Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Medi 23, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Post Cyntaf - Gwilym Roberts - Bosnia

gweithwyr dyngarol - aid workers
erlyn - to prosecute
gwaedlyd - bloody
awyddus - eager
Cynhedloedd Unedig - United Nations
nwyddau - goods
ffin - border
gynau - guns
lifrau - livery
yn y fan a'r lle - at the scene

...ac mewn cyfnod pan mae gweithwyr dyngarol yn cael eu herlyn a’u lladd mewn gwledydd ar draws y byd, mae'n amlwg bod rhaid bod yn berson arbennig a dewr iawn i wneud y math yma o waith. Fore Mawrth bu Gwilym Roberts yn sôn am ei waith dyngarol yn Bosnia yn ystod y rhyfel yno ar ddechrau'r nawdegau. Dyma Gwilym yn egluro pam yr oedd o'n awyddus i helpu'r bobl a oedd yn dioddef yn sgil y rhyfel.


C2 - Al Lewis

I ben - to an end
bwriad - intention
dylanwad - influence
cerddorion - musicians
syth bin - straight away
cryn dipyn - quite a bit
naws - essence
apelio at - appeal to

Gwilym Roberts yn fan 'na yn sôn am ei brofiadau yn ystod rhyfel Bosnia. Daeth rhyfeloedd Iwgoslafia i ben yn 1999. Dim ond 15 oed oedd y cerddor Al Lewis bryd hynny, yn byw yn Llandudno heb fawr o fwriad canu'n broffesiynol. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae Al yn lais cyfarwydd yma yng Nghymru, yn Lloegr a thu hwnt. Nos Fercher cafodd Lisa Gwilym sgwrs gydag Al am ei brosiect cerddorol newydd, Lewis and Leigh ac am ddylanwad canu gwald ar ei gerddoriaeth. O Landudno i Nashville; pwy fysa'n meddwl, ynde?


Cofio - Ffrogiau Shirley Bassey

arwerthiant - auction
ffrogiau - dresses
trawiadol - distinctive
fforddio - to afford
pallu - gwrthod
creadigaethau - creations
trysori - to treasure
ysu - to hanker
bidio - to bid
cyfoethocach - richer

...ac o un o sêr newydd y sîn gerddorol i'r seren fwyaf yr awn ni nesa'. Neb llai na Shirley Bassey. Yn y rhaglen 'Cofio' nos Fercher cawson ni glywed Sian Thomas a Phil Tarling mewn arwerthiant ffrogiau Shirley Bassey yn Christies nôl yn 2003. Mae Shirley Bassey'n enwog am ei llais, ond hefyd am ei ffrogiau sy yr un mor drawiadol a'i vibrato. Rhaid oedd bod yn 'Big Spender' go iawn i fedru fforddio'r ffrogiau yma! Dyma Sian gyda'r hanes.

Ìý

Bore Cothi - "Gareth Bonello - The Gentle Good"

cyfoeth - wealth
cyfnod - period
profiadau - experiences
barddoniaeth - poetry
ysbrydoli - to inspire
bardd - poet
ysbrydol - spiritual
gwyddonol - scientific
meddygaeth - medicine
dyhead - aspiration

Ac o gyfoeth Christies i Tseina yr awn ni nesa. Nôl yn Hydref 2011 aeth y cerddor Gareth Bonello i Chengdu, Tseina am gyfnod yn gweithio gyda chwmni theatr a pherfformio yno. Mae profiadau Gareth yn Tseina a'i ddiddordeb ym marddoniaeth a cherddoriaeth werin y wlad wedi ysbrydoli yr albwm diweddaraf gan 'The Gentle Good'. Fore Mercher cafodd Heledd Cynwal y cyfle i holi mwy ar Gareth am ei gyfnod yn Tseina. Ar ddiwedd y clip cewch wrando ar y gân 'Yr Wylan Fri' oddi ar yr albwm. Mynhewch!

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Tra Bo Dau: Christine James a Non Evans

Nesaf

Cartrefi Cymru: Caer Gai