlu bywyd a chyfraniad y nofelydd a’r bardd T Llew Jones gyda gŵyl arloesol o gwmpas canmlwyddiant ei eni ar Hydref 11 eleni.

O sgyrsiau archif a darlleniadau lle cawn glywed llais T Llew ei hun, i gyfleoedd i rannu atgofion amdano a’i waith, a thrafodaethau ar rai o’r pynciau oedd yn themâu pwysig iddo, bydd yr ŵyl yn un hynod o amrywiol o ran ystod y cynnwys.

Dywed Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru, bod un o syniadau’r orsaf i ddathlu cyfraniad y gŵr a ddisgrifiwyd fel eicon a thrysor cenedlaethol eisoes yn mynd o nerth i nerth.

“Roedd T Llew Jones yn storïwr heb ei ail,” meddai Betsan Powys, “a dyna pam ein bod ni nid yn unig yn cynnal yr ŵyl hon i ddathlu ei eni ganrif yn ôl - dyna hefyd pam y penderfynon ni ddechrau darlledu Stori Tic Toc o ddechrau’r flwyddyn eleni - sef stori i blant bach bob nos Sul am saith, ar y cyd hefo Cyw ac S4C. Pa well ffordd i gofio un o hoff storïwyr Cymru na chreu straeon newydd yn Gymraeg ar gyfer y plant?

“Rwy’n falch ofnadwy bod un o’n syniadau ni i ddathlu cyfraniad T Llew eisoes wedi gafael yn nychymyg y gwrandawyr - mae’r rhaglen yn gyson yn y 3 uchaf o ran lawrlwytho, ac rydyn ni a chriw Cyw yn gobeithio mynd gam ymhellach a chynnig cyfrol newydd a CD yn y gwanwyn, trwy gyd-weithrediad â Chyngor Llyfrau Cymru a Gwasg Gomer.”

Bydd dewis y gwrandawyr hefyd yn un o gonglfeini eraill yr ŵyl. Trysor Plasywernen ddaeth i’r brig mewn pleidlais a gynhaliwyd ar y cyd â’r Cyngor Llyfrau am hoff nofel gan T Llew Jones yn gynharach eleni. Bydd darlleniadau o’r nofel yn cael eu darlledu yn Llyfr Bob Wythnos yn ystod Bore Cothi bob bore o ddydd Llun i ddydd Gwener, Hydref 12-16.

Bydd cyfle hefyd i fwynhau dau addasiad cerddorol newydd o un o gerddi mwyaf poblogaidd T Llew, Cwm Alltcafan. Bydd fersiwn newydd gan Gai Toms yn cael ei chwarae’n rheolaidd fel Trac yr Wythnos, a bydd fersiwn arall hefyd i’w chlywed gan y ddeuawd samplo electronig, Carcharorion.

Un arall o uchafbwyntiau’r ŵyl fydd cyfle i fwynhau - os mai dyna’r gair priodol - tair o straeon arswyd T Llew Jones o Hydref 9 i’r 11, yn ystod rhaglenni hwyr y penwythnos.

“Mae angen i ni werthfawrogi ac anrhydeddu ein hawduron,” meddai Betsan Powys, “a dyna pam bod Radio Cymru yn cynnal yr ŵyl. Gyda llu o raglenni gwahanol fyddwn ni nid yn unig yn cofio ac yn dadansoddi yn y modd arferol, ond gobeithio y byddwn hefyd yn rhoi cyfle newydd i bobl glywed llais y storïwr a’r dyn unwaith eto, a chael blas o’r newydd ar ei greadigrwydd heintus.”

Ewch i'n gwefan i weld .

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf