Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 8fed o Ebrill 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Galwad Cynnar - Cadw ieir

adar mudo - migratory birds
arwydd gwanwyn - a sign of spring
menter busnes - a business venture
yn gyhoeddus - publicly
braslun - outline
cynhyrchu - to produce
elw - profit
cyflwyniad - presentation
gwirioni - to dote
yn awchu am - yearning for 

" ...sgwrs rhwng Gerallt Pennant ac Ian Keith, pennaeth Ysgol San Sior, Llandudno. Am be fuon nhw'n sgwrsio tybed? Sut mae'r plant yn gwneud yn yr ysgol, faint o Gymraeg sy'n cael ei siarad ganddyn nhw, cau ysgolion bach? Na, coeliwch neu beidio mi fuon nhw'n sôn am gadw ieir. Ia, cadw ieir yn yr ysgol cofiwch! Ond pam? Dyma Ian Keith yn esbonio... "


C2 - Nigel Owens


dyfarnwr rhyngwladol - international referee
dala mas - caught out
dychmygu - to imagine
penodi hyfforddwr - to appoint a coach
celwydd - a lie
yn glou - yn sydyn
ymwybodol - aware
creulon - cruel
mo'yn - to fetch
modd i fyw(idiom) - made your day

" ...ieir yn yr ysgol, be nesa? Clywon ni'r sgwrs honno ddydd Sadwrn diwetha ar y rhaglen Galwad Cynnar. Tasen ni wedi ei chlywed hi ddydd Mawrth diwetha mi fasai'n hawdd meddwl mai tric Ffwl Ebrill oedd hi. Gaethoch chi eich dal gan dric y bore hwnnw o gwbl? Clywon ni ar C2 nos Fawrth bod y dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens wedi chwarae tric ar y rhai sy'n ei ddilyn ar Trydar, neu Twitter. Ond fel y clywon ni gan Ifan Evans, nid Nigel oedd yr unig un i chwarae triciau'r diwrnod hwnnw..."

Bore Cothi - Bopath Cymru

elusen - charity
hoe - a rest
yn orddibynnol - overdependant
rhoi lan - to give up
achlysur - occasion
rhedwraig - a female runner
annog - to encourage
ysfa - desire
becso - poeni
hanfodol bwysig - essential

"Ifan Evans yn fan'na yn sôn wrth Owain Llyr am rhai o'r triciau mae o wedi eu chwarae ar ddiwrnod Ffwl Ebrill. Dan ni'n mynd i glywed rwan gan ddwy ferch arbennig iawn, Rebecca James a Cadi. Mi fuodd y ddwy ohonyn nhw'n sgwrsio efo merch arbennig arall - Shan Cothi, ar y rhaglen Bore Cothi. Mi fydd Rebecca yn rhedeg marathon Llundain eleni i godi arian i elusen Bobath Cymru. Fel y cawn ni glywed mae gwaith Bopath wedi bod o help mawr i Cadi yn y gorffennol..."  

Caryl Parry Jones - Technoleg

bardd preswyl - resident poet
cywydd - a type of poem
y peth diriaethol - something concrete
diflannu - to disappear
dehongli - to interpret
llawysgrifen - handwriting
archif - archive
yr ohebiaeth - the correspondence
cymeradwyo - to approve
anelwig - unclear

"..a phob lwc ynde i Rebecca ac i Cadi hefyd? Dach chi'n medddwl ein bod ni wedi colli rhywbeth wrth i bobl anfon negeseuon e-bost at ei gilydd yn hytrach nag ysgrifennu llythyrau? Mi fuodd Llyr Gwyn Lewis, Bardd Preswyl Radio Cymru ar gyfer mis Ebrill, yn sgwrsio am hynny efo Caryl Parry Jones a Rachel Garside ddydd Iau. Mae Llyr wedi ysgrifennu cywydd am lythyrau, ac mi ddarllennodd o'r gerdd honno ar y rhaglen. Cawn ei chlywed hi mewn munud. Yn y gerdd mae LLyr yn sôn am ddod ar draws casgliad o lythyrau mewn archif, llythyrau oedd yn dweud stori. Ond dim ond un ochr o'r stori oedd o'n ei gael yn y llythyrau hynny... "

Mwy o negeseuon

Nesaf

Penblwydd Hapus Gwyn Pierce Owen !