Main content

Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru - Dechrau gwasanaeth radio digidol DAB yn y de orllewin

Sut i wrando

O ddydd Gwener 6ed o Fedi 2013 bydd modd i wrandawyr rhannau helaeth o sir Gaerfyrddin a sir Benfro dderbyn gwasnaethau Radio Cymru a Radio Wales ar setiau radio DAB am y tro cyntaf.

Bydd gwrandawyr yn ardal trosglwyddyddion Carmel, Kilvey Hill a'r Preselau yn gallu derbyn y gwasanaeth yn syth, a gwrandawyr trosglwyddydd Greenhill yn ne sir Benfro rywbryd yn ystod 2014.

Os ydych chi'n byw yn yr ardaloedd yma, mae'n bosib y bydd angen i chi ail-diwnio eich set radio DAB er mwyn derbyn Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru am y tro cyntaf. Cewch hefyd nifer o wasanaethau radio masnachol newydd hefyd gyda'r newid hwn.

Os nad oeddech chi yn gallu derbyn Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru neu Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Wales ar DAB o'r blaen, ond am weld os allech chi fanteisio ar yr ardal drosglwyddo newydd:

* Gwnewch yn siwr fod antena eich set radio wedi ei ymestyn i'r eithaf, yna ail-diwniwch ("auto-tune" neu "auto-scan")

* Ar setiau lle mae modd gwneud scan llawn (full scan) bydd gofyn gwneud hyn oherwydd ni fydd scan lleol (local scan) yn canfod y plethiad newydd penodol yma am ei fod ar amledd sydd newydd ei roi i UK DAB (Sianel 10C).

Ceir mwy o wybodaeth ar:

Neu am wybodaeth bellach ffoniwch ni ar 03703 500 700.
Ni ddylai galwad gostio mwy na rhifau arferol sy'n dechrau gyda 01 neu 02.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Podlediad Pigion i Ddysgwyr 04 Medi 2013

Nesaf

Blog Ar y Marc: Rheol Newydd Camsefyll