Main content

Tra Bo Dau: Christine James a Non Evans

Nia Roberts - Cyflwynydd

Mae hi’n chwe wythnos a mwy ers imi fod yn Llanelli ddiwethaf. Wythnos oedd yn y dre bryd hynny ac wrth ffarwelio â thre’r sosban, dim ond un peth oedd yn destun siom, y ffaith na chefais y cyfle i ymweld â bwyty braf Sosban. 

Fe fu sawl un dwi’n nabod yno’n gwledda yn ystod yr wythnos. Mawr fu’r trafod ar fenter Dwayne Peel a Stephen Jones a mawr hefyd fu’r canmol a chlodfori’r bwyd. Jest beth oeddwn i eisiau ei glywed dros frechdan a phaned o’r caffi gefn llwyfan!

Ta waeth, mi ges i gyfle yr wythnos yma i fynd i’r Sosban, nid i fwyta chwaith, ond i sgwrsio. Sgwrs efo "dwy" y tro yma a dwi’n gwybod y cewch chi, fel y cefais i, flas ar y sgwrs.

Nia Roberts, Non Evans a Christine James

Hon ydi’r "" olaf yn y gyfres, ac ar ôl cael cwmni , , , , , dyma gloi drwy dynnu dwy o ddau fyd tra gwahanol at ei gilydd…..jest i weld be fasa’n digwydd….

Athletwraig Rhyngwladol ac Archdderwydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain - dyna’r cyfuniad! Doedd Non Evans a’r Athro Christine James erioed wedi cyfarfod o’r blaen, ond fuo petha ddim yn hir cyn tanio. Ac i’r sosban, mi daflwyd sawl testun, Judo a Barddoni, Capiau a Choron, Six packs a Thaliesin, ac , yn annisgwyl, wrth i’r sosban ffrwtian, mi ddaeth yn amlwg fod gan y ddwy yma dipyn yn gyffredin.

Non Evans a Christine James

Dyma ddwy ddawnus a phenderfynol, dwy sydd wedi cyrraedd yr uchelfannau a dioddef cyfnodau o iselder hefyd. Dwy sydd wedi torri tir newydd a chreu hanes. Rwan, nid bob dydd da chi’n cael cwmni fel’na!

Felly dwi argymell i bob Joni Bach a Meri Ann ymuno efo ni .

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf