Ar ddiwedd blwyddyn brysur be well nac edrych yn ôl ar 2014 ac ymlaen at 2015 yn nghwmni dau o'n sêr amlycaf sydd wedi cael clamp o flwyddyn, .
Ar faes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, tawel am unwaith, cafom gyfle i roi'r byd yn ei le go iawn gyda dau sy'n gyfarwydd iawn â maes y sioe, ill dau yn gyfforddus iawn â'u traed ar y tir.
Yn ôl y gwybodusion mae Nigel wedi dyfarnu rhai o gemau gorau'r flwyddyn, Tudur yn sicr wedi mentro i dir newydd a chyhoeddi ei nofel gyntaf.
Nigel Owens, Tudur Owen a Nia Roberts
Cawn glywed sut mae'r ddau wedi cyrraedd y brig trwy droedio llwybrau digon anghonfensiynol.
Dau fentrus, dau ddigrifwr a dau sy'n gyfarwydd â phobol yn eu heclio!
Yn syml iawn, dau y bu'n fraint treulio prynhawn yn eu cwmni.
Mwynhewch a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.
Ìý