Main content

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 9

Ceri Wyn Jones

Meuryn y Talwrn

Tagiwyd gyda:

Rhaglen gyntaf rownd yr 8 olaf, 23 Mehefin 2013: Neuadd Llanystumdwy

Roedd talyrna yn Llanystumdwy yn esgus i’r Meuryn fynd am dro i’r gorffennol heno.

1975 oedd y flwyddyn. ÌýA’n teulu ni (am y tro cyntaf a’r tro olaf) yn cael wythnos o wyliau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a oedd yn cael ei chynnal y flwyddyn honno yng Nghricieth ym Mro Dwyfor.

Wythnos mewn carafan ym Morfa Bychan (er nad oeddem yn berchen ar garafan!), a hynny yng nghwmni sawl teulu ifanc arall o Aberteifi. Wythnos o fellt a tharanau.

Dyna oedd fy ymweliad cyntaf i â’r ‘Gogledd’, ac ymysg y llefydd ecsotig roedd yn rhaid talu gwrogaeth iddyn nhw’r wythnos honno oedd Llanystumdwy, a bedd David Lloyd George yn benodol, er nad oeddwn i (a minnau’n saith a hanner oed) yn arbennig o impressed a dweud y gwir.

Beth felly oedd uchafbwynt yr wythnos honno? Ai awdl fuddugol Gerallt Lloyd Owen ar y testun ‘Afon’ (testun addas iawn o gofio’r tywydd mawr)? Nage. ÌýAi rhyfeddod y machlud dros Benrhyn LlÅ·n? Nage wir. Uchafbwynt yr wythnos i ni blant oedd gweld Mr Alun Tegryn Davies yn ei dryncs (rhai marŵn) wrth i’r teuluoedd fynd i nofio y peth cynta bob bore.

A pham fod hyn yn uchafbwynt? Wel, Alun Tegryn oedd ein prifathro ni i gyd yn Ysgol Gynradd Aberteifi ar y pryd, a go brin y gwelsom ni ef erioed mewn unrhyw beth heblaw siwt a thei!

A beth sydd a wnelo hyn â thalwrn rhwng timau’r Tywysogion a Hiraethog? Dim rhyw lawer, mae’n debyg. Yr unig gysylltiad o bosib oedd y ffaith i ni ricordio’r ornest yn Neuadd Llanystumdwy, neuadd a agorwyd yn swyddogol yn Hydref 1912 gan neb llai na’r Lloyd George hwnnw y bûm yn ymweld â’i fedd e 38 o flynyddoedd yn ôl!

Roedd un o drigolion amlyca’ Llanystumdwy yn aelod o dîm Y Tywysogion heno, sef y Prifardd Twm Morys, yr hwn sydd yn hel ei bac tua Gŵyl Werin y Smithsonian yn Washington cyn bo hir.

Ond rwy’n siwr y byddai Twm yn barod i ildio fod ’na aelod hyd yn oed yn bwysicach nag e yn y tîm heno, a hwnnw oedd Guto Dafydd, , neu Eisteddfod Genedlaethol Clwb Rygbi Crymych a’r Fro ar lafar gwlad.

Mae Guto wedi bod yn curo ar ddrysau tebyg ers blynyddoedd, a chanddo ef y ces i un o’r cyfaddefiadau mwya doeth a gonest ag a glywais gan awdur ifanc erioed: ‘Dwi’n falch mod i heb ennill tan nawr’, gan ei fod e gymaint yn falchach o’r gwaith a ddanfonodd i’r gystadleuaeth eleni na’r hyn a weithiwyd ganddo yn y gorffennol. (Mae’n debygol taw ‘rŵan’ nid ‘nawr’ a ddyweddodd e go iawn, dwi’n cyfadde!)

Beth bynnag, o ran yr ymdrechion nas dewisiwyd i’r darllediad, roedd y cwpledi hyn gan Ffion Gwen a John Glyn Jones:

Fy her sy’n haf i eraill
am mai poen i mi yw paill.

Hiraethog

Un gafod o baill gyfyd
Y bardd yn brifardd rhyw bryd.Ìý

Hiraethog

Mae’r cyntaf yn cynnwys, yn ôl arfer Hiraethog erbyn hyn, y gair bach llawer-rhy-gyfleus-a-hollgynhwysol -ei-ystyr-a-honedig-ddibendraw-ei-arwyddocâd, sef ‘her’, tra bod llinell gyntaf yr ail yn cynnwys y bai cynganeddol a elwir proest i’r odl (‘gafod’/’gyfyd’). Does dim hawl cynganeddu dau air sydd yn gorffen â’r un cytseiniaid os yw llafariaid eu sillaf olaf o’r un hyd, yn yr achos hwn ‘od’ ac ‘yd’. Dwi’n difaru sgrifennu’r frawddeg ola’ ‘na’n barod!

Beth am orffen â rhywbeth mwy gwamal:

Gofynnais yn gwrtais i’r plismon
“Lle gebyst aeth Castell Caernarfon?â€
“Pan glywodd criw'r Blac
fod ail Arwisgo on-trac
mi ddymchwelon nhw’r cyfan, y cnafon!â€

Y Tywysogion

I glywed rhaglen ddiweddaraf Y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'rÌýcerddi ddaeth i'r brigÌýewch iÌýwefanÌý

  • Ìý

Tagiwyd gyda:

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cyhoeddi Gemau’r Tymor Nesa

Nesaf

Blog Ar y Marc - Pat Moran