Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Tachwedd 25, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Ìý

Rhaglen Dylan Jones - Joanna Stallard

dadl - debate
Ty'r Cyffredin - House of Commons
araith - speech
ambell wleidydd - the odd politician
dewr - brave
ymddygiad - behaviour
cega a gweiddi - arguing and shouting
cymaint o barch - so much respect
hunlun - selfie
Gweinidog Ieuenctid - Minister for Youth

...dadl o lawr Ty'r Cyffredin. A cyn i chi gwyno, nid y math o ddadl dan ni wedi arfer ei chlywed o'r lle arbennig hwnnw fydd hon. Na, mi fuodd Joanna Stallard o Ysgol Dinas Bran, Llangollen yn siarad yn Nhy’r Cyffredin, efo llawer iawn o bobl ifanc eraill, fel rhan o ddigwyddiad arbennig. Dewisodd hi sôn am y bardd Hedd Wyn, neu Ellis Humphrey Evans i roi ei enw iawn iddo fo. Dw i'n siwr eich bod yn cofio'r stori am Hedd Wyn -os nad ydych chi , cerwch i chwilio am yr hanes - mae'n ddiddorol iawn. Dyma Joanna yn dechrau ar ei haraith..

Ìý

C2: Ifan Evans - Criced

cymaint - so much
sylwebaeth - commentary
sylwebu - to commentate
yn beryg(lus) - dangerous
tolc bach - a small dent
yn enwedig - especially
ugain pelawd - twenty overs
cefndir - background
yr ail lais - the second voice

Joanna Stallard yn fan'na yn siarad efo Dylan Jones am ei phrofiad yn siarad yn Nhy'r Cyffredin. Pan fydd hi'n Brif Weinidog, cofiwch mai yma clywoch chi ei henw gynta! A rwan ychydig o sylwebaeth criced. Ia, dwi'n gwybod mai mis Tachwedd ydy hi, a bod y tymor criced wedi gorffen. Ond mae hi'n haf yn Seland Newydd a dyma i chi Owain Llyr ar raglen Ifan Evans efo clip bach o gêm gafodd ei chwarae yn Seland Newydd yn ddiweddar. A does dim ots os oes gas ganddoch chi griced - mi wnewch chi fwynhau hyn...

Ìý

Rhaglen Dylan Jones - Seindorf yr Oakeley

Seindorf - band
anhygoel - incredible
chwarel - quarry
llwyddo - to succeed
tarddiad yr enw - the source of the name
wedi cael ei sefydlu - was established
fel petai - so to say
perchennog - owner
gwerthfawrogiad - appreciaton
caniatawyd - was allowed

Wel, mi roedd o'n ddoniol yndoedd? Ac mae'n rhaid bod Ifan Evans ac Owain Llyr wrth ei boddau efo'r clip yna i wrando arno bedair gwaith mewn llai na dau funud! John Glyn Jones sy nesa yn siarad efo Dylan Jones am Seindorf yr Oakeley. Fo ydy arweinydd y band ac mae o'n gwybod llawer iawn am hanes yr Oakley. Sut gafodd y band yr enw tybed? Wel mi gawn ni wybod hynny a llawer mwy o ffeithiau yn y clip nesa ma. Mi wnewch chi glywed John yn sôn am aelodau'r band yn cerdded dros y Crimea i gymryd rhan mewn cyngerdd. Rhag ofn i chi feddwl - Crimea Blaenau Ffestiniog ydy hyn a ddim Crimea yr Iwcrain!

Ìý

Bore Cothi - Cymraeg yng Ngwlad Pwyl

Gwlad Pwyl - Poland
cenhadu - to missionize
rhagarweiniad - introduction
llongyfarchiadau - congratulations
Gwyddeleg - Irish language
diwylliant - culture
yn ffynnu - thriving
cyfandir - continent
ynganu - pronunciation
acen estronol - foreign accent

Ychydig o hanes Seindorf yr Oakley yn fan'na gan John Glyn Jones yn siarad efo Dylan Jones. I Wlad Pwyl yr awn ni nesa i glywed Alek Bednarski yn esbonio wrth Shan Cothi pam penderfynodd o ddysgu Cymraeg. Roedd o'n byw yng Lublin yng Ngwlad Pwyl pan ddechreuodd o ddysgu ond erbyn hyn mae o'n rhugl. Dyma fo yn dweud ei hanes wrth Shan Cothi...

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Trydydd Rownd Cwpan Cymru