Main content

Podlediad Pigion i Ddysgwyr 04 Medi 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Alex yn galw - James Williams

cyd-olygydd - co-editor
cylchgrawn - magazine
yn gyfrifol am - responsible for
clawr - cover
bwystfil - beast
trefnu - organising
dwlu ar - mad about
gwobrau - prizes
amhleserus - unpleasant
sbort - hwyl

"...efo ac Alex Jones ac ychydig o Glamour. Rwan, dwi'n siwr bod hynny ddim yn eich synnu, does neb mwy 'glam' nag Alex Jones nagoes? Ond nid dyna sy gen i mewn golwg. Ar ei rhaglen 'Alex yn galw' mae y seren o'r One Show yn galw mewn ar wahanol bobl, ac yn cael sgyrsiau diddorol iawn efo nhw. Yr wythnos diwetha galwodd hi ar y cyd-olygydd cylchgronnau James Williams. Mae James yn dod o Lanelli yn wreiddiol, ond yn gweithio yn Llundain i gylchgrawn Glamour erbyn hyn. Gofynnodd Alex iddo fo beth yn union mae’n wneud yn ei waith o ddydd i ddydd. Dyma oedd ei ateb..."


Rhaglen Nia Roberts - Rhys Williams

tor-cyfraith - lawlessness
bodoli - existing
rhyfel - war
achub - to rescue
gohebydd - correspondent
gwaethygu - getting worse
argyfwng - emergency
o dan warchau - under siege
nwy dagrau - tear gas
crefu - pleading

"Dach chi'n meddwl bod gwaith dyn neu ddynes camera yn un llawn 'glamour'? Mae hynny'n dibynnu mae'n debyg ar pa fath o waith sy'n cael ei roi i chi. Y dyn camera Rhys Williams oedd un o westai John Hardy ar raglen Nia Roberts ddydd Mercher. Mae Rhys wedi bod mewn llefydd peryglus iawn efo'i waith gan gynnwys Gogledd Iwerddon, Somalia, Gaza ac Afghanistan. Ond fuodd ei fywyd mewn peryg o gwbl? Gwrandewch ar rai o'i straeon..."

Yma Wyf Finnau I Fod - Bro Ddyfi

gwerthfawrogi - to appreciate
bwriadu - to intend
cefndir - background
cadw cysylltiad - keep in touch
agwedd - attitude
ieuenga - fenga/ifanca
eisoes - yn barod
yn unswydd - specifically
magwraeth - upbringing
tawelwch a llonydd - peace and quiet

"Hawdd iawn ydy anghofio pa mor ddewr ydy'r newyddiadurwyr a'r rhai sy tu ôl i'r camerâu wrth ddod â hanes rhyfeloedd i'n stafelloedd ffrynt ni. Cofiwch hanesion Rhys wrth wylio'r lluniau ofnadwy sydd i'w gweld o Syria y dyddiau hyn. Ar 'Yma Rwyf Innau i fod' yr wythnos hon mi gafodd Rhydian Puw ac Ann Fychan sgwrs efo Elen o ardal Bro Ddyfi, oedd wedi teithio'r byd mewn ffordd chydig mwy hamddenol na Rhys Williams. Ar ôl teithio, mi ddaeth Elen yn ôl i ardal Machynlleth er mwyn magu teulu. Dyma'r ardal yr oedd Rhydian ac Ann wedi sgwennu cân amdani, ac mi ddechreuwn ni efo'r gân honno... "

Roedd Mozart yn chwarae Billiards - O solo mio

cân draddodiadol - traditional song
Hen ffon fy Nain - My grandmothers old stick
y cystadleuydd nesa - the next competitor

"Elen yn fan'na yn gwneud yn dda i gofio am ei chyn athrawes! Mae'n rhaid i mi ddweud bod cân Rhydian ac Ann yn swnio dipyn yn well na'r gân nesa dach chi'n mynd i'w chlywed. Gêm banel gerddorol ydy 'Roedd Mozart yn chwarae Billiards'. Alwyn Humphreys sydd yn cadeirio efo Shan Cothi a Gareth Glyn yn gapteiniaid ar y ddau dîm. Mae Alwyn yn gosod tasgau digon anodd o dro i'w gilydd. Dyma i chi beth wnaeth o ofyn i Gareth Glyn ei wneud efo'r gân draddodiadol Gymraeg 'Hen ffon fy Nain' ...."