Main content

Cyhoeddi Gemau’r Tymor Nesa

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ydych chi wedi rhuthro allan i brynu tocyn tymor i weld Caerdydd neu Abertawe'r tymor nesaf? Rhaid peidio ag anghofio dychweliad Casnewydd i wlad yr addewid chwaith, nac ymdrechion Wrecsam unwaith eto i ymuno a’r daith, mae’r tîm o Went wedi llwyddo i'w wneud.

Mae trefn y gemau wedi eu cyhoeddi ar gyfer y tymor cyffrous newydd a bydd Caerdydd yn teithio i Lundain i wynebu West Ham i agor eu tymor . Llinyn mesur eithaf teg, gyda West Ham wedi addasu i'r Uwchgynghrair ar ôl tymor, a Chaerdydd yn gobeithio anelu at yr un peth y tymor yma. Yn y gêm gyntaf adref, a honno yn erbyn cyfoeth yr aur, thus a mur o orllewin Manceinion, sef Manchester City.

Draw ar y Liberty bydd Abertawe, a fydd yn ôl barn rhai o’r gwybodusion, yn anelu am le yn y chwech uchaf erbyn diwedd y tymor, yn dechrau gyda chyfres o gemau anodd. Adre i Manchester United, y pencampwyr ar benwythnos cyntaf y tymor, yna i ffwrdd i ymweld â Gareth Bale (os bydd yn dal efo Tottenham, ac i ffwrdd yn West Bromwich Albion, cyn croesawu Lerpwl, Brendon Rodgers a Joe Allen i’r Liberty ym Mis Medi.

Dau ddyddiad pwysig i’w cofio - eisteddfod beldroed Cymru i'w chynnal yng Nghaerdydd ar benwythnos yr 2il o Dachwedd, ac yna yn Abertawe ar yr 8fed o Chwefror. Ond mae’n debyg fydd y cwmnïau teledu a’r heddlu yn dylanwadu ar ba ddydd, a pha amser fyddai tylwyth de yn creu eu hudol wyrthiau - ‘ai Caerdydd yw cewri’r de; neu Abertawe, bêr eu tiwn! Wel dyna fy nghyfraniad i tuag at yr eisteddfod fodd bynnag! Fydd yna fawr o hedd na thangnefedd yn y ddwy gêm yma - mwy na thebyg mai criw o gefnogwyr croes eu cyswllt fydd ar lusg ar draws y lle, yn llawn eu sain ymysg ffair y ffrost, y ffrwst a’r ymffrostio - ie, dwy ddarbi'r i'r de - fab’ lus!

Dim lle i laesu dwylo ar Old Trafford nac i Jose Mourinho yn Chelsea chwaith. Ar y bedwaredd ar hugain o Awst, bydd David Moyes yn wynebu Chelsea, Jose a gweddillion Rafa Benitez yn Old Trafford. Wel dyna gychwyn cyffrous!

Peidier chwaith ac anghofio Casnewydd. Croesawu Accrington Stanley i Rodney Parade ar y Sadwrn agoriadol yn Adran Dau, taith i Northampton yr wythnos ddilynol a gem ddarbi yn erbyn Bristol Rovers i ddilyn.

Cyn gwirioni dros drefn y gemau cynghrair yma, peidier ag anghofio y bydd trefn gemau ar gyfer rowndiau agoriadol Cynghrair Ewropa yn cael eu Cynnal dydd Llun, y 24ain o Fehefin.

Bydd y Bala, Airbus a Phrestatyn yn llawn awch a brwdfrydedd, a bydd Ar y Marc yn darlledu yn fyw o’r Bala ar fore Sadwrn y 28ain, gan fod gem gyntaf y Bala ar lwyfan Ewrop yn cael ei gynnal ar y 4ydd o Orffennaf. Bydd yna ddisgwyl mawr mewn tair ardal o ogledd Cymru am y gemau yma.

Gwyliwch y gemau!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 9