Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Rhagfyr 23, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Ìý

Dylan Jones - Taith y Doethion

Y Doethion - The Wise Men
Y Prif Weinidog - The First Minister
wastad - always
traddodiadol - traditional
bara lawr - laverbread
aelod anrhydeddus - honourable member
atgofion melys - sweet memories
tad-cu a mam-gu - taid a nain
dihuno - deffro
allwedd - goriad

...ychydig o hanes y Doethion, gan ei bod hi bron yn 'Ddolig! Ond sôn ydw i am ddoethion Radio Cymru sef Hywel Gwynfryn, Heledd Cynwal ac Aled Huws sydd yn teithio ar draws Cymru yr wythnos yma. Ym Mae Caerdydd dechreuodd y daith, ac fel y doethion yn y Beibl mi gaethon nhw sgwrs efo rhywun pwysig iawn. Na, ddim y Brenin Herod ond Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones...

Ìý

Dylan Jones - Alun 'Sbardun' Huws

teyrngedau - tributes
cyfansoddwr - composer
unigryw - unique
caneuon gwerin - folk songs
asio - to blend
diymhongar - modest
trechu - to defeat
rhyfeddol - amazing
cefn aruthrol - a huge support
yn chwith - strange

Un o ddoethion Radio Cymru - Hywel Gwynfryn yn fan'na yn sgwrsio efo Prif Weinidog Cymru - Carwyn Jones. Dydd Llun clywon ni'r newyddion trist am farwolaeth y cerddor Alun 'Sbardun' Huws. Buodd Sbardun yn canu efo bandiau fel Tebot Piws, Ac Eraill a Mynediad am Ddim, ers diwedd y chwedegau. Mae llawer iawn o deyrngedau wedi ei talu i Sbardun ac mi fedwch chi weld llawer ohonyn nhw ar wefan Cymru Fyw. Yn ogystal â pherfformio ysgrifennodd Alun lawer o ganeuon ar gyfer artistiaid eraill. Ar ddiwedd y clip yma cawn glywed Bryn Fôn yn canu un o'i ganeuon 'Strydoedd Aberstalwm' ond cyn hynny dyma deyrngedau dau fuodd yn gweithio efo Sbardun - Dewi Pws a Iestyn Garlick...

Ìý

Bore Cothi - Dan y Wenallt

Dan y Wenallt - Under Milk Wood
cyflwyno - to introduce
yn beryg(lus) - dangerous
gyrfa - career
ymdopi - to cope
pwysau - pressure
diweithdra - unemployment
Gwlad yr Haf - Somerset
nai - nephew
torri ei chefn hi - broken its back

'Strydoedd Aberstalwm' oedd honna efo Bryn Fôn yn ei chanu, un o ganeuon Alun 'Sbardun' Hughes fuodd farw yr wythnos diwetha. Fyddwch chi'n edrych ar y teledu rhyw lawer dros wyliau'r Nadolig? Beth bynnag arall byddwch chi'n ei wylio cofiwch am y ffilm 'Dan y Wenallt' fydd yn cael ei dangos ar S4C am naw o'r gloch ar y seithfed ar hugain o Ragfyr. Roedd y ffilm yn cael ei dangos am y tro cynta yr wythnos diwetha yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd ac aeth Shan Cothi yno i gael sgwrs efo'r prif actor Rhys Ifans. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Ìý

Bore Cothi - Y Doethion a'r Sgarlets

addasiad - adaptation
bachwr - hooker
hyfforddi - training
buddugoliaeth - victory
rhwyddach - haws
rhanbarthau - regions
o ddifri - seriously
hogia Mach - bechgyn Machynlleth
godro'r gwartheg - milking the cows
mewnwr - scrum half

Addasiad T James Jones o 'Under Milk Wood' ydy 'Dan y Wenallt' wrth gwrs. Cofiwch ei gwylio dros y Nadolig. Erbyn dydd Mawrth roedd taith Doethion Radio Radio Cymru wedi cyrraedd Parc y Scarlets, Llanelli. Mi gafodd Aled Huws sgwrs efo tri chwaraewr sy’n chwarae dros y Sgarlets a thros Gymru sef Emyr Philips, Rhodri Jones a Gareth Philips. Dyma'r tri yn dweud sut y byddan nhw'n treulio'r Nadolig...

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Radio Cymru Yn Cyhoeddi Golygyddion Gwadd

Nesaf

Tra Bo Dau: Nigel Owens a Tudur Owen