Main content

Trydydd Rownd Cwpan Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Penwythnos trydedd rownd Cwpan Cymru o’n blaenau'r Sadwrn a’r Sul yma.

Dyma’r rownd pan mae timau uwchgynghrair Corbett Sports Cymru yn ymuno a’r gystadleuaeth, ac mae nifer o gemau diddorol ar gael.

Mae yna ddwy gêm rhwng timau sydd yn aelodau o’r uwch-gynghrair sef y Bala adre ar Faes Tegid yn erbyn Port Talbot, tra bydd Derwyddon Cefn adre yn erbyn Aberystwyth (a gyrhaeddodd y ffeinal y llynedd). Yn fy marn i mi fydd y Bala ac Aberystwyth yn camu ymlaen , ond pwy fydd yn ymuno a hwy, ac a fydd yna ryw ganlyniad annisgwyl yn codi.

Os am sioc, beth am Goleg Metropolitan Caerdydd i guro Prestatyn ?

Mae canlyniadau tîm y coleg wedi bod yn ffafriol hyd yn hyn, gyda buddugoliaeth o ddwy gol i ddim ar faes 3G Coleg Cyncoed yn erbyn Hwlffordd dydd Sadwrn diwethaf, gan osod y coleg yn y trydydd safle , dau bwynt yn unig y tu ôl i Hwlffordd sydd ar y brig. Bydd Hwlffordd eu hunain yn chwilio i greu syndod hefyd yn y gwpan gan fod rhaid iddynt deithio draw i Frychdyn i wynebu Airbus, gobaith hwyrach ond anodd ei chyflawni o bosib.

Mae yna dipyn o ddiddordeb ar Lannau Dyfrdwy wrth i lawer edrych ymlaen am y gêm rhwng Bwcle o Gynghrair Huws grey a Threffynnon, un adran yn is. Gem anodd iawn i Fwcle gan fod Treffynnon, a gyrhaeddodd rownd gynderfynol y gwpan y llynedd, wedi ennill pob un o’i gemau hyd yn hyn. D’oes gen i ddim rheswm i feddwl na fyddant yn debygol o golli hon chwaith.

Cyfle i Fangor ennill ychydig o hyder wrth iddynt wynebu Garden Village o ardal Abertawe ar lannau'r Fenai, tra bydd Caernarfon yn wynebu'r deiliad, Y Seintiau Newydd ar yr Oval mewn gem a gaiff ei darlledu ar Sgorio, brynhawn Sul am chwarter i un.

Ie digon i edrych ymlaen amdano yng nghwpan Cymru'r penwythnos yma, a digon o gemau i'n tynnu allan i ddilyn rhamant draddodiadol gemau cwpan.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Tachwedd 25, 2014