Main content

Penblwydd Hapus Gwyn Pierce Owen !

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Dydd Gwener yma, mi fydd yn dipyn o achlysur yn Stadiwm y Book People ym Mangor. Na, nid am fod Bangor yn chwarae yn erbyn pencampwyr newydd Uwch gynghrair Cymru, sef y Seintiau Newydd, ond am fod un o hoelion wyth mwyaf pêl droed Cymru yn dathlu ei ben-blwydd.

Bydd llywydd Bangor, eu cyn cadeirydd a chyn dyfarnwr rhyngwladol, Gwyn Pierce Owen yn wyth deg oed. Llongyfarchiadau calonogol iddo, a dwi'n siŵr nad dyma’r unig gydnabyddiaeth fydd Gwyn yn ei gael.

Bu eisoes yn westai ar raglen Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, Dewi Llwyd, fore Sul diwethaf a diddorol oedd gwrando ar Gwyn yn llawn awch a brwdfrydedd, fel arfer, am y gêm a’i yrfa. Dyma gyn ddyfarnwr sydd wedi bod ymysg y gorau a welwyd, a hynny yn cynnwys yr hen Adran Gyntaf yn Lloegr (sef rhagflaenydd yr Uwch gynghrair presennol).

Bu hefyd yn dyfarnu gemau rhyngwladol a gemau clybiau cystadlaethau Ewropeaidd. Yn sgil ei boblogrwydd a'i ddoniau fel dyfarnwr cafodd hefyd wahoddiad i ddyfarnu yn yr Unol Daleithiau ble bu’n dyfarnu gêm a oedd yn cynnwys y diweddar George Best.

Wedi’r cyfnod llewyrchus yma, cadwodd Gwyn ei diddordeb yn y gêm (allai ddim meddwl am y gêm heb gyfraniad Gwyn), a daeth yn gadeirydd ar glwb Dinas Bangor.

Os oedd bod yn ddyfarnwr yn golygu fod rhaid i Gwyn for yn hollol ddi-duedd, yna un llygeidiog hollol mae’r cadeirydd wedi bod. Pan oeddwn yn rheoli Treffynnon yn Uwch gynghrair Cymru, roedd Gwyn fel draenen yn ein hystlys yn mynnu fod popeth a roddwyd yn erbyn Bangor yn hollol anheg a bod ei dîm yn cael mwy o gam na chôr aflwyddiannus mewn ‘steddfod.

Ar y llaw arall, pan gefais y cyfle i helpu Bangor fel rheolwr dros dro, dyma oedd yr arweiniad a’r gefnogaeth fwyaf y cefais yn y byd pêl droed. Gallaf ategu hyn wrth ddarllen erthygl mewn papur newydd cenedlaethol yn cyfeirio at yrfa rheolwr presennol Reading, sef cyn rheolwr Bangor, Nigel Adkins.

Yn yr erthygl, mae Adkins yn talu teyrnged enfawr i’w gyn cadeirydd gan egluro fod y safonau a osodwyd iddo gan Gwyn, fel rheolwr ifanc ar gychwyn gyrfa, wedi bod yn werthfawr dros ben, ac wedi gwneud iddo sylweddoli pa mor anodd yw rôl y dyfarnwr mewn gêm bel droed. Oherwydd hyn meddai Adkins, mae wedi sicrhau fod ganddo barch mawr at ddyfarnwyr.

Pan oeddwn ym Mangor, fel 'Mr Chairman' roeddwn yn cyfeirio at Gwyn a 'Mr Chairman' oedd o i bob un o'i chwaraewyr.

'Mr Cadeirydd' hwyrach ond cyfaill, cefnogwr, arweinydd, ffrind beirniadol a’r un person sydd wedi sefyll yn y bwlch gan sicrhau fod safonau uchel clwb enwog Dinas Bangor yn parhau.

Gwinllan a roddwyd i’w ofal ydi Bangor, i’w draddodi i’w gefnogwyr yn dreftadaeth dragwyddol.

Does dim modd mesur cyfraniad uchel a gwerthfawr Gwyn Pierce Owen i bêl droed yng Nghymru , ar hyd y gogledd ac yn bennaf i Fangor.

Diolch iddo am sicrhau y cadwer i'r oesoedd a ddel y glendid a fu.

Pen blwydd hapus iawn, Mr Chairman.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Ebrill 16, 2014